Skip page header and navigation

Teithio i Lambed

Mae’r campws wedi’i leoli yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan (Llambed). Dyma dref llawn hanes a diwylliant.  Mwynhewch groeso a lletygarwch y gymuned leol. 

Rydym wedi creu’r dudalen hon er mwyn rhoi’r holl wybodaeth byddwch ei hangen i gyrraedd ein campws yn Llanbed yn ddidrafferth. Boed yn drip lleol neu’n daith o bell, ein nod yw sicrhau bod eich taith mor ddi-ffwdan â phosibl.

Our Lampeter Campus Location

  • Os ydych chi’n gyrru i PCYDDS, Campws Llambed, Ffordd y Coleg, Llambed, SA48 7ED

    Diwrnodau Agored

    Os ydych chi’n mynychu diwrnod agored, mae parcio am ddim ar gael ar gampws Llambed. 

    Parcio i Ymwelwyr

    Mae gan ein campysau gysylltiadau gwych o ran cludiant cyhoeddus. Gweler yr adrannau Bws, Trên a Beic uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd ein campws trwy gludiant cyhoeddus.  

    Parthau Parcio

    Er mwyn sicrhau ateb ymarferol o ran rheoli parcio, mae’r lleoedd ar y campws wedi eu rhannu’n barthau, fel y gwelir ar Fapiau Parcio Llambed. Mae’r rhain yn cynnwys:

    Mannau dynodedig ar gyfer:
    • staff
    • deiliaid bathodyn glas (wedi eu marcio yn y meysydd parcio)
    • myfyrwyr
    Cynllunio eich Taith
  • Mae gwasanaeth bws lleol Llambed yn cynnig llwybrau rheolaidd sy’n cysylltu gwahanol rannau o’r dref, gan gynnwys ein campws.  Mae bysys yn rhedeg yn o ddau dref cyfagos Caerfyrddin ac Aberystwyth 

  • Gorsaf drenau agosaf Llambed yw Caerfyrddin ac Aberystwyth ac mae trenau’n rhedeg yn rheolaidd o ddinasoedd a threfi mawr. Gallwch gynllunio eich taith trên yn Traveline.cymru.

    O Gaerfyrddin ac Aberystwyth, gallwch ddal un o’r bysiau rheolaidd sy’n rhedeg i Lambed. Ceir manylion am y gwasanaethau bws o dan yr adran ‘Bws’ uchod.  

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Parcio

Cyflwynodd Campws Llambed System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.

Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig, gall ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid talu i barcio trwy un o’r mesuryddion talu neu’r Ap PayByPhone ar yr arwyddion sydd ar gael.