Skip page header and navigation

Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn

Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn.  Rydym yn ymfalchïo yn ein gweithwyr ymroddedig a dawnus ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm i wneud gwahaniaeth ym mywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau a wasanaethwn.  ‘Trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ yw ein cenhadaeth.  Os hoffech ymuno â ni ar y daith hon a gwneud gwahaniaeth hefyd, hoffem glywed gennych chi.

Ynglŷn â’r Drindod Dewi Sant

Rydym yn croesawu eich diddordeb mewn gweithio gyda ni ac yn gobeithio y bydd y wybodaeth isod yn rhoi trosolwg i chi o fywyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  

  • Y Brifysgol
  • Ein cyflawniadau
  • Ein cenhadaeth a’n gweledigaeth
  • Campysau, canolfannau a lleoliadau

Gwerthfawrogi ein Pobl

Rydym yn gyflogwr cyflog byw. Mae ein ffocws cryf ar ddatblygiad proffesiynol a llesiant ein staff yn sicrhau ein bod ni’n darparu’r cymorth gorau i’n myfyrwyr, i’n cydweithwyr, partneriaid diwydiant a rhwydweithiau ehangach.

Caiff ein gweithwyr fanteisio ar becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

  • Cyflog cystadleuol a dilyniant cyflog
  • Lwfans gadael blynyddol hael gan gynnwys diwrnodau cau’r Nadolig/Blwyddyn Newydd
  • Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
  • Manteisio ar blatfform buddion a llesiant, gyda dewis o fuddion i weddu i’ch anghenion, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan a gwasanaethau llesiant ariannol
  • Cymorth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys defnyddio cyfleusterau chwaraeon ar y campws am bris gostyngol, gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
  • Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
  • Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio’n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
  • Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.

Datblygu ein Pobl

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae dysgu a datblygu yn eu chwarae wrth gefnogi ein pobl i lwyddo a ffynnu yn y gwaith. I helpu ein pobl i weithio’n effeithiol mewn gweithle sydd wedi’i drawsnewid ac i’w galluogi i symud trwy wahanol gyfnodau eu gyrfaoedd, rydyn ni wedi sefydlu fframweithiau datblygu i gefnogi themâu allweddol megis dysgu ac addysgu, arweinyddiaeth a rheoli a sgiliau digidol.

Mae ein rhaglenni datblygu yn darparu cyfleoedd i’n pobl gysylltu â chydweithwyr, cael eu hyfforddi neu eu mentora, ennill achrediadau proffesiynol a chydnabyddiaeth, a gweithio ar brosiectau sydd ag effeithiau sefydliadol. Mae ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol NEXUS, yn galluogi cydweithwyr a phartneriaid i ddod ynghyd yn ein cymuned dysgu ac addysgu i rannu arferion gorau, cyfathrebu, cydweithredu ac ysbrydoli ei gilydd.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae ein myfyrwyr a’n staff yn bwysig i ni. Rydym yn meithrin diwylliant lle mae’r staff a’r myfyrwyr yn cydweithio mewn partneriaeth a darparwn amgylchedd dysgu cynhwysol, cefnogol a diogel lle gall pawb ffynnu a gwireddu eu potensial personol. Ein gweledigaeth yw creu diwylliant agored sy’n parchu eraill a lle nodir ac y dilëir rhwystrau i’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig. Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned beth bynnag yw eu cefndir. Os byddwch yn gweithio gyda ni, byddwch yn dod yn rhan o deulu PCYDDS.

Disability Confident Employer logo

Hyderus o ran Anabledd

University of Wales Trinity Saint David is committed to improving employment opportunities and career development for disabled people and in recognition of this UWTSD has been certified as a Level 2 Disability Confident Employer. The University is committed to ensuring that our recruitment process is inclusive and accessible, communicating and promoting all vacancies and offering an interview to applicants with a disability who meet the essential criteria for the post.

Living Wage Employer logo

Cyflogwr Cyflog Byw

Rydym wedi ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw yn achos holl weithwyr y Brifysgol ac rydym wedi ein hardystio yn Gyflogwr Cyflog Byw gan y Living Wage Foundation.

Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig gyfradd cyflog yn y Deyrnas Unedig a delir yn wirfoddol gan bron i 10,000 o fusnesau yn y DU sy’n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy’n diwallu anghenion pob dydd.

Gweithio Hyblyg

Rydym yn hyrwyddo gweithlu hyblyg a bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n chwilio am drefniadau gweithio amser llawn, rhan amser, rhannu swydd neu gyfnod tymor yn unig, a bydd hyn yn berthnasol i bob swydd a hysbysebwn.

Cydraddoldeb Rhywiol

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i degwch a thryloywder o ran ei threfniadau cyflog ar gyfer staff. Hefyd mae’n cyhoeddi data yn unol â’r canllawiau ynghylch adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, er nad yw’n ofyniad cyfreithiol yng Nghymru. 

Yn ogystal mae gan y Brifysgol rwydwaith menywod gweithredol sy’n rhannu gwybodaeth a chefnogaeth â staff benywaidd a’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn fenywod, sydd wedi cofrestru eu diddordeb i ymuno. Mae ganddynt safle Teams gweithredol lle maent yn rhannu gwybodaeth a straeon am fenywod sy’n ysbrydoli. Mae gan y rhwydwaith gyfrif Twitter gweithredol @UWTSDWomen

Y Gymraeg

Mae gennym draddodiad balch fel sefydliad dwyieithog, sydd wedi ymrwymo i’r Gymraeg, ac mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu’r Saesneg a chaiff pob cais a gyflwynir ei drin yn gyfartal.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwrw golwg ar ein safle cyfrwng Cymraeg, yn enwedig os ydych eisiau gwneud cais yn y Gymraeg a lle bernir bod y Gymraeg yn hanfodol i’r rôl.  Er nad yw meddu ar sgiliau yn y Gymraeg yn cael ei ystyried yn faen prawf hanfodol ar gyfer pob swydd a leolir yng Nghymru, byddai disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus fod â gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o natur ddwyieithog y Brifysgol a bod yn barod i ddysgu a defnyddio cyfarchion sylfaenol.

Race Equality Charter logo

Siarter Cydraddoldeb Hiliol

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o dros 100 o sefydliadau i ddod yn aelod o’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol, rhan o AU Ymlaen.  Mae’r siarter, a gydnabyddir yn genedlaethol, yn hyrwyddo cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn y sector Addysg Uwch. 

Rydym yn cydnabod bod anghydradoldebau hiliol yn parhau i fodoli yn y gymdeithas ac yn y sector AU yn ei gyfanrwydd. Ysgrifennwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Hiliol 2021-24 ar y cyd â chynrychiolwyr staff a myfyrwyr yn 2021 ac mae’n amlinellu ein hymrwymiad i weithredu’n strategol i wneud newidiadau diwylliannol a systemig a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n staff a’n myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.

Stonewall Cymru logo

Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall

Mae PCYDDS yn gweithio’n galed i greu Prifysgol gynhwysol ar gyfer staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws, a Cwiar + (LHDTC+), i ddarparu amgylchedd diogel, agored, cefnogol a hamddenol a diwylliant cynhwysol ym maes dysgu ac addysgu drwy welliant ac ymgysylltu parhaus. 

Rydym yn falch o fod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall a’n nod yw ymgorffori  cynhwysiant LHDTC+  wrth galon y Brifysgol drwy ein rhwydwaith staff LHDTC+ a’n gwaith gyda Stonewall a darparwyr addysg eraill.

Rights, Data and Contact Information

Hawl i Weithio yn y DU

Ar gyfer swyddi academaidd, ymchwil neu arbenigol iawn, mae’n bosibl y bydd y Brifysgol yn gallu cael nawdd Gweithiwr Crefftus. Ar gyfer pob swydd arall, byddwn yn gallu ystyried eich cais dim ond os ydych yn gymwys i weithio yn y DU. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â swyddi@pcydds.ac.uk.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwefan Llywodraeth y DU.

Eich Data

Mae’r Drindod Dewi Sant, fel rhan o unrhyw broses recriwtio, yn casglu ac yn prosesu data personol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeiswyr am Swyddi, i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoli ac yn diogelu eich data.  

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein swyddi gwag, danfonwch e-bost i swyddi@pcydds.ac.uk a bydd aelod o’r tîm AD mewn cysylltiad.