Skip page header and navigation

Introduction

Gyda’r nod o ysbrydoli a datblygu artistiaid ifanc rhwng 16-18 oed, mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn darparu profiad Ysgol Gelf cyffrous, creadigol, ac yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddisgyblaethau Celf a Dylunio i ymestyn eich portffolio Celf.

more info

Wedi’i addysgu gan arbenigwyr yn eu maes cewch gyfle i archwilio a datblygu eich creadigrwydd tu allan i’r ysgol ac archwilio detholiad o’r cyfleusterau arbenigol a ganlyn:

•         Ffotograffiaeth ddigidol ac ystafell dywyll

•         Gwneud printiau a llythrenwasg

•         Patrwm Arwyneb ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau

•         Celf Gain

•         Crefftau Dylunio

•         Graffeg

•         Darlunio

•         Cerameg

•         Dylunio cynnyrch

Cost: £220