Skip page header and navigation

Ymchwil Mewn Celf a Dylunio

Mae Ymchwil ac Arloesi wedi gwreiddio’n gadarn yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Drindod Dewi Sant. Mae academyddion yn yr Athrofa yn weithgar ym maes ymchwil a chydnabyddir bod llawer o artistiaid, dylunwyr a meddylwyr beirniadol ar flaen y gad yn eu meysydd.

Mae’r ymchwil yn cwmpasu ystod eang o fethodolegau a dulliau, o gelf gain a damcaniaeth feirniadol yng Ngholeg Celf Abertawe, ac ymchwil dylunio cymhwysol mewn pedair canolfan ddylunio arbenigol, pob un ohonynt yn ymwneud ag anghenion gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gwyddorau bywyd.

O’r herwydd mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar ddau brif faes:

  • Dylunio ar gyfer Gwyddor Bywyd, Iechyd a Llesiant

  • Arfer Celfyddydau Cyfoes

  • Mae ymchwil sy’n seiliedig ar ddylunio yn canolbwyntio ar gymhwyso ac mae’n seiliedig yn bennaf ar anghenion y sector gwyddor bywyd ac iechyd, gan gynnwys y GIG, elusennau iechyd, diwydiant, darparwyr gwasanaethau yn y sector preifat a gwyddorau milfeddygol.  Mae’r gwaith hwn wedi’i drefnu mewn tair canolfan ymchwil.

    Mae’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), a sefydlwyd yn 2015, yn cydweithio â’r sector preifat, ymddiriedolaethau’r GIG, elusennau ymchwil, a phartneriaid academaidd i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a systemau arloesol yn y sector iechyd a llesiant.

    Mae Canolfan Arloesi Cerebra (CIC), a sefydlwyd yn 2004, yn fenter ar y cyd rhwng yr elusen genedlaethol Cerebra a’r Drindod Dewi Sant, sy’n cynnal ymchwil cymhwysol i ddylunio a chynhyrchu offer pwrpasol ar gyfer plant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol lle mae diffyg cynnyrch ar y farchnad.

    Sefydlwyd Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru (CBM) yn 2014 ac mae’n awdurdod blaenllaw ar weithgynhyrchu haen ar haen gan arbenigo mewn ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, datblygu cynnyrch a swp-gynhyrchu. Mae CBM yn cefnogi arloesedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau a sectorau diwydiant, gan gynnwys meysydd meddygol, milfeddygol, awyrofodol a modurol.

  • Mae gan Goleg Celf Abertawe hanes hir a sefydledig o ragoriaeth mewn ymchwil seiliedig ar arfer gan dynnu ar fethodolegau ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydweithredol. Mae archwiliadau creadigol o’r fath yn rhoi cyd-destun cenedlaethol i’n hymchwil, gyda chysylltiadau cryf â chelf a diwylliant Cymru, ac rydym yn arddangos ein harferion cyfoes arloesol yn rhyngwladol. 

    Gan hynny mae’r gwaith yn ymrannu’n dair brif thema, sef ymchwil cydweithredol gyda phroffesiynau a chymunedau gofal iechyd i hyrwyddo iechyd a llesiant, gan gyfeirio’n benodol at hunaniaeth rywiol ac iechyd rhywiol; themâu cymdeithasol-ddaearyddol yn ymwneud â hunaniaeth, cymuned a pherthyn, gyda’r rhain yn amrywio o waith ymatebol yn lleol i faterion geo-wleidyddol byd-eang; a gwaith wedi’i lywio gan ddamcaniaethau sy’n seiliedig ar ganfyddiadau a darlleniadau, er enghraifft perthynas cynulleidfaoedd â ffurfiau a gwrthrychau creadigol, a hefyd waith ar ddarlunio, creadigrwydd, semioteg a beirniadaeth lenyddol.

    Canolfan Ymchwil ac Arloesi’r Diwydiannau Creadigol (CIRIC) sydd, ers 2005, wedi bod yn brif gyfrwng datblygu prosiectau trosglwyddo gwybodaeth cydweithredol,  amlddisgyblaethol ac aml-bartner yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, a’r

    Ganolfan Ymchwil Metaddylunio (MDRC). Wedi’i lansio yn 2019, mae’r Ganolfan yn gweithredu fel gofod ymchwil pontio, cydweithredol a chreadigol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes arfer celfyddydau cyfoes a’r rheiny ym maes dylunio ar gyfer gwyddor bywyd, iechyd a llesiant.

  • Mae gan yr Athrofa ddiwylliant ôl-raddedig bywiog, gyda rhaglenni MA a PhD llwyddiannus ym meysydd celf a dylunio.  Er 2014, mae deugain o fyfyrwyr wedi ymuno â’n rhaglenni PhD a dyfarnwyd ugain o raddau ymchwil.  Un o’r prif flaenoriaethau yn hyn o beth fu datblygu prosiectau a ariennir a phrosiectau cydweithredol gyda diwydiant, y GIG a’r trydydd sector, sy’n cyd-fynd â’n strategaeth ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth gref yn ymwneud ag arfer.

    Yn hyn o beth, mae gennym saith Ysgoloriaeth PhD ar Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) gyda chyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  Er 2015 mae Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru (CBM) hefyd wedi ariannu tair ysgoloriaeth PhD lawn yn canolbwyntio ar gymhwyso technolegau gweithgynhyrchu uwch yn y sector meddygol.

  • Roedd 49% o’r ymchwil wedi’i raddio 4* (sy’n arwain yn fyd-eang) neu 3* (sy’n rhagorol yn rhyngwladol), o feysydd Celf a Dylunio, Addysg, Ieithoedd Celtaidd a Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, a Seicoleg.

Content

The Scale project will run throughout 2024 and will provide support to Micro/Small enterprises, entrepreneurs, and graduates in the County of Swansea.

Scale logo

The Architectural Glass Centre (AGC) is the commercial arm of the renowned department at Swansea College of Art, University of Wales Trinity Saint David, Swansea.

Stain glass panels in front of windows catch the light.