Skip page header and navigation

Amdanom

This is an drone shot of Lampeter campus on a clear day

Amdanom ni

Mae cenhadaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn uchelgeisiol. Ein nod yw trawsnewid addysg, a thrwy hynny drawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae’r Brifysgol yn rhan o Grŵp PCYDDS, cydffederasiwn o nifer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Ym mis Awst 2017, cafodd Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu hintegreiddio. Mae Grŵp PCYDDS yn cynnig gwasanaeth di-dor o addysg bellach hyd addysg uwch, a hynny er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau. 

Yn 2023, lansiwyd Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru (UWTI) gyda Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ogystal â’n partneriaid Addysg Bellach, Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau NPTC a Choleg Sir Benfro, gyda’r nod o ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd dan arweiniad cyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cyd-ffederasiwn, mae Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn ystyried anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.

Mae hanes y Brifysgol yn dechrau yn ôl yn 1822, pan sefydlwyd ein campws yn Llanbedr Pont Steffan. Dyma fan geni addysg uwch yng Nghymru, a Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf o holl sefydliadau Cymru. 

Heddiw, mae’r Brifysgol yn sefydliad deinamig, gyda champysau yn Abertawe, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Caerdydd, Llundain a Birmingham.

Myfyrwyr fel Partneriaid

Myfyrwyr yn gwisgo capiau porffor Undeb y Myfyrwyr

Myfyrwyr fel Partneriaid

Y dysgwr sydd bwysicaf yng Ngrŵp PCYDDS, a mae’n hymroddiad i ddarparu profiad dysgu rhagorol yn sail i’n holl weithgareddau. Rydym yn credu bod addysg yn newid bywydau, a, thrwy ein gwaith gydag Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial o fewn amgylcheddau dysgu sy’n groesawgar, yn gynhwysol, yn gefnogol ac yn ddiogel.

Myfyriwr yn defnyddio cymysgydd sain

Cwricwlwm sy’n ysbrydoli

Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu’r nodweddion bydd eu hangen arnynt mewn gweithleoedd modern a thechnolegol. Ein nod yw datblygu graddedigion ac ymarferwyr myfyriol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Un o’n gwerthoedd sylfaenol yw ein hymroddiad i ddatblygu cynaliadwy a’r amgylchedd. Dyma themâu sydd wedi’u hymgorffori ym mhrofiad y myfyrwyr yma, gan alluogi graddedigion PCYDDS i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion y byddan nhw’u hangen, ble bynnag yr ânt yn y dyfodol.

a group of people smiling

“Prifysgol gysylltiedig”

Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu’r nodweddion bydd eu hangen arnynt mewn gweithleoedd modern a thechnolegol. Ein nod yw datblygu graddedigion ac ymarferwyr myfyriol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Un o’n gwerthoedd sylfaenol yw ein hymroddiad i ddatblygu cynaliadwy a’r amgylchedd. Dyma themâu sydd wedi’u hymgorffori ym mhrofiad y myfyrwyr yma, gan alluogi graddedigion PCYDDS i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion y byddan nhw’u hangen, ble bynnag yr ânt yn y dyfodol.

Golygfa o'r adeilad IQ a'r ardal gyfagos o’r awyr

Buddsoddi yn ein campysau

Mae ein campysau’n ganolfannau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol sy’n hwyluso’r gwaith o gyflawni ein cenhadaeth ddinesig. Rydym wedi esblygu dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gan drawsnewid ein cynnig academaidd mewn ymateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd y dydd. Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau ar lawr gwlad er mwyn darparu cyfleoedd trawsnewidiol, gan ddatblygu eu gallu a’u gwytnwch a chan greu cyfleoedd i atgyfnerthu eu hymdeimlad o le a’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw.

Llun o sgan o’r wyneb

Troi syniadau’n gyfleoedd go iawn

Rydym yn enwog am ein menter a’n harloesedd, ac am alluogi ein staff a’n myfyrwyr i droi eu syniadau’n gyfleoedd ac yn ddatrysiadau busnes go iawn. Rydym yn canolbwyntio ar gael effaith ac ar fynd i’r afael â heriau mwyaf cymdeithas, gan weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr a chan ddarparu’r sgiliau y mae myfyrwyr a graddedigion eu hangen er mwyn ffynnu.

O ymchwil ac arloesi trosiadol, i sgiliau technegol cymhwysol a menter, rydym yn meithrin gallu ein cymunedau, yn cefnogi cyflogwyr, yn hwyluso creu swyddi, ac yn denu buddsoddiad i’n cymunedau.