Skip page header and navigation

Ymgollwch ym Mwrlwm ac Egni Prifddinas Cymru

Crwydrwch y Ddinas

Mae Caerdydd yn lle gwych i fyfyrwyr ac mae yma rywbeth at ddant pawb.

Crwydrwch y glannau draw yn ardal y Bae, ewch i glybio yn hen warysau diwydiannol Caerdydd, a mwynhewch ddiwylliant mewn amgueddfeydd, orielau a theatrau o fri. Hefyd, mae ‘na gastell canoloesol, stadiwm ryngwladol gyda 76 000 o seddi, a hynny o siopau, bwytai, a chaffis y gallech chi ddisgwyl eu cael mewn prifddinas.  

Mae ein campws o fewn pellter cerdded braf i ganol y ddinas, felly bydd y cyfan ar stepen eich drws!  

Ewch am noson allan wych

Myfyrwyr yn cymdeithasu wrth fwrdd bar allanol

Ewch am noson allan wych

Mae Caerdydd yn enwog fel lle gwych am noson allan ac, fel pob dinas dda, mae’n llawn bariau a bwytai cŵl. Ewch i glybiau fel PRYZM, Tiger Tiger, Popworld, Mary’s a llawer mwy.

Ewch i Weld Sioe

Ewch i Weld Sioe

Mae rhai o ddigwyddiadau adloniant mwyaf eiconig Cymru yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Mae Canolfan y Mileniwm, canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd.  Ewch yno i fwynhau sioe gerdd o’r West End, opera, ballet, dawns gyfoes, hip-hop, neu gomedi.  

Yng nghanol y ddinas mae’r New Theatre, un o brif theatrau Caerdydd, a Neuadd Dewi Sant sy’n lleoliad arall ar gyfer cynadleddau a’r celfyddydau perfformio.

Gwyliwch Chwaraeon neu Ewch i Gig

Allwch chi ddim anwybyddu Stadiwm y Principality, y lleoliad eiconig yng nghanol Caerdydd. Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau yno, gan gynnwys cyngherddau, gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol, chwaraeon modur, a mwy.  

Neu beth am fwynhau gig awyr agored ym Mharc Bute? 

Cadwch yn Heini

Dau yn cerdded llwybr gyda'r haul yn tywynnu drwy'r coed

Cadwch yn Heini

Does dim prinder gweithgareddau hamdden ar gyfer myfyrwyr Caerdydd.  

Gan gynnwys sglefrio iâ, nofio ym Mhwll a Champfa Ryngwladol Caerdydd, Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, a llwyth o barciau gwych i feicio, sglefrfyrddio, a mwy.

Ymhellach i Ffwrdd...

Ymhellach i Ffwrdd…

Ychydig filltiroedd i lawr y ffordd, mae’r Pafiliwn art-deco ar bier Penarth, a adeiladwyd yn 1929 ac sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar.

Ewch i’r ffair neu am ddiwrnod ar y traeth yn Ynys y Barri neu i grwydro arfordir De Cymru. Beth am heic ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i weld y golygfeydd godidog?

Book an open day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.