Skip page header and navigation
Date(s)
This event has multiple dates:
  • -
  • -

Dyddiadau'r seremoniau

Students throwing their caps at their graduation

Dydd Llun 15fed Gorffennaf 2024 a Dydd Mawrth 16eg Gorffennaf 2024

Cynhelir y seremoniau yn Arena Abertawe, SA1 3BX. Bydd gwahoddiadau personol yn cael eu e-bostio at raddedigion cymwys yn ystod gwyliau’r Pasg. 

Gwybodaeth Graddio

Os dymunwch fynychu Seremoni Raddio, y mae gofyn ichi wisgo’r wisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad y’ch derbynnir iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw archebu hon eich hun ar Ede & Ravenscroft.

Dylech archebu o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na fydd Ede and Ravenscroft yn gwarantu’r archeb os daw i law yn hwyrach na hynny.  Peidiwch ag aros am ganlyniadau’r asesu terfynol.  Mae ad-daliadau ar gael os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ond rhaid rhoi gwybod i Ede & Ravenscroft o fewn 7 diwrnod cyn y seremoni.  Gellir dod o hyd i’w polisi canslo ar eu gwefan. Fe fydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod eich archeb pan fydd wedi ei phrosesu ond mae’n bosib na fyddwch yn ei dderbyn tan 10 diwrnod cyn eich seremoni.

Rhowch UWTSD pan ofynnir ichi nodi enw eich sefydliad. Fe fydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.

Bydd eich gwisg yn barod i chi i’w chasglu o’r Arena ar Ddiwrnod Graddio. Dychwelwch eich gwisg yma wedi eich seremoni.

Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond gallwch ofyn am docynnau ychwanegol os ydych yn dymuno. Unwaith y bydd nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi ei gadarnhau fe benderfynir a oes modd dyrannu tocynnau ychwanegol. Ni wneir y penderfyniad hwn tan wythnos cyn y seremonïau felly peidiwch â ffonio’r Gofrestrfa os gwelwch yn dda i ofyn am argaeledd tocynnau ychwanegol. Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni ond cewch e-bost o flaen llaw yn cadarnhau faint o docynnau y byddwch yn eu derbyn. Nid yw’r seremonïau yn addas ar gyfer plant o dan 5 oed oherwydd natur ffurfiol y gweithrediadau.

Yr ydym yn cydnabod y gall cyfyngu ar docynnau i westeion yn y ffordd yma fod yn destun siom, ond fe fyddwch yn gwerthfawrogi bod nifer y seddau yn gyfyngedig. 

Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd neu ofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, rhowch fanylion yn adran berthnasol y dudalen Archebu Lle Graddio ar MyTSD..

Dylid gwneud archebion am ffotograffau ffurfiol o flaen llaw yn uniongyrchol trwy Ede & Ravenscroft

Ar Ddiwrnod Graddio, bydd y stiwdio tynnu lluniau a’r ddesg werthu wedi eu lleoli yn yr Arena. 

Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu y gallant wylio’r seremoniau’n fyw ar wefan y Brifysgol. Bydd y seremoniau yn cael eu ffrydio’n fyw ar wefan y Brifysgol.  

FAQ's

  • Ebostiwch graddio@ydds.ac.uk ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio’ch cofnod ac yn ailargraffu’r gwahoddiad os yw’n briodol.

  • Ewch i MyTSD a theipio eich rhif myfyriwr a’ch cyfrinair. Ewch i ‘Graddio Myfyrwyr’ ar y dudalen Gartref a dilyn y cyfarwyddiadau. 

  • Caerdydd

    Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at leoliad y seremoni – gweler y map wed’i atodi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Meysydd parcio (cardiff.gov.uk)

    Abertawe

    Mae sawl maes parcio wedi’u lleoli yn agos at yr Arena. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Meysydd parcio (Cyngor Abertawe)

  • Bydd angen i chi gyrraedd oddeutu ddwy awr cyn i’r seremoni ddechrau er mwyn rhoi amser i chi gasglu eich gwisg, rhif sedd a thocynnau gwestai. Fe fyddwn yn anfon gwybodaeth bellach ynghyd ag amserlen o ddigwyddiadau atoch wythnos cyn y seremoni.

    Bydd angen i chi fod yn eich sedd 45 munud cyn amser dechrau’r seremoni ac yn ystod yr amser hwn byddwch yn eistedd yn y sedd a ddyrannwyd i chi a bydd y Prif Dywysydd yn eich briffio.

  • Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd / ofynion mynediad penodol neu nam ar y clyw, mae angen i ni wybod amdanyn nhw. Rhowch fanylion ym mlwch ‘Manylion pellach’ ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.

    Rhowch wybod i’r staff ar y dydd hefyd fel y gellir cynnig cymorth.

  • Byddwch yn gallu casglu tocynnau eich gwestai o’r ddesg Gofrestru pan fyddwch yn cyrraedd yr Arena. Ni neilltuir seddi penodol i westeion a gall gwesteion eistedd unrhyw le yn yr awditoriwm ac eithrio’r seddi sydd wedi’u cadw ar gyfer Darpar Raddedigion, gwesteion yr Is-Ganghellor neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd seddi a gadwyd wedi eu marcio’n glir. Ceir mynediad trwy docynnau yn unig a rhaid rhoi tocynnau i’r stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau i’r awditoriwm yn agor 45 munud cyn dechrau’r seremoni.  Bydd staff yr Arena wrth law i helpu eich gwestai i ddod o hyd i’w seddi.

  • Rhaid i Ddarpar Raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer cael eu cyflwyno yn y seremoni. Rhaid hefyd wisgo’n eithaf ffurfiol. Mae angen i’r cwfl (hood) gael ei ddal yn ddiogel yn ei le wrth siaced, crys neu flows.

  • Ar ddechrau’r seremoni, bydd y graddedigion a’r gwesteion yn sefyll wrth i’r staff academaidd ymdeithio i mewn i’r awditoriwm. Yn dilyn gair o groeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.

    Wedi darlleniad o’r Proclamasiwn, cyflwynir y graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu’r sawl a enwebwyd ganddi). Cewch eich annog gan dywyswyr i godi o’ch sedd ac aros mewn rhes yn barod i gael eich cyflwyno ar yr amser priodol.

    Bydd eich enw yn cael ei ddarllen ac ar y pwynt hwnnw byddwch chi’n esgyn i’r llwyfan, yn cerdded at yr Is-Ganghellor ac yn codi eich cap. Wedyn byddwch yn gadael y llwyfan a bydd aelod o staff yn eich tywys yn ôl i’ch sedd.

    Wedyn bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn yr un dyfarniad i sefyll a bydd yn eich cyflwyno’n ffurfiol i’ch dyfarniad. Dylech godi eich cap mewn ymateb a pharhau i sefyll er mwyn derbyn Cyfarchion y Brifysgol.

  • Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig. 

  • Mae hyd y seremoni yn ddibynnol ar y nifer sy’n mynychu, cysylltwch â graddio@pcydds.ac.uk am wybodaeth bellach. Heblaw pan fyddwch yn cael eich cyflwyno, mae’n ofynnol i chi aros yn eich sedd gydol y seremoni. 

  • Mae’n RHAID i chi sicrhau eich bod chi wedi talu unrhyw ddyledion academaidd i’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid ar unwaith i drafod eich opsiynau. Os oes gennych unrhyw ddyledion academaidd heb eu talu ac os nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i’w clirio, gallech chi gael eich eithrio o’r seremonïau graddio.

  • Wrth raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn dod yn aelod o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn awtomatig. Yn aelod o’r Gymdeithas hon, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am newyddion a datblygiadau yn y Brifysgol – mae’n ffordd wych i ni gadw mewn cysylltiad â’n gilydd!

  • Mae tystysgrifau yn cael eu postio tua 8 wythnos wedi i’ch dyfarniad gael ei gadarnhau gan y Bwrdd Dyfarnu. 

    Ni fydd tystysgrifau yn cael eu rhyddhau i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud trefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i dalu eu dyledion. 

    Os bydd gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch tystysgrif, cysylltwch â cofrestrfa@ydds.ac.uk If after this time you should have any query regarding your certificate, please contact Registry.

Lleoliad

Arena Abertawe
Abertawe
SA13BX
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn