Skip page header and navigation

Athrawon Ymarfer Coleg Celf Abertawe

Cyflwyniad

Mae gan Goleg Celf Abertawe nifer o Athrawon Ymarfer sydd â phroffil uchel. Mae pob un o’n hathrawon ymarfer yn gweithio gyda’r Brifysgol gan ddefnyddio eu profiadau proffesiynol er budd ein myfyrwyr.

Sir Peter Blake

Syr Peter Blake yn eistedd mewn cadair yn ystod cyfweliad ac yn codi llaw i bwysleisio.

Mae cyfraniad Syr Peter Blake i Gelf Bop Prydain yn ddihafal: mae’n arbennig o adnabyddus am ddefnyddio gludweithiau a chasgliadau. Mae ei waith wedi ei ysbrydoli gan ei gariad at eiconau ac effemera diwylliant poblogaidd, gan gynnwys posteri sêr ffilm a cherddoriaeth, bathodynnau, ffotograffau, hysbysebion a chardiau post.

Mae wedi gweithio gyda bandiau enwog a sêr roc, gan greu gwaith celf cloriau arloesol ar gyfer albymau cerddoriaeth gan gynnwys y Beatles, Paul Weller, Band Aid a’r Who. Mae’n parhau i weithio’n doreithiog o’i stiwdio yng ngorllewin Llundain, ac mae ei enw da a’i boblogrwydd yn parhau

Meddai Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant yr Athro Medwin Hughes, DL: “Rwy’n falch o benodi Syr Peter yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol. Mae’n ymuno â nifer o unigolion eithriadol sy’n gweithio gyda’r brifysgol i gynnig eu harbenigedd unigryw a phroffesiynol er budd ein myfyrwyr.

“Datblygiad cymharol newydd i’r Brifysgol yw penodi Athrawon Ymarfer ac mae hynny’n galluogi’r Brifysgol i weithio gyda phartneriaid sydd ag arbenigedd penodol ac sy’n gysylltiedig â’n nodau strategol ac nad ydyn nhw, weithiau, yn dod trwy’r llwybr academaidd traddodiadol. Trwy ein hymwneud yn ein darpariaeth, gallwn wella’r mynediad at amrywiaeth o sgiliau pendant er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu cyrsiau academaidd ac adeiladu ar yr enw da sydd gennym eisoes am ddarparu sgiliau graddedig yng nghyd-destun cyflogadwyedd, cynaliadwyedd ac addysg a hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.”

J Spencer Davies

Jenni Spencer-Davies.

Ganed Jenni yn St Clears, fe’i magwyd ym Mhort Talbot, ac fe astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Manceinion, Trinity College Dublin ac ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe.

Crynodeb Bywgraffyddol

Oriel Gelf Glynn Vivian – (1999 i 2018) Abertawe

Mae Jenni Spencer-Davies yn guradur orielau celf profiadol, a bu ganddi rôl drawsnewidiol yn ailddatblygiad Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, yn Guradur Oriel. Gyda ffocws ar ddod â’r oriel gelf canol dinas hon, y mae llawer o gariad ati, i mewn i’r 21ain ganrif, ymgymerodd y prosiect yn sensitif â chadw a datblygu’r adeilad rhestredig Gradd II* gwreiddiol i fodloni anghenion yr oriel heddiw, gan gyflwyno mynediad llawn yn llwyddiannus i hwyluso cyfranogiad ac ymgysylltu ar gyfer ein cymunedau lleol.

. Mae’r weledigaeth ar gyfer yr oriel yn ei newydd wedd yn cynnwys rhaglenni deinamig o arddangosfeydd cyfoes, arddangosiadau casgliadau a rhaglenni dysgu, yn gweithio’n greadigol gyda chelf ac artistiaid mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae Glynn Vivian yn oriel flaenllaw ar gyfer dinas Abertawe, yn cyflwyno prosiectau gan artistiaid sy’n gweithio’n rhyngwladol, wrth hyrwyddo artistiaid o Gymru. Cafodd y prosiect £9 miliwn ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, CADW a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae Glynn Vivian yn bartner Plus Tate ac yn amgueddfa sydd wedi’i hachredu gan MLA.

Oriel Gallery (1989–1998) Caerdydd

Cyn gweithio yn Oriel Glynn Vivian, roedd Jenni yn Bennaeth yn Oriel, Oriel Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, lle buodd yn arwain y rhaglenni creadigol, curadu arddangosiadau gydag artistiaid sefydlog a newydd o Gymru fel David Nash, Terry Setch, Keith Arnatt a Helen Sear, a chyflwyno artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol fel Albert Irvin, Hannah Collins, Bill Viola, Kazuo Katase a Louise Bourgeois.

Oriel Douglas Hyde (1980–1987) Dulyn

Yn y 1980au, yn dilyn cyfnod yn Oriel Genedlaethol Iwerddon, dechreuodd Jenni ei gyrfa fel curadur yn Drefnydd Arddangosiadau yn Oriel Douglas Hyde yn Trinity College Dulyn, a oedd bryd hwnnw’n brif oriel Iwerddon am arddangosiadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan weithio gydag Edward Kienholz, Joan Miro, Camille Souter, James Coleman, Bian Eno ac A.R. Penck, ymhlith eraill. Yn ystod y cyfnod hwn, buodd hefyd yn addysgu’n rhan amser ar y cwrs gradd BA Hanes Celf ar gyfer addysg barhaus yng Ngholeg Cenedlaethol Celf a Dylunio Dulyn, ac yn 1982 sefydlodd y cwrs Gweinyddiaeth Celfyddydau cyntaf yn Iwerddon, sydd bellach o dan nawdd Coleg Prifysgol Dulyn.

Karen MacKinnon

Yn gwisgo crys gwyn a chlustdlysau Boxy glas mawr, Karen MacKinnon yn gwenu tuag at y camera.

Mae MacKinnon, y dyfarnwyd MBE iddi yn anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2019, wedi bod yn gweithio fel curadur rhyngwladol, wedi’i lleoli yng Nghymru am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf, gan gynnwys rolau yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, a Chanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd.

Yn ystod yr amser hwnnw, mae wedi trefnu a churadu arddangosfeydd cyfoes a hanesyddol, a datblygu diddordeb penodol yn y perthnasau sy’n bodoli rhwng y lleol a’r byd-eang, a rhwng mannau ac ardaloedd. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gweithio mewn nifer o wahanol gyd-destunau ar, ac oddi ar y safle, gan weithio gydag ymarferwyr sy’n cysylltu â’r gymdeithas, yn ogystal â rhai y mae eu gwaith wedi’i leoli mewn orielau.

Yn 2005, curadodd hi’r arddangosfa Somewhere Else Wales ar gyfer Bienalle Fenis, digwyddiad a oedd yn cynnwys gwaith gan Peter Finnemore, Laura Ford, Paul Granjon a chyfnod preswyl gyda Bedwyr Williams. Yn 2008, gwnaeth guradu ar y cyd â Maria Clara Bernal, yr arddangosfa Displaced: celf gyfoes o Golombia, digwyddiad a ddangosodd waith 15 artist, gan gynnwys artistiaid megis Oscar Munoz, Jose Alejandro Restrepo a Maria Elvira Escalon.

Mal Pope

Mal Pope.

Ganwyd Mal Pope ym Mrynhyfryd, Abertawe. Yn sgil ei berfformiad pan oedd yn laslanc ar un o sioeau Radio’r BBC, arwyddodd yr Athro Pope gytundeb â chwmni recordio Rocket Elton John, ac am y 6 blynedd nesaf, gweithiodd ochr yn ochr ag ef.

Astudiodd yr Athro Pope yng Ngholeg Crist, Caergrawnt a graddiodd yno gyda gradd mewn Economi Tir. Mae wedi cyfansoddi caneuon i Cliff Richard a’r Hollies, wedi canu deuawdau gydag Elton John a Bonnie Tyler, wedi mynd ar daith gydag Art Garfunkel a Belinda Carlisle, ac wedi cynhyrchu recordiau i Aled Jones. 

Fel darlledwr, mae’r Athro Pope wedi cyflwyno sioeau ar holl orsafoedd Rhwydwaith y BBC, yn ogystal â chyflwyno’r rhaglen gerdd ar gyfer ITV Cymru, sef  ‘The Mal Pope Show’, a enillodd wobr BAFTA.  Enillodd ei raglen ddogfen ‘Heaven’s Sound’, am wreiddiau cerddoriaeth Gospel y bobl ddu, un o’r prif wobrau yng Ngwobrau Teledu Efrog Newydd.

Yn 2005, perfformiwyd ei sioe gerdd ‘Amazing Grace’ yng Ngŵyl Ryngwladol Theatr Gerdd Caerdydd ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru flwyddyn yn ddiweddarach. Agorodd sioe gerdd nesaf yr Athro Pope, sef ‘Contender’, sydd wedi ei seilio ar fywyd y paffiwr Tommy Farr, yn ystod Gwanwyn 2007, gyda sêr y West End, Mike Doyle fel Tommy a Peter Karrie fel Joby Churchill.

Yn 2009, sefydlodd Mal ‘Gwmni Theatr Grand Slam’ er mwyn cynhyrchu ei sioe gerdd ddiweddaraf ‘Cappuccino Girls’.  Aeth y sioe ar daith ar draws y DU cyn dechrau ar gyfnod preswyl 24 wythnos o hyd yn ‘Theatr y South Wales Evening Post’ a adeiladwyd  yn bwrpasol i’r diben hwnnw ar Stryd Fawr Abertawe, a rhedodd yn hirach nag unrhyw sioe gerdd arall y tu allan i’r West End. 

Yn 2012, sefydlwyd YJB Films gan Mal, ac agorodd ei Brif Ffilm Ddogfen gyntaf ‘Jack to a King’ yn yr ‘ Empire’, Leicester Square, Llundain ym mis Medi 2014, gan ennill 3 Gwobr BAFTA Cymru flwyddyn yn ddiweddarach.

Marc Rees

Mae Marc Rees yn gwisgo tei oren a blodyn brethyn patrymog oren dros boced ei frest; mae cysgod brown golau ei flaser gwlân yn cyfateb i'r wal y tu ôl iddo; mae'n gwisgo cap fflat brown traddodiadol.

Wedi ei eni ac yn byw yng Nghymru, mae Marc Rees yn unigolyn rhyngddisgyblaethol a chreadigol sydd wedi hen ennill ei blwyf yn cyflawni prosiectau arloesol, pryfoclyd a mentrus. Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, mae wedi datblygu nifer o weithiau celf a seilir yn fwyfwy ar bensaernïaeth; yn enwedig y prosiectau lleoliad-benodol En Residencia a For Mountain, Sand and Sea, a gomisiynwyd gan Teatro de la Laboral a National Theatre Wales, yn eu tro.

Adain Avion yw prosiect mwyaf uchelgeisiol yr Athro Rees hyd yn hyn, a ddewiswyd yn Brosiect Blaenllaw Cymru ar gyfer Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 a Gŵyl Llundain 2012. Ei waith ‘Tir Sir Gâr’ a grëwyd mewn cydweithrediad â’r ysgrifennwr Roger Williams i Theatr Genedlaethol Cymru, oedd y cynhyrchiad a enwebwyd yn amlaf ar gyfer Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014, gyda phum enwebiad.

Yn 2014, creodd yr Athro Rees addasiad newydd o fyd enwog Dan y Wenallt Dylan Thomas, i National Theatre Wales a BBC Cymru, o’r enw Raw Material: Llareggub Revisited a gynhwysodd dref gyfan Talacharn fel rhan o Ŵyl DT100. Ef hefyd yw sylfaenydd a churadur LLAWN (Penwythnos Celfyddydau Llandudno), gŵyl flynyddol sy’n dathlu treftadaeth Fictoraidd y dref lan môr yng Ngogledd Cymru.

Yn 2015, cyfunodd ddau o gwmnïau cenedlaethol Cymru, sef Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales (ynghyd ag S4C) am y tro cyntaf erioed drwy ddigwyddiad safle-benodol ac aml-lwyfan a ddathlodd y 150fed mlwyddiant ers sefydlu’r Wladfa, y drefedigaeth Gymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin. Ym mis Mai, 2016, cyflwynodd yr Athro Rees waith safle-benodol newydd sbon o’r enw Digging for Shakespeare a gomisiynwyd fel rhan o 50fed mlwyddiant Gŵyl Brighton, ac a guradwyd gan Laurie Anderson.

Edward Thomas

Edward Thomas yn y llun o flaen siaced lachar felen.

Wedi’i eni yn Abertawe, De Cymru, roedd gan Edward ddiddordeb brwd yn y celfyddydau a’r theatr ers yn ifanc iawn, ac yn ei arddegau fe ddaeth yn aelod o Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.

Cwblhaodd gwrs sylfaen gyda rhagoriaeth mewn Celf yng Ngholeg Celf Abertawe yn 1989 ac aeth ymlaen i raddio o Ysgol Gelf Wimbledon gyda BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Dylunio Theatr 3 Dimensiwn yn 1992. Dechreuodd ei yrfa yn y Tŷ Opera Brenhinol fel Dylunydd Cynorthwyol ar gynhyrchiad o ‘Turandot’.

Roedd Edward yn ymwneud â nifer o hysbysebion cyn dechrau gyda ffilmiau. Ei brofiad cyntaf gyda ffilmiau oedd ar y ddrama gyfnod – ‘The Mystery of Edwin Drood’, addasiad o stori dditectif anorffenedig Charles Dickens. Gyda’i awch newydd am ffilmiau, cwblhaodd Edward 12 ffilm nodwedd ychwanegol dros gyfnod o 6 blynedd, gan gynnwys rhai hanesyddol, ffuglen wyddonol a ffantasi. Wedi eu ffilmio’n bennaf yn Ne Affrica, enillodd brofiad helaeth ac ehangodd ei enw da fel dylunydd cynhyrchiad.

Ar ôl dychwelyd i Gymru, gwireddodd ei freuddwyd i weithio gartref gyda Russell T Davies ar ‘Doctor Who’ (Cyfresi 1–5) a’r gyfres ddeilliedig ‘Torchwood’ (Cyfresi 1–3), The Sarah Jane Adventures a’r peilot ar gyfer ‘Sherlock’ i’r BBC. Ei enw da am greu bydoedd newydd a aeth ag ef yn ôl i Dde Affrica yn 2010 i weithio gyda Kudos ar ddrama gyfres ffuglen wyddonol Brydeinig o’r enw ‘Outcasts’. Aeth ymlaen i weithio gyda World Productions ar United a edrychodd ar hanes trychineb awyr Munich ac wedyn ar ddrama heddlu uchel ei chlod BBC2 ‘Line of Duty’.

Yn 2012 bu Edward yn gyfrwng i ddod â Hollywood i ddinas ei febyd yn Abertawe gyda’r gyfres ddrama ffantasi hanesyddol ‘Da Vinci’s Demons’ a grëwyd gan David Goyer i Starz TV. Cynorthwyodd gyda sefydlu stiwdios Bae Abertawe a bu’n gyd-gynhyrchydd a dylunydd ar gyfresi 1 i 3. Ei brosiect nesaf oedd ‘Set fire to the Stars’ ffilm fywgraffyddol am Dylan Thomas gydag Elijah Wood yn serennu. Yn ogystal bu’n gynhyrchydd gweithredol ar y ffilm ddogfen ‘Jack to a King the Swansea Story’. Yn 2014 enwebwyd Edward am nid llai na 18 enwebiad BAFTA Cymru am ei rôl yn y cynyrchiadau y cyfeirir atynt uchod.

Gweithiodd Edward fel ymgynghorydd ar waith dylunio stiwdio ‘BadWolf’ yng Nghaerdydd ac ni fu’n hir cyn i Affrica alw eto. Dychwelodd i weithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys; ‘Resident Evil The Final Chapter’ gyda’r cyfarwyddwr uchel ei glod Paul W S Anderson, ar ‘The Escape Room’ i ffilmiau Sony gydag Adam Robitel a’r cynhyrchydd Neal Moritz a drama gyffrous ffuglen wyddonol ddiweddaraf Youtube Originals, sef ‘Origin’.

Mae Edward wedi derbyn llawer o gydnabyddiaeth am ei waith; enwebiadau BAFTA Cymru a Gwobr RTS am y Dyluniad Gorau, ac enwebiad BAFTA Cenedlaethol am Break Through Talent. Yn 2006 enillodd Wobr BAFTA Cymru am y Dyluniad Gorau am ei waith ar Torchwood, ac, yn 2010, y Dyluniad Gorau am Doctor Who Waters of Mars. Yn 2015 enillodd Edward wobr BAFTA Cymru am y dyluniad gorau am ei waith ar “Set Fire to the Stars”. Mae hefyd wedi ennill yng nghategori Celf a Diwylliant Gwobrau Ysbrydoli Cymru’r Sefydliad Materion Cymreig ac enillodd y bleidlais fwyaf yn Arts Power List WalesOnline 2015.

Mae Edward bob amser wedi cefnogi egin dalent yn frwd ac mae’n gyfarwyddwr y cynllun hyfforddi Its My Shout. Mae’n Is-Lywydd ac yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn Gymrawd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Yn 2019 gwnaed Edward yn athro ymarfer. Pan nad yw’n creu bydoedd eraill o gwmpas y byd mae’n byw yn Abertawe gyda’i wraig Nathalie a’i ferched Nell a Macy

Roger Williams

Mae Roger Williams yn awdur a chynhyrchydd arobryn sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Enillodd ei gyfres ddrama BANG Wobr Bafta Cymru a Gwobr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd am y gyfres ddrama orau yn 2018 ac fe’i enwebwyd ef am wobr Urdd Awduron Prydain Fawr hefyd am ei waith ar y sioe.

Ysgrifennodd a chynhyrchu’r ffilm nodwedd – Y WLEDD / THE FEAST – a ddangoswyd am y tro cyntaf yn SXSW yn 2021 ac sydd wedi ennill gwobrau yng ngwyliau ffilm BiFAN, Motel X a Neuchatel. Fe’i rhyddhawyd yng Ngogledd America yn 2021 ac yn y DU yn 2022.

Mae Roger wedi ennill gwobr sgriptio BAFTA Cymru ddwywaith am TIR (2015) a CAERDYDD (2010). Mae wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y BBC, Channel 4 ac S4C.

Roger yw Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y cwmni cynhyrchu JOIO ac roedd yn Gadeirydd Urdd Awduron Prydain Fawr 2012–2015. Graddiodd o Brifysgol Warwick lle bu’n astudio Llenyddiaeth Gymharol (1992–95).

John Wood

John Wood yn edrych ychydig i'r ochr tuag at y camera trwy sbectol rhimyn trwchus ar ddull y chwedegau; mae ei wallt gwyn wedi ei frwsio yn ôl o'i wyneb ac mae'n gwisgo siwt siaced resog.

Mae John Wood yn Athro Emeritws Dylunio ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain. Pan yn fyfyriwr, yng nghanol y 1960au, mynychodd Ysgol Gelf Manceinion, sef Prifysgol Fetropolitan Manceinion erbyn hyn.

Yn ystod ei astudiaethau Celf Gain, adeiladodd osodweithiau electronig rhyngweithiol a theganau sain. Ar ôl graddio, gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, gweithio am ddwy flynedd bellach yn eu Hathrofa Uwchefrydiau, gan greu ei ‘Machine for Saying Sorry’ a gêm â chymorth cyfrifiadur oedd â 27 cymeriad (‘King of Shouting House’), a berfformiwyd yn ICA Llundain.

Erbyn hynny, roedd wedi datblygu pryder cryf am faterion amgylcheddol ac wedi dyfeisio nifer o ddyfeisiau ynni solar, a ddenodd peth sylw gan y wasg. Yn 1975 daeth yn aelod sefydlu un o fandiau ffasiynol y 1970au, Deaf School, a aeth ymlaen i ennill y ‘Melody Maker Rock’ cenedlaethol a chael dêl recordiau yn UDA gyda Warner Brothers. Mae John yn dal i recordio, ysgrifennu a pherfformio ar lwyfannau ar ffurf ei hunan arall ‘The Reverend Max Ripple’.

Mae’r Athro Wood wedi addysgu Celf Gain mewn nifer o brifysgolion yn y DU ac Asia, er yn bennaf yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, lle bu’n Ddirprwy Bennaeth Celf Gain, rhwng 1978-1988, pan oedd y brif garfan YBA yn ymgasglu. Ar ôl y cyfnod hwn, ysgrifennodd a lansiodd nifer o raddau dylunio radical ac fe ddefnyddiwyd y rhain yn sail i’r Adran Ddylunio bresennol.

Ar y cyd â Dr Julia Lockheart, mae’r Athro Wood yn cyd-olygu’r ‘Journal of Writing in Creative Practice.’ (Deall). Ers canol y 1970au mae e wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a llawer o benodau mewn llyfrau, erthyglau, papurau ac wedi cyflwyno prif areithiau, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn adfyfyrio ar rôl dylunwyr wrth fynd i’r afael ag argyfwng amgylcheddol, fel cynhesu byd-eang a cholli bioamrywiaeth. Gellir cyrchu canfyddiadau ei ymchwil (a ariannwyd gan AHRC ac EPSRC) ar fetadylunio trwy’r wefan Metadesigners.