Skip page header and navigation

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i bobl ofyn am wybodaeth gan y Brifysgol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Nod y Ddeddf yw hyrwyddo diwylliant o dryloywder ac atebolrwydd ymhlith holl gyrff y sector cyhoeddus a thrwy hynny hwyluso gwell dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o’r modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau a sut maent yn gwario arian cyhoeddus.

Dilynwch y camau canlynol os hoffech wneud cais am wybodaeth am y Brifysgol:​

  • Os hoffech weld gwybodaeth bersonol/data personol a allai fod yn cael ei gadw gan y Brifysgol, ewch i adran Diogelu Data PCYDDS neu llenwch Ffurflen Cais am fynediad at ddata gan y testun. 
  • Os hoffech wneud cais am unrhyw wybodaeth arall, gwiriwch yn gyntaf i weld a yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch eisoes wedi’i chyhoeddi trwy Gynllun Cyhoeddi PCYDDS 
  • Os nad yw’r wybodaeth eisoes wedi’i chyhoeddi a’ch bod yn dymuno gwneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, anfonwch e-bost neu fel arall ysgrifennwch at: 

Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Campws Busnes Abertawe
Stryd Fawr, Abertawe
SA1 1NE

Gofyn am wybodaeth

Dylai eich cais am Ryddid Gwybodaeth gynnwys:

  • Eich enw.
  • Y cyfeiriad yr hoffech i’r ymateb gael ei anfon iddo (cyfeiriad e-bost neu bost)
  • Disgrifiad manwl o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
  • Y fformat yr hoffech dderbyn y wybodaeth, er enghraifft: yn y Gymraeg, mewn taenlen, gwybodaeth mewn Braille neu mewn print bras.

Nod y Brifysgol yw ymateb i geisiadau o fewn yr amserlen statudol o 20 diwrnod gwaith.​ Efallai bydd Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol yn cysylltu â chi i gael eglurhad ynglŷn â’ch cais. Os gofynnwyd am eglurhad, bydd y cyfnod o 20 diwrnod gwaith yn cael ei ohirio nes y derbynnir eglurhad gennych.

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn diffinio nifer o eithriadau a allai atal y wybodaeth y gofynnoch amdani rhag cael ei rhyddhau. Mae’r rhain yn cael eu hegluro’n fanwl ar Wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Pan fydd y Brifysgol yn penderfynu bod angen defnyddio unrhyw un o’r eithriadau hyn, byddwch yn cael eglurhad, gan ddyfynnu’r eithriad perthnasol, ac eglurhad o’ch hawl i apelio.​

Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw geisiadau blinderus neu ailadroddus. Gall hyn gynnwys ceisiadau dro ar ôl tro gan yr un person, neu gan nifer o bobl sy’n ymddangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd, yn gofyn am yr un wybodaeth, neu’n gwneud ceisiadau y bwriedir iddynt darfu ar waith y Brifysgol.

Adolygiad Rhyddid Gwybodaeth a’r Broses Apelio

Os ydych, ar ôl cael ymateb i gais ysgrifenedig am wybodaeth, yn anfodlon â’r canlyniad, mae gennych hawl yn y lle cyntaf i ofyn am adolygiad o’r ymateb. Rhaid i bob cais am adolygiad gael ei anfon yn ysgrifenedig i:

Y Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Campws Busnes Abertawe
Stryd Fawr, Abertawe
SA1 1NE

Neu drwy e-bost.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan uwch aelod o staff PCYDDS (“yr adolygydd”)

Er mwyn bwrw ymlaen gyda’ch adolygiad cyn gynted â phosibl, dyfynnwch gyfeirnod y cais (F20/xx) a dyddiad eich cais gwreiddiol, yn ogystal â manylion am y rheswm dros wneud cais i gynnal yr adolygiad. Dylech gynnwys manylion cyswllt llawn, gan gynnwys rhif ffôn lle bo hynny’n bosibl, rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod y broses adolygu. Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais am adolygiad yn ysgrifenedig.  Yn dilyn yr adolygiad, byddwch yn cael ymateb gan yr adolygydd a fydd yn cynnwys y canlyniad a’r camau gweithredu priodol y bydd PCYDDS yn eu cymryd yn sgil hynny. 

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr adolygiad, mae gennych yr hawl i apelio yn uniongyrchol at y Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yma: -

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Cysylltwch a Ni

Paul Osborne
Swyddog Diogelu Data
Rhif: 01792  481180 

E-bost: foi@uwtsd.ac.uk

Campws Busnes Abertawe
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
High Street,
Abertawe, SA1 1NE