Skip page header and navigation

Canolfan Gwasanaethau Cymraeg

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yma i’ch cefnogi.  Yn ogystal â bod yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r ganolfan yn gartref i Rhagoriaith a Pheniarth. 

Canolfan Gwasanaethau Cymraeg

Logo Rhagoriaith

Rhagoriaith

Mae Rhagoriaith yn un o ddarparwyr hyfforddiant Cymraeg mwyaf blaenllaw Cymru yn y sector addysg ac yn un o ddarparwyr Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Sabothol i Athrawon a Chynorthwywyr Dosbarth. Mae Rhagoriaith yn gallu darparu cyrsiau pwrpasol ar gyfer ysgolion i fodloni gofynion penodol, e.e. gwersi un-i-un neu ddarpariaeth datblygiad proffesiynol. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u hanelu yn benodol i godi hyder a hyfedredd athrawon a dysgwyr, codi safonau ar draws yr ysgol a helpu i ddatblygu gallu unigolion i addysgu’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ar bob lefel. 

Cysylltwch am fwy o fanylion. 

Logo Peniarth

Peniarth

Ers blynyddoedd lawer, mae Peniarth wedi bod yn un o brif ddarparwyr adnoddau cyhoeddedig ac adnoddau digidol sy’n gwasanaethu’r sector addysg yng Nghymru gyfan o gyfnod y blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae Peniarth wedi creu cannoedd o adnoddau sy’n cynnwys cynlluniau darllen poblogaidd fel Tric a Chlic, nifer o apiau a gwefannau. Ariennir llawer o’n hadnoddau gan Lywodraeth Cymru ac maent yn ategu gweithrediad Cwricwlwm i Gymru. 

Cysylltwch am fwy o fanylion drwy ebost neu drwy ffonio 01267 676772 

Logo'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.