Skip page header and navigation

Beth a gewch chi trwy fynychu Diwrnod Agored Caerfyrddin

Mae mynychu Diwrnod Agored yng Nghaerfyrddin yn ffordd wych i ddysgu am y Brifysgol a’n cyrsiau. Diwrnod Agored Caerfyrddin yw’ch cyfle i archwilio, dod i wybod rhagor am ein tref, y pwnc o’ch dewis a hyd yn oed godi nwyddau am ddim i’ch cael chi’n barod am eich blwyddyn gyntaf.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Caerfyrddin

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth sydd gan leoliadau ein campysau i’w cynnig i chi, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym pan fyddwch yn dewis astudio yn PCYDDS. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion fel y gallwn roi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf

Addysg Blynyddoedd Cynnar Nosweithiau Agored Ar-lein

Online
Date(s)

Cyn Hir:

  • -
  • -

Addysg Blynyddoedd Cynnar Nosweithiau Agored Ar-lein

Athrawes gynradd yn helpu disgybl ifanc

Diwrnod Agored Caerfyrddin

College Road, Carmarthen
Date(s)

Cyn Hir:

  • -

Actio
Busnes a Rheolaeth
Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
Cymdeithaseg
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Astudiaethau Addysg
Astudiaethau Addysg: Anghenion
Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
Astudiaethau Addysg: Cynradd
Addysg Gynradd gyda SAC
Dylunio a Chynhyrchu Setiau
Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol
Gwneud Ffilmiau Antur
Cynhyrchu Cyfryngau Digidol

Students sat outside on Carmarthen Campus

Ar Ddiwrnod Agored Caerfyrddin byddwch yn

01
Cwrdd â’r darlithwyr a fydd yn helpu i siapio eich dyfodol.
02
Ymweld â Chaerfyrddin a chael blas ar ddiwylliant yr ardal.
03
Ystyried y llety sydd ar gael.
04
Darganfod y mannau lle gallwch astudio a chymdeithasu.
05
Dychmygu eich hun yn byw ac astudio yng Nghaerfyrddin.
06
Cael atebion i unrhyw gwestiynau allai fod gennych a siarad gyda’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr.
Myfyriwr yn taflu pêl rygbi

Archwilio pynciau sydd ar gael yng Nghaerfyrddin

Mae amrywiaeth o raglenni ar gael ar Gampws Caerfyrddin. Archwiliwch ein rhestr cyrsiau i weld beth sy’n tanio eich brwdfrydedd, ond dyma flas ar y meysydd pwnc rydym yn eu cynnig:

Actio
Busnes a Rheolaeth
Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth
Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona
Cymdeithaseg
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar
Astudiaethau Addysg
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
Astudiaethau Addysg: Cynradd
Addysg Gynradd gyda SAC
Dylunio Set a Chynhyrchu
Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol

Teithio i Gaerfyrddin

Teithio …
  • Mae Campws Caerfyrddin tua 30 munud ar droed o naill ai gorsaf bysys neu drenau Caerfyrddin

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae Campws Caerfyrddin yn hygyrch o Lwybr Beicio Cenedlaethol 4 ac mae llawer o barthau ar gael ar y campws i gloi’ch beic.

  • Mae gan Gaerfyrddin rwydwaith gynhwysfawr o wasanaethau bws, sy’n cysylltu â Champysau Caerfyrddin ar Ffordd y Coleg a Heol Ffynnon Job.  Golyga hyn bod ein campws yn hawdd ei gyrraedd ar ddulliau trafnidiaeth eco-gyfeillgar.

  • Mae gan Orsaf Drenau Caerfyrddin gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o Abertawe, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Manceinion Piccadilly ac yn ôl.  Awgrymwn eich bod yn defnyddio Traveline.cymru i gynllunio’ch taith ymlaen llaw. 

    Dim ond taith 26 munud ar droed o’r orsaf mae ein campws, neu edrychwch ar yr adran ‘Ar fws’ am fysys rheolaidd sy’n stopio’n agos i’n campws.

  • Os ydych chi’n gyrru i PCYDDS, Campws Caerfyrddin, Caerfyrddin, SA31 3EP.

    Diwrnodau Agored

    Os ydych chi’n mynychu diwrnod agored, mae parcio am ddim ar gael ar gampws Caerfyrddin. 

    Parcio i Ymwelwyr

    Mae gan ein campysau ni gysylltiadau gwych o ran cludiant cyhoeddus. Gweler yr adrannau Bws, Trên a Beic uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd ein campws trwy gludiant cyhoeddus.  

    Cynlluniwch eich Taith
Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.