Skip page header and navigation

Noddfa

Noddfa

View of a Swansea beach

Noddfa

Mae’n bleser gennyf gael y cyfle hwn i fynegi’r dymuniad i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyflawni statws Prifysgol Noddfa.

Datganiad Cenhadaeth ein Prifysgol yw ‘Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau’ ac mae’n sail i bopeth a wnawn. Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymwybodol o’n sefyllfa fel Prifysgol sydd o Gymru ac yng Nghymru, Cenedl Noddfa, ac sy’n gweithredu’n rhannol yn ardal Abertawe, Dinas Noddfa. Fel Prifysgol ceisiwn gefnogi nodau datganedig y Genedl Noddfa a dymunwn wneud ein rhan i groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Gymru.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chymorth addysgiadol i helpu unigolion i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu potensial. Rydym yn dathlu sgiliau, profiad a gwytnwch ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn cydnabod y cyfraniad mae’r grŵp hwn yn gallu’i wneud ac wedi’i wneud i Gymru. Mae gan y Brifysgol draddodiad balch o weithgarwch prosiect a gwaith gyda ffoaduriaid a chyda phobl sy’n ceisio lloches. Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i ni ganolbwyntio ein polisïau, ein cefnogaeth, ein gweithgarwch a’n rhwydwaith partneriaeth gyda’i gilydd dan un faner i sicrhau bod ein hymrwymiad yn eglur ac yn ddigamsyniol: mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Brifysgol Noddfa.
Professor Dylan Jones, Deputy Vice Chancellor

Bwrsarïau Noddfa Myfyrwyr

Rydw i wedi cael cymorth aruthrol gan y Brifysgol sydd wedi gwneud i mi barhau i ffynnu yn f’astudiaethau. Mae’r cymorth rydw i wedi bod yn ei gael gan y darlithwyr a’r staff yn syfrdanol. Rydw i wedi gallu integreiddio i’r system yn gyflawn, ac mae hyn wedi cyfrannu at wella fy llesiant meddwl.
UWTSD Sanctuary Scholar 2022

Caiff Bwrsarïau Noddfa’r Drindod Dewi Sant eu hanelu at bobl â statws ffoadur, diogelwch dyngarol, caniatâd cyfyngedig i aros neu statws ceisiwr lloches, neu ddibynyddion y bobl uchod. Mae’r cynllun yn cynnwys hepgor ffioedd dysgu yn ogystal â mathau eraill o gymorth. Rhagor o wybodaeth yma…