Text heading: Unit Nineteen - a pop-up space on Little Wind Street, Swansea.

Yn fyfyrwyr yn Y Drindod Dewi Sant trefnodd Sam Dymock-Brown, Ryan Harding, Radu Scinteie a Michalini Bujak digwyddiad arddangosfa blwyddyn gyntaf Ysgol Fusnes Abertawe yn Unit Nineteen yn Abertawe.

Arddangosodd chwe deg wyth o fyfyrwyr o Ysgol Fusnes Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant waith eu semester cyntaf mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Unit Nineteen yn Abertawe.

Pan ddechreuasant eu cwrs gradd ym mis Medi, dywedwyd wrth y myfyrwyr y byddai eu 12 wythnos gyntaf o astudio yn gysylltiedig â phrosiect byw a chanddo ffocws ar dri faes penodol o’r cwrs Busnes a Rheolaeth – Marchnata, Adnoddau Dynol ac Ymgysylltu â’r Gymuned.

Gwahoddwyd deuddeg o sefydliadau elusengar i gwrdd â’r myfyrwyr ac i gyflwyno eu prosiectau iddynt, ac yna cafodd y myfyrwyr y cyfle i ddewis gyda pha sefydliadau yr hoffent weithio.

Roedd y sefydliadau’n cynnwys ysgol leol, elusen digartrefedd a grŵp theatr a bu’n rhaid i’r myfyrwyr drefnu ystod o brosiectau gan ddogfennu eu gweithgareddau a’u hymgyrchoedd drwy greu gwefannau a chyfryngau cymdeithasol pwrpasol.

Sam Dymock-Brown – Cydlynwyr Arddangosfa Prosiect Uned Un Deg Naw – Rheolaeth Fusnes

“Roedd trefnu’r digwyddiad hwn, yn golygu cydlynu ein cyfoedion a rhyngweithio gyda’r grŵp cyfan. Rydym wedi gorfod meddwl tu allan i’r bocs i wneud y noson hon yn llawn hwyl.”

Ryan Harding – Cydlynwyr Arddangosfa Prosiect Uned Un Deg Naw – Rheolaeth Fusnes

 “Bu inni drefnu’r digwyddiad drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, e-byst, cydlynu’r cyfryngau a threfnu’r band, ayyb.”

Radu Scinteie – Cydlynwyr Arddangosfa Prosiect Uned Un Deg Naw – Rheolaeth Fusnes

“Mae’r darlithwyr wedi bod yn rhyngweithiol gan eich gwthio i ymgysylltu ag eraill mewn gwahanol sefyllfaoedd, mae’n ffocysu’n agos ar waith tîm. Rwyf hefyd wedi dysgu sgiliau newydd mewn cyfryngau cymdeithasol, dylunio taflenni a chynhyrchu fideo.”

Michalini Bujak – Cydlynwyr Arddangosfa Prosiect Uned Un Deg Naw – Busnes a Chyllid

“Mae fy rôl wedi cynnwys gofalu am y grwpiau a pharatoi arolwg adborth i fesur llwyddiant y digwyddiad er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer y digwyddiad nesaf. Mae’r digwyddiad yma wedi ein galluogi i arddangos deilliannau’r prosiect, fel, arian a godwyd neu ymwybyddiaeth a godwyd. Dangos pwysigrwydd pob elusen a’r hyn a gyflawnodd y grwpiau.”

Unit Nineteen Showcase

Unit Nineteen Showcase

Unit Nineteen Showcase