Skip page header and navigation

Bwrsariaethau Rhyngwladol

Rydym yn falch o gynnig cyfleoedd am ysgoloriaethau i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd.

Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau rhyngwladol ar gael, felly darllenwch y wybodaeth isod am y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd a’r meini prawf cymhwysedd.

Os ydych chi’n bodloni unrhyw un o’n meini prawf cymhwysedd byddwch yn cael eich ystyried yn awtomatig ar gyfer un o’r Ysgoloriaethau Rhyngwladol isod. Does dim angen i chi lenwi unrhyw ffurflen arall, gwnewch gais am le ar eich cwrs ac os byddwch yn derbyn Cynnig Amodol gan y Brifysgol bydd cais am unrhyw ysgoloriaeth ryngwladol berthnasol yn cael ei wneud yn awtomatig.

Bwrsariaethau Rhyngwladol

  • Ar gyfer Cyn-fyfyrwyr o’r Brifysgol sy’n ceisio cael lle ar un o’n cyrsiau ôl-raddedig.


    Meini Prawf Cymhwysedd: I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod wedi cwblhau cwrs israddedig neu ôl-raddedig llawn amser a ddyfarnwyd gan PCYDDS neu Brifysgol Cymru ac wedi astudio ar gyfer y radd ar un o’n prif gampysau yn y DU neu gyda’n partneriaid cydweithredol tramor.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £3000

  • I gydnabod y cysylltiadau agos sy’n bodoli rhwng y DU a Gwledydd y Gymanwlad ac i ddathlu’r ffaith mai Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yw Noddwr Brenhinol y Brifysgol.


    Meini Prawf Cymhwysedd: Myfyrwyr rhyngwladol o wlad yn y Gymanwlad sy’n gwneud cais i astudio ar gwrs lefel Meistr.

    Swm y Dyfarniad: Hyd at £3000

  • Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol o UDA, Canada, India, Fietnam a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n gwneud cais i astudio rhaglen Feistr llawn amser yng Nghymru. 


    Meini Prawf Cymhwysedd: Myfyrwyr rhyngwladol o UDA, Canada, India, Fietnam a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

    Swm y Dyfarniad: £10,000

    Gwneud Cais Nawr: Drwy wefan Cymru Fyd-eang

  • Hyrwyddo Addysg a Chysylltiadau Diwylliannol rhwng Cymru a Gogledd America.


    Meini Prawf Cymhwysedd: Mae’r Ysgoloriaethau’n rhoi cyfle i fyfyrwyr o Ogledd America wneud cais am ddyfarniad i dalu costau teithio wrth ymgymryd ag astudiaethau sy’n ymwneud â hanes a diwylliant Cymru-America yng Nghymru. Bwriad y wobr yw cefnogi myfyrwyr sy’n dymuno astudio ar gyfer graddau Baglor, Meistr a Doethuriaeth neu gyfwerth mewn sefydliadau academaidd cydnabyddedig yng Nghymru. Rhaid i’r cais gael ei gefnogi gan y sefydliad lletyol. Rhaid i anghenion ariannol gael eu dogfennu. 

    Nid oes rhaid i’r derbynnydd fod o gefndir ethnig Cymreig, fodd bynnag, mae cysylltiad â Chymru yn rhinwedd bwysig.

    Gwneud Cais Nawr: Drwy Sefydliad Cymru Gogledd America

  • Hwyluso cyfnewid diwylliannol rhwng Gogledd America a Chymru.


    Dylai’r ymgeisydd ddarparu geirda gan sefydliad diwylliannol neu academaidd cydnabyddedig o dras Gymreig Americanaidd. Dylai ceisiadau am grantiau o fwy na $1,000 roi syniad o gyfanswm cost y gweithgaredd arfaethedig.

    Gwneud Cais Nawr: Drwy Sefydliad Cymru Gogledd America

  • Mae’r rhaglen Ysgoloriaeth Gyfnewid yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o Ogledd America wneud cais am wobr o $5,000 i astudio yng Nghymru


    Bwriad y dyfarniad yw cefnogi myfyrwyr sy’n dymuno astudio ar gyfer graddau Baglor, Meistr a Doethuriaeth neu gyfwerth mewn sefydliadau academaidd cydnabyddedig yng Nghymru. Rhaid i’r cais gael ei gefnogi gan y sefydliad lletyol.

    Swm y Dyfarniad: $5,000

    Gwybodaeth Ychwanegol: Nid oes rhaid i’r derbynnydd fod o gefndir ethnig Cymreig, fodd bynnag, mae cysylltiad â Chymru yn rhinwedd bwysig.

    Gwneud Cais Nawr: Drwy Sefydliad Cymru Gogledd America

  • Dim ond un o’r ysgoloriaethau a restrir y mae gan fyfyrwyr hawl i’w cael.
  • Ni fydd mwy nag un ysgoloriaeth yn cael ei roi. 
  • Mae pob ysgoloriaeth ryngwladol Academi Fyd-eang Cymru ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n hunan-ariannu ac yn gwneud cais am le i astudio ar gwrs llawn amser ar y campws yn unig.