Skip page header and navigation

Traethodynnau Bowdler

Traethodynnau Bowdler

Cnewyllyn Casgliad Traethodynnau Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yw Casgliad Traethodynnau Bowdler o dros 9,000 o bamffledi. Daeth y casgliad i Lambed yn fuan wedi marwolaeth Dr Thomas Bowdler (1754-1825),  a oedd yn fwy adnabyddus fel puredigwr neu ‘bowdlereiddiwr’ Shakespeare (1818). Nid Dr Thomas Bowdler ei hun oedd casglwr pamffledi “Bowdler”, ond ef oedd perchennog olaf casgliad teuluol a ymestynnai’n ôl dros dair genhedlaeth flaenorol o gasgliadau Bowdler at drothwy’r Rhyfel Cartref (tua 1638). Daeth rhyw 150 o flynyddoedd o gasglu pellach i ben yn 1785 gyda marwolaeth Thomas Bowdler III (1706-85) o Ashley, ger Caerfaddon.

Cwmpas Casgliad Bowdler

Mae’n ansicr o hyd sut yn union y cyrhaeddodd pamffledi Bowdler Lambed rywbryd cyn 1836. Ond mae’n amlwg bod Thomas Bowdler IV, a oedd wedi symud yn 1811 i’r Rhyddings yn Abertawe (a oedd bryd hynny yn esgobaeth Tyddewi), yn gyfarwydd iawn â Burgess ac yn rhannu’r un cylch o ffrindiau crefyddol, gan gynnwys William Wilberforce, Hannah More, ac aelodau eraill o Sect Clapham. Yn wir, roedd Bowdler a’i chwaer, Henrietta Maria (golygydd argraffiad cyntaf The Family Shakespeare 1807) ill dau yn gyfranwyr cynnar at gronfa adeiladu Burgess ar gyfer y coleg arfaethedig. Ymhellach, cyflwynodd Dr Bowdler gopïau i Burgess o nifer o’i gyhoeddiadau (a chyhoeddiadau o eiddo eraill) sydd ar gael o hyd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn cyn ei farw, bu’n annerch y Royal Society of Literature, a sefydlwyd gan ei Llywydd hir ei wasanaeth, Thomas Burgess. Efallai mai diddordebau hysbys Burgess mewn casglu llyfrau oedd yr ysgogiad terfynol a’i anogodd i gyflwyno’r casgliad o bamffledi i Lambed.

Y prif gasglwr, fodd bynnag, oedd Thomas Bowdler II (1661-1738) a anfonwyd i Lundain o Ddulyn yn fachgen. Fe’i magwyd gan ei ewythr, masnachwr yn y ddinas, a oedd wedi dechrau’r traddodiad teuluol o gasglu pamffledi. Ac yntau’n ddyn ifanc, ymunodd Thomas â Swyddfa’r Llynges dan Samuel Pepys (a oedd ei hun yn gasglwr brwd o draethodynnau) ac yn ystod Chwyldro  1689, dilynodd esiampl Pepys gan ymddiswyddo, yn hytrach na chymryd y llw teyrngarwch i William a Mary. Parhaodd i fod yn Jacobiad pybyr ac yn Annhyngwr ymroddedig tan y diwedd, ffaith a adlewyrchir yn y 539 pamffled yn ei gasgliad sy’n ymwneud â’r gymdeithas honno.

Dechreuodd Thomas gasglu pan oedd yn ifanc, ond ysgogwyd ei ddiddordeb ymhellach pan etifeddodd gasgliad pamffledi ei ewythr Thomas Bowdler I (gweithredol 1638-1700) yn 1701. Dechreuodd gasglu o ddifrif, gan gaffael casgliadau parod megis rhai yr Esgob Ely, Francis Turner, a gafodd ei ddiswyddo (deunaw cyfrol), casgliad teuluol John Gauden (1605-1662), Esgob Caerwrangon, a nifer o eitemau a berthynai i’r Annhyngwr a’r ysgolhaig Eingl-Sacsonaidd, George Hickes (1642-1715) yn rhinwedd ei swydd yn ysgutor Hickes. 

Erbyn y flwyddyn 1709, roedd hobi Thomas Bowdler II wedi tyfu’n obsesiwn. Prynai unrhyw eitem y deuai ar ei thraws, gan nodi’n aml (ar ymyl waelod y dudalen deitl) union ddyddiad y pryniant a’r llyfrwerthwr, a manylu ar yr eitemau (mewn bwndeli) mewn catalog ysgrifenedig sydd wedi goroesi hyd heddiw. Ychydig a brynodd Thomas II ar ôl 1720, ond gadawodd y casgliad o bamffledi yn ei ewyllys i’w fab hynaf, Thomas Bowdler III, a wnaeth ychwanegiadau cymharol fach ond arwyddocaol i’r casgliad teuluol cyn iddo gael ei drosglwyddo i Dr Thomas Bowdler IV.

Cwmpas Casgliad Bowdler

Nid oedd agwedd Annhyngol Thomas Bowdler II yn cyfyngu dim ar destun y deunydd yn y casgliad, a oedd mor eang â holl faes cyhoeddi pamffledi, gan amrywio o’r uchelfrydig i ddychan gwleidyddol, y difrïol a’r anweddus. Yn ôl y disgwyl, ceir digonedd yn ymwneud â chrefydd a gwleidyddiaeth, gan adlewyrchu  pryderon y cyfnod cythryblus hwn o ryw bedwar ugain mlynedd, yn dilyn cychwyn y Rhyfel Cartref yn 1640.

Yn ychwanegol at gasgliad mawr o 539 o bamffledi Annhyngol (yn gynnwys tri deg pump o’r deugain o eitemau y gwyddys eu bod yn ymwneud â’r ddadl ynghylch arferion), mae materion yr eglwys a’r wladwriaeth, crefydd, gwleidyddiaeth a rhyddid y wasg wedi’u cynrychioli’n dda, o flynyddoedd y Cynllwyn Pabaidd ac Argyfwng y Gwahardd, trwy deyrnasiad Iago II a’r Chwyldro i Ddadl y Confocasiwn, Cydymffurfio Achlysurol, Uchelgyhuddo Sacheverell a Dadl Bangor yn y ddeunawfed ganrif. Er bod cydymdeimlad y Bowdlers gyda’r Torïaid Uchel-Eglwysig yn y dadleuon hyn, ceir digonedd o gyhoeddiadau gwrthwynebol y Catholigion, Isel Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr yn y casgliad, gan gynnwys rhai y Crynwyr.  Yr Anghydffurfiwr, Daniel Defoe, yw’r awdur y deuir ar ei draws amlaf yn y casgliad.

Ond ceir hefyd nifer o bamffledi yn ymwneud â materion Gwyddelig, y Llynges, masnach tramor a’r trefedigaethau, ynghyd â phynciau llenyddol, athronyddol, economaidd, gwyddonol a meddygol, rhai ohonynt wedi’u britho ag eitemau llawysgrif gan gynnwys pamffledi cyflawn, llythyrau, cerddi a baledi. Ceir tystiolaeth hefyd o ddiddordeb sylweddol mewn theatr gyfoes, gan gynnwys theatr gerdd. Ymhlith yr effemera niferus ceir adroddiadau am sgandalau cyfoes, treialon a dienyddiadau cyhoeddus, môr-ladrad a dewiniaeth, daeargrynfeydd a ffrwydradau llosgfynyddoedd, digwyddiadau rhyfedd a rhagarwyddion goruwchnaturiol, a beth bynnag a ddigwyddai ar y pryd i gymryd sylw’r cyhoedd. Yr amrywiaeth hwn yw’r union beth sy’n gwneud casgliad Bowdler mor ddiddorol i’r darllenydd modern ac yn adnodd mor gyfoethog i fyfyrwyr hanes cymdeithasol a diwylliannol. 

  • B. Ll. James (Gol.), 1975. A Catalogue of the Tract Collection of Saint David’s University College, Lampeter. London: Mansell.

    L. J. Harris a B. Ll. James, 1974. ‘The tract collection at St. David’s University College, Lampeter’ yn Trivium, 9, tt. 100-109. 

    James David Smith, 1997. ‘The Bowdler Collection as a Resource for the Study of the Nonjurors’ in The Founders’ Library University of Wales, Lampeter’ yn Bibliographical and Contextual Studies, Essays in Memory of Robin Rider, golygwyd gan William Marx. Trivium 29 a 30, tt.155-167.

  • Thomas Bowdler I (fl. 1638-1700) 

    Cyfrolau Traethodynnau 61, 86, 118, 122-124, 126-130, 174, 176-178, 182-183, 287, 309, 313,317, 504 a 508

    Thomas Bowdler II (1661-1738) 

    Cyfrolau Traethodynnau 1-23, 25-40, 42, 45, 47-51, 53, 55, 57-60, 62-85, 87-92, 94-96, 101-116, 119-121, 125, 131-142, 144-171, 173, 175, 180-181, 184-185, 190-209, 211-213, 215-234, 236, 238-275, 278-283, 285, 289-308, 310, 312, 314, 316, 318-338, 342-344, 347-348, 350-351, 355, 358, 360-367, 369-375, 377-383, 385, 387-418, 439-444, 446-449, 452, 455-459, 461-463, 465-475, 482, 487, 489-498, 500-503, 505-507, 510-528, 546-551, 565, 801.

    Thomas Bowdler III (1706-1785)

    Cyfrolau Traethodynnau 24, 41, 43-44, 46, 52, 97-100, 143, 189, 237, 359, 368, 421-438, 476, 483-486, 509, 539-543, 554-559, 626-678, 774

    Rhoddion cynnar eraill

    Daeth y rhan fwyaf o’r pamffledi sy’n weddill yn y Casgliad Traethodynnau gyda’r Casgliad Sylfaen a roddwyd at ei gilydd gan Thomas Burgess yn dilyn ei apêl am roddion a llyfrau yn 1807, cyn sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed, yn 1822. Ymhlith y rhain mae set o ddwy ar bymtheg o gyfrolau wedi’u rhifo a’u labelu’n ‘eitemau amrywiol’, o ddiwedd yr  ail ganrif ar bymtheg a dechrau’r ddeunawfed ganrif, gyda’r marciau perchenogion Alexander a Thomas Scott.  Fodd bynnag, ni chofnodir yr union roddwr. Rhoddwyd nifer sylweddol o draethodynnau hefyd gan gymwynaswr mawr arall y llyfrgell, Thomas Phillips.

    Cyfrolau Traethodynnau 56, 187, 249, 276, 284, 286, 339-341, 345-346, 349, 352, 354, 356, 386,450, 453-454, 464, 477-481, 535, 544, 579-580, 583-585, 600, 602, 617, 622,682, 689-690, 711, 729, 740, 742, 747, 752-754, 762-763, 770, 772, 787, 789,795, 798, 805