Skip page header and navigation

Llety yn Abertawe

Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg mai llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yn Abertawe, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.


Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.


Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy. 


Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.

Watch our Swansea Student Living video.

Yr hyn sydd gan Lety Preifat yn Abertawe i’w Gynnig

Ar hyn o bryd rydym yn argymell y llety preifat canlynol yn Abertawe:

St Davids (Student Roost)

Crown Place

Ty Nant (Fresh)

Wedi’i leoli yng nghanol Abertawe.


Mae amrywiaeth eang o lety myfyrwyr ar gael yn ein lleoliad yn Abertawe, o stiwdios chwaethus i ystafelloedd en-suite mawr, pob un â’r biliau wedi’u cynnwys. 

Wedi’i leoli ar y glannau ac yn edrych dros Farina Abertawe ac Afon Tawe, mae Crown Place mewn lleoliad perffaith ar gyfer ein campws SA1.


Mae sawl math o ystafell i ddewis ohonynt. P’un ai eich bod eisiau preifatrwydd eich stiwdio eich hun neu gymysgu â myfyrwyr o’r un anian mewn clwstwr o ystafelloedd en-suite. 

Wedi’i leoli yng nghanol y Ddinas ar drothwy’r orsaf drên. 

Dewiswch ystafell en-suite a mwynhau gwneud ffrindiau wrth rannu’r ardal fyw a’r gegin. Neu, dewiswch stiwdio a chreu campwaith yn eich cegin fach eich hun – gallwch hyd yn oed rannu fel cwpwl heb unrhyw gost ychwanegol.

Beth sydd gan y Llety Preifat yn Abertawe i’w gynnig

01
Mae fflatiau stiwdio a fflatiau clwstwr gydag ystafelloedd gwely en-suite ar gael ledled y ddinas, sy'n golygu bod digon o opsiynau i ddewis ohonyn nhw.
02
Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig ystafelloedd sinema, bariau, lle i storio beic a mannau astudio cymunedol.
03
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
04
Diogelwch 24 awr.
05
Hunanarlwyo.
06
Mae rhai darparwyr yn gofyn am flaendal, tra bod eraill ddim.
Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.