Skip page header and navigation

Teithio i Lundain

Cychwynnwch antur bywyd cyffrous yn Llundain, dinas sy’n enwog am ei hysbryd deinamig a’i phrofiad addysgol digyffelyb. Mae ein campysau, sydd wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd yn yr un parc busnes yn Winchester House a Salisbury House, yn nodweddu hanfodion dysgu. 

P’un a ydych yn fyfyriwr newydd, yn ymwelydd, neu’n aelod o’r gyfadran, mae’r canllaw cynhwysol hwn wedi’i greu i’ch helpu i ffeindio’ch ffordd i’n campysau yn Llundain.

Lleoliad ein Campws yn Llundain

Dull teithio
  • Mae Winchester House o fewn taith gerdded fer 150 metr i ffwrdd o orsaf yr Oval.

  • Mae Winchester House yn gyfleus i nifer o lwybrau Beicio Lambeth sydd i’w gweld yn safle Cyngor Lambeth.

  • Mae Campws Llundain yn gyfleus i’r gwasanaethau bws rheolaidd ledled y ddinas.

    Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw gan ddefnyddio gwefannau neu apiau National Express Transport for London (TfL) er mwyn gwneud y gorau o’ch amser yma.

  • Mae Campws Llundain yn gyfleus i’r gwasanaethau bws rheolaidd ledled y ddinas.

  • Mae gan Lundain brif linellau trên o bob rhan o’r DU. Gallwch gyrraedd ein campysau yn hawdd o brif orsafoedd rheilffordd Llundain, fel King’s Cross, Paddington, Euston, a Victoria, trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithiau tacsi byr.

    Rydym yn eich cynghori i gynllunio eich taith gan ddefnyddio National Rail Enquiries.

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.