Skip page header and navigation

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Cydnabyddiaeth i’r Drindod Dewi Sant am gynhyrchu ymchwil sy’n arwain yn fyd-eang ac sy’n rhagorol yn rhyngwladol

Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 yn dangos bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynhyrchu ymchwil sy’n arwain yn fyd-eang ac sy’n rhagorol yn rhyngwladol.

Research Excellence Framework 2021 Long Logo

Mae prif ganlyniadau’r Drindod Dewi Sant yn REF2021 yn cynnwys y canlynol:

  • Mae’r Drindod Dewi Sant yn 4ydd yng Nghymru am effaith, gyda 74% o ymchwil y Brifysgol yn cael ei barnu fel un sy’n darparu effeithiau eithriadol a sylweddol iawn i gymdeithas, diwylliant a diwydiant.
  • Mae 49% o’r ymchwil wedi’i raddio 4* (sy’n arwain yn fyd-eang) neu 3* (sy’n rhagorol yn rhyngwladol), o feysydd Celf a Dylunio, Addysg, Ieithoedd Celtaidd a Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, a Seicoleg.
  • Cafodd 100% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd radd 4* (rhagorol) neu 3* (sylweddol iawn) am ei effaith.
  • Cafodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Addysg ei raddio 3* (sylweddol iawn) am ei effaith ar bolisi ac ymarfer addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Cafodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Diwinyddiaeth a Chrefydd ei raddio 4* (rhagorol) neu 3* (sylweddol iawn) am ei effaith.

Hwn oedd y cyflwyniad mwyaf hyd yma i’r REF gan y Drindod Dewi Sant, ac un o’r prif ddatblygiadau i’r Brifysgol yn REF2021 oedd bod y maes Addysg wedi gwneud cyflwyniadau i’w hasesu am y tro cyntaf. Amlyga hyn y modd y mae ymchwil a wneir gan y Brifysgol yn cyfrannu at ddatblygu a thrafod polisi addysg yng Nghymru ac yn arbennig Cwricwlwm newydd Cymru.

Un enghraifft wych o effaith ymchwil y Brifysgol yw cyfraniad y Drindod Dewi Sant at brosiect CAMAU, sydd wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu dealltwriaeth system addysg Cymru o gynnydd dysgwyr. Roedd y gwaith pwysig hwn mor ddylanwadol fel iddo gael ei ymestyn i ail gam yn ddiweddar.

At ei gilydd, derbyniodd 49% o’r ymchwil radd 4* (sy’n arwain yn fyd-eang) neu 3* (sy’n rhagorol yn rhyngwladol), ym meysydd Celf a Dylunio, Addysg, Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, a Seicoleg.

  • Mae 84% o’r allbwn ymchwil o ansawdd rhyngwladol, gydag ymchwil sy’n arwain yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol yn y Dyniaethau a Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol (20% yn  arwain yn fyd-eang, 20% yn rhagorol yn rhyngwladol) ac Astudiaethau Celtaidd (20% yn arwain yn fyd-eang, 50% yn rhagorol yn rhyngwladol).  
  • Roedd 27% o’r allbwn ymchwil mewn addysg hefyd yn rhagorol yn rhyngwladol neu’n well, canlyniad ardderchog ar gyfer cyflwyniad cyntaf y maes.  Gwelir potensial twf sylweddol ym maes Seicoleg gyda mwy na thraean o’r ymchwil o ansawdd rhyngwladol.
  • Mae ymchwil a gyflwynwyd ym maes Celf a Dylunio (37% yn rhagorol yn rhyngwladol) yn dangos ein hymrwymiad i ymchwil arloesol sy’n seiliedig ar arfer i gefnogi ein hamgylchedd cyfnewid gwybodaeth ac arloesi rhagorol.  
  • Daeth y Drindod Dewi Sant yn 4ydd yng Nghymru am effaith, a barnwyd bod 74% o ymchwil y Brifysgol yn darparu effeithiau rhagorol a sylweddol iawn i gymdeithas, diwylliant a diwydiant.
  • Derbyniodd 100% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Ieithoedd Llenyddiaeth Geltaidd radd 4* (50% yn rhagorol) neu 3* (50% yn sylweddol iawn) o ran ei effaith.
  • Derbyniodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Addysg radd 3* (sylweddol iawn) am ei effaith ar bolisi ac arfer addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Derbyniodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Celf a Dylunio radd 4* (25% yn rhagorol) neu 3* (50% yn sylweddol iawn) o ran ei effaith.
  • Derbyniodd 75% o’r ymchwil a gyflwynwyd ar gyfer Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol radd 4* (50% yn rhagorol) neu 3* (25% yn sylweddol iawn) o ran ei effaith.
  • Derbyniodd 85% o’r amgylchedd ymchwil mewn Celf a Dylunio radd 3* o ran ei addasrwydd i gynhyrchu ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol a’i effaith sylweddol iawn.  
  • Barnwyd bod 87% o amgylchedd ymchwil y brifysgol yn cefnogi ymchwil o ansawdd rhyngwladol ac o effaith sylweddol, gyda chryfderau pellach mewn Astudiaethau Celtaidd, ac mae Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol / y Dyniaethau yn cefnogi allbwn ac effaith ymchwil rhagorol yn rhyngwladol (DAC, 40% yn 3*) ac sy’n arwain yn fyd-eang (Ast. Celtaidd 25% yn 4*, 20% yn 3*).