Skip page header and navigation

Prosiect Scale

Scale Project

Scale header

Bydd y prosiect Scale yn rhedeg trwy gydol 2024 a bydd yn darparu cefnogaeth i fentrau Micro/Bach, entrepreneuriaid, a graddedigion yn Sir Abertawe gyda’r bwriad o ehangu busnesau presennol, sefydlu busnesau newydd lleol a datblygu llwyfan cynaliadwy ar gyfer twf busnes o fewn y rhanbarth. Bydd y prosiect yn cynnig:

  • Rhaglen lansio a chyflymu ar gyfer graddedigion ac unigolion sydd am ddechrau menter newydd yn sir Abertawe.
  • Amrywiaeth o weithdai, digwyddiadau, a chymorth ymchwil a datblygu (Y&D) un-i-un i helpu busnesau presennol Abertawe i gynhyrchu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd a chreu swyddi newydd.

Ariennir Scale ar y cyd drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a weinyddir gan Gyngor Abertawe a’i chyflwyno gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae Scale yn agored i holl fusnesau micro/bach yn Abertawe yn ogystal ag unigolion sydd am ddechrau menter newydd.

Os ydych chi’n fenter, yn entrepreneur, yn raddedig neu’n unigolyn â syniad busnes yn Abertawe, beth am gysylltu â ni i ddysgu mwy am sut y gall y prosiect Scale eich helpu.

Cysylltwch â Ni 

Email: scale@uwtsd.ac.uk
01792 481232

Gweithdai

Drwy gydol 2024 bydd Scale yn cyflwyno cyfres o weithdai sy’n canolbwyntio ar fusnes. 

Bydd gweithdai Scale yn cyflwyno prosesau, technolegau ac arferion newydd i gefnogi datblygiad eich busnes 

Bydd y gweithdai’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau megis y cyfryngau cymdeithasol, Deallusrwydd Artiffisial (AI), sganio ac argraffu 3D, Adnoddau Dynol… a llawer mwy! Bydd y gweithdai’n rhedeg gydol 2024 a chaiff rhestr lawn ei chyhoeddi cyn hir. Ymunwch â’n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Rydym ni’n awyddus i glywed 

  • Dim byd o gwbl, mae’r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim i’r rheini â chyfeiriad busnes o fewn Dinas a Sir Abertawe.  

  • Bydd yr holl ddigwyddiadau i ddod yn cael eu hysbysu ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.   Byddwch chi’n gallu cofrestru o’r wefan hon wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

    Eisiau gwneud i’ch busnes dyfu? cofrestrwch am ein gweithdai yma!

    Caiff gweithdai sydd i ddod eu cyhoeddi yma yn ogystal ag ar ein holl sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.   

Ymchwil a datblygu cydweithredol

Drwy gydol 2024 bydd Scale yn gweithio gyda mentrau ar brosiectau Ymchwil a Datblygu (YaD) cydweithredol. 

Oes gennych chi her ymchwil y mae angen help arnoch ar ei chyfer? Os ydy’ch busnes yn ymwneud â datblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd, efallai y gallwn ni helpu drwy brosiect ymchwil a datblygu. 
 

Mae gennym ni arbenigedd mewn meysydd ymchwil allweddol yn cynnwys: 

  • Dylunio cynnyrch a llif gwaith datblygu
  • Atebion dylunio cynhyrchiol drwy CAD ac AI
  • Prototeipio. O sgiliau gweithdy traddodiadol i fodelau digidol ac argraffu 3D
  • Technolegau cipio digidol 
  • Amgylcheddau Realiti Rhithwir 
  • Rhyngweithio dynol a gwerthuso defnyddioldeb 
  • Thermograffi
  • Mapio pwysedd cyffyrddol 
  • Cydweithrediad fydd yr Ymchwil a Datblygu heb unrhyw ‘gost ariannol’.  Yn hytrach, disgwylir i fentrau sy’n cymryd rhan gyfrannu amser staff i arddangos cydweithrediad go iawn.  Gallwn ni drafod hyn â chi.

  • Llenwch ein ffurflen gwmpasu ar-lein i wneud cais neu anfonwch e-bost atom.

Lansio – rhaglen 4 wythnos

Mae’r rhaglen bedair wythnos hon o 4 sesiwn 3 awr o hyd unwaith yr wythnos, ar gyfer unrhyw un a hoffai ymchwilio i ddechrau ei fusnes ei hun.   

Lansio – cael eich syniadau’n barod am fusnes mewn 4 wythnos

Allech chi fod yn fos arnoch chi’ch hun? 
Ydych chi’n barod i ddechrau ar daith anhygoel i ddechrau busnes? Does dim angen edrych ymhellach, oherwydd mae ein Cwrs Dechrau Busnes yma i roi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i chi i gicdanio eich taith entrepreneuraidd. 

Yn y cwrs hwn sy’n llawn gwybodaeth rydym ni’n cyfuno’r holl wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch chi i ddechrau eich busnes eich hun yn llwyddiannus â thîm o arbenigwyr cyfeillgar a hawdd siarad â nhw sydd â blynyddoedd o brofiad entrepreneuraidd.  Mae ein tîm menter wedi cefnogi cannoedd o fusnesau newydd ac maen nhw wedi ymrwymo i’ch arwain chi bob cam o’r ffordd. 

Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch chi’n treiddio’n ddwfn i fyd diddorol busnesau newydd, gan ddysgu strategaethau amhrisiadwy i droi’ch syniadau busnes gwych yn realiti.  O lunio cynlluniau busnes diffiniedig i ddeall tueddiadau’r farchnad a mireinio eich sgiliau marchnata, mae popeth yn ei le ar eich cyfer. 

Ond arhoswch, mae rhagor! Rydym ni’n credu bod profiad dysgu da’n mynd law yn llaw â hwyl a rhyngweithio.  Mae ein cwrs wedi’i lunio â gweithdai rhyngweithiol, trafodaethau grŵp, ac ymarferion a fydd yn eich ymddiddori ac yn eich herio.  Cewch y cyfle i gysylltu â’ch cyd darpar entrepreneuriaid, tanio syniadau, ac adeiladu rhwydwaith a fydd yn eich cefnogi gydol eich taith entrepreneuraidd. 

Ar ddiwedd y cwrs, bydd gennych chi ddealltwriaeth gynhwysfawr o hanfodion busnes, meddylfryd entrepreneuraidd, ac ymdeimlad o hyder a fydd yn eich gyrru yn eich blaen.  

 Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ennill yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i ffynnu ym myd busnes. Cliciwch y botwm “Cofrestru” nawr i gadw eich lle ar ein Cwrs Dechrau Busnes.  Gadewch i ni droi eich breuddwydion entrepreneuraidd yn realiti, gyda’n gilydd!

Cofiwch, mae’r ffordd i lwyddiant yn cychwyn gyda’r cam cyntaf.  Dechreuwch heddiw, a darganfod byd hunangyflogaeth. 

    • Mynd â’ch syniad a’i droi’n gynnig cadarn i gwsmeriaid  
    • Datblygu eich cynllun busnes a rhagolygon ariannol   
    • Deall sut i ddatblygu eich cynnyrch neu wasanaeth  
    • Ystyried datblygu ffrydiau refeniw  
    • Marchnata a phrisio eich cynnyrch neu wasanaeth  
    • Deall strwythurau costau  
    • Elfennau cyfreithiol masnachu yn cynnwys strwythurau cyfreithiol a threth  
    • Sut i redeg eich busnes eich hun, o ariannu i weinyddu, staff i adeiladau 

    Mae’r rhaglen hon yn cael ei chynnal dros bedair sesiwn 3 awr o hyd yn Abertawe, a bydd yn rhoi i chi’r holl help a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i’ch cael eich hunan yn barod am eich cwsmer cyntaf a dod â’r incwm mawr ei angen i mewn.

    Yn ystod y sesiynau byddwn ni’n edrych ar sut i ddechrau arni, dod o hyd i gwsmeriaid, a phethau ymarferol rhedeg eich busnes eich hun.  

    Beth sy’n eich cadw yn ôl? Mae tîm SCALE yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i fynd â’ch syniadau busnes i’r lefel nesaf.

Sbarduno – rhaglen 12 wythnos

Croeso i raglen Sbarduno SCALE, lle mae arloesi’n cwrdd â sbarduno! Dechreuwch ar daith drawsffurfiol 12 wythnos a fydd yn chwyldroi eich dulliau ar gyfer busnes. Mae ein Cwrs Twf Busnesau wedi’i lunio i entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau sy’n barod i fynd â’u mentrau i uchelfannau newydd. 

Gydol y profiad trochol hwn, byddwch chi’n plymio i gynllunio strategol, meistroli marchnata, craffter ariannol, a hanfodion arweinyddiaeth.  Bob wythnos bydd pennod newydd yn natblygiad eich busnes yn ymagor gyda help Dosbarthiadau Meistr dan arweiniad Arbenigwyr Diwydiant. 

P’un a ydych yn fusnes newydd sy’n dymuno tyfu’n gyflym neu’n fusnes sefydledig sy’n chwilio am bersbectif ffres, mae’r cwrs hwn yn rhoi i chi’r offer a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen am dwf parhaus.  Paratowch i godi eich busnes, cysylltu â chymheiriaid o’r un anian, a throi eich dyheadau o ran twf yn realiti strategol.  Croeso i 12 wythnos drawsffurfiol a fydd yn ail-lunio llwybr llwyddiant eich busnes!

Mae’r rhaglen hon yn rhad ac am ddim ac i berchnogion busnes Abertawe sy’n dymuno datblygu eu syniadau a’u busnes ymhellach.  Cynigir y rhaglen fel 12 sesiwn 2-3 awr o hyd yn Abertawe a bydd yn eich helpu i ddatblygu’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i adeiladu ar yr hyn rydych chi eisoes wedi’i gyflawni yn eich busnes.   

Yn ystod y rhaglen byddwn ni’n edrych ar strwythur a materion ariannol eich busnes, cyfleoedd am fuddsoddi yn ogystal â pharatoi dogfennau megis cynlluniau ariannol a busnes ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd eraill am dwf.   

    • Edrych ar sut i dyfu eich busnes mewn ffordd wedi’i strwythuro sy’n ariannol ddiogel 
    • Adolygu eich cynlluniau cyfredol ac a ydyn nhw’n addas i’r dyfodol  
    • Cryfhau eich cynlluniau, nodau a gweledigaeth i’r dyfodol  
    • Sicrhau bod gennych y rhinweddau arwain a rheoli ar gyfer eich cynlluniau i’r dyfodol   
    • Adolygu eich sylfaen gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol  
    • Ystyried gwahanol fodelau busnes i dyfu eich busnes   
    • Datblygu cynllun strategol   

Scale Project

Scale footer