Skip page header and navigation

Llywodraethu​ C​orfforaethol

Mae’r adran Llywodraethu Corfforaethol yn gyfrifol am oruchwylio a monitro sicrwydd, cydymffurfiaeth, ymgysylltu â rheolyddion (CCAUC/CTER), cynllunio strategol a monitro perfformiad ar draws y Brifysgol, mae hyn yn cynnwys:

  • Materion Llywodraethu a Chyfansoddiadol
  • Elusennau a Chwmnïau 
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
  • Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth
  • Cydymffurfiaeth GDPR
  • Cyhoeddi 
  • Safonau’r Gymraeg 
  • Cynllunio Strategol
  • Goruchwylio polisi
  • Perfformio a monitro’r strategaeth cyfundrefnol
  • Goruchwylio ac adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol
  • Rheoli Risg
  • Ymgysylltu a chysylltu gyda CCAUC/CTER a Llywodraeth Cymru 
  • Cynllunio Ffioedd a Mynediad

Llywodraethu​ C​orfforaethol

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymrwymedig fel sefydliad addysg uwch sy’n darparu addysg a gwasanaethau dwyieithog yn unol â dewis yr unigolyn. Amlygir hyn yn ei rôl fel arweinydd sector ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a thrwy ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r dyletswyddau sydd wedi’u hamlinellu yn Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Welsh language staff member chatting at a recruitment fair

Mae strategaethau a pholisïau ar waith i lywio ein gweledigaeth sefydliadol.

View of Swansea IQ building and the surrounding area

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005 a’i nod yw hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn atebol ar draws y sector cyhoeddus

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i bobl ofyn am wybodaeth gan y Brifysgol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.

Person opening a purple ring binder

Mae angen i’r Drindod Dewi Sant brosesu a storio gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth bersonol a elwir yn 'Ddata Personol' a data sensitif a elwir yn 'Ddata Categori Arbennig') am fyfyrwyr, gweithwyr ac eraill i ymgymryd â’i busnes yn effeithiol.

Student working on a laptop

Corff llywodraethu’r Brifysgol yw Cyngor y Brifysgol. O dan y Siarter a’r Ystatudau, mae’r Cyngor yn gyfrifol am benderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y Brifysgol, gan oruchwylio ei gweithgareddau, sicrhau ei hydaledd a diogelu asedau.

Technium 2 building in Swansea

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi cymeradwyo Cynlluniau Ffioedd a Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan ei chaniatáu i osod ffioedd dysgu ar gyfer ei chyrsiau israddedig ar gyfer ymgeiswyr llawn amser o’r DU/UE.

Students sitting on the beach