Skip page header and navigation

Iechyd a Heneiddio

Asesiadau Ffitrwydd ac Iechyd

Mae asesiadau a rhaglenni personol yn cael eu nodi gan ein gwyddonwyr ymarfer corff sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio gydag athletwyr rhyngwladol, a gofal iechyd clinigol yr henoed.

  • Asesiad aerobig llawn + presgripsiynau ymarfer corff – £200

    VO2max, trothwy anaerobig, effeithlonrwydd yr ysgyfaint, presgripsiwn ymarfer corff, cyfansoddiad y corff*. Dyma becyn sy’n darparu’r holl ofynion ar gyfer athletwyr ac ymarferion difrifol. VO2max yw’r dangosydd safon aur o ffitrwydd dygnwch a sydd hefyd yn lleihau dechrau cyflyrau meddygol sy’n gysylltiedig ag oedran. Mae’r presgripsiwn ymarfer corff yn cael ei bersonoli i anghenion unigol ac yn hanfodol er mwyn gwella iechyd a ffitrwydd cymaint ag y bo modd.

    Asesiad aerobig llawn, presgripsiwn ymarfer corff ac asesiad dilynol – £300  

    Fel uchod, gyda phrawf dilynol. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ail brawf ffitrwydd ac iechyd a bydd yn dangos unrhyw newidiadau mewn perfformiad ar ôl yr asesiad cyntaf.

    Asesiad aerobig – £120

    VO2max, trothwy anaerobig, effeithlonrwydd yr ysgyfaint, cyfansoddiad y corff. Fel uchod ond heb gynnwys y presgripsiwn ymarfer corff ac asesiad dilynol.

    Asesiad llawn aerobig + asesiad dilynol – £200

    Fel uchod ond gan gynnwys prawf dilynol. 

    Asesiad clinigol – £120

    Trothwy peiriannau anadlu, pwysedd gwaed, effeithlonrwydd yr ysgyfaint, cyfansoddiad y corff, hyblygrwydd, cryfder y cyhyrau. Bydd y profion hyn yn mesur statws iechyd unigolion sydd o bosib yn llonydd neu’n heneiddio. Mae iechyd da yn hanfodol ar gyfer darparu ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd da a gostwng y risg o gyflyrau meddygol a all ddigwydd wrth i ni heneiddio.

    Asesiad clinigol + presgripsiwn ymarfer corff – £180

    Fel uchod ond gan gynnwys rhaglen sy’n gysylltiedig ag iechyd personol a gynlluniwyd i wella a chynnal iechyd a ffitrwydd y rhai nad ydynt yn athletwyr.

    Asesiad cryfder cyhyrau a phŵer, gan gynnwys technegau hyfforddi ymwrthedd a chynllunio rhaglen – £80

     Mae cryfder a phŵer yn bwysig mewn llawer o weithgareddau, yn enwedig gemau tîm a chwaraeon cyswllt. Dylai rhaglen hyfforddi pwysau/ymwrthedd effeithiol gynnwys y dwyster, hyd, amlder, a’r amseroedd adfer gorau posibl.

    Mae cryfder a phŵer hefyd yn bwysig mewn bywyd diweddarach ar gyfer cadw màs cyhyrau, osgoi eiddilwch a chynnal hyblygrwydd a symudedd.

    *Mae asesiad cyfansoddiad corff yn rhad ac am ddim wedi’i gynnwys gyda phob asesiad. 

Canolfan Iechyd a Heneiddio

Wrth i ni fynd drwy fywyd, mae angen i’n gweithgarwch corfforol newid. Mae’r Ganolfan Iechyd a Heneiddio (CHA) yn adeiladu ar ymchwil o fri rhyngwladol gan Dr Peter Herbert, gan ddatblygu rhaglenni ymarfer corff ac iechyd sy’n cydnabod ein hanghenion newidiol wrth i ni heneiddio.

Mae CHA yn rhoi cyfle i bob aelod o’r gymuned sydd dros 50 oed fanteisio raglenni ymarfer corff personol a chyngor arbenigol fesul un ar agweddau ar iechyd, maeth ffitrwydd a ffordd o fyw.

Rydym yn cynnal dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae gennym fideos ar-lein i gefnogi ymarfer corff gartref. Rydym yn darparu ar gyfer cyfranogwyr o bob gallu. Rydym yn cefnogi pobl nad ydynt wedi ymarfer oherwydd cyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd, diffyg cymhelliant neu gyfle, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn athletwyr gweithgar neu feistrolgar i gynnal a gwella lefelau ffitrwydd a chryfder.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Peter Herbert yn p.herbert@pcydds.ac.uk neu Kirsty Thomas yn kirsty.edwards@pcydds.ac.uk.

Pwy all elwa?

01
Pobl nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw ymarfer corff
02
Pobl sydd â chyflyrau meddygol
03
Pobl ac athletwyr gweithgar y mae eisiau cyngor proffesiynol arnyn nhw

Ymarfer Corff a Heneiddio

Iechyd a Ffitrwydd

Mae bod yn gorfforol egnïol  yn rheolaidd yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau gwell iechyd a ffitrwydd. Mae astudiaethau wedi dangos bod ymarfer corff yn cynnig nifer o fanteision iechyd ac y gall oedolion hŷn wella ansawdd eu bywydau drwy barhau i fod yn gorfforol egnïol. Gall hyd yn oed ymarfer corff cymedrol a gweithgarwch corfforol wella iechyd a ffitrwydd.

Gall diffyg gweithgarwch corfforol arwain at ragor o ymweliadau â’r meddyg, rhagor o bobl yn treulio cyfnod mewn ysbytai, a rhagor o ddefnydd o feddyginiaethau ar gyfer amrywiaeth o afiechydon. Gall aros yn gorfforol egnïol a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd helpu i atal neu ohirio llawer o glefydau ac anableddau. Mewn rhai achosion, mae ymarfer corff yn driniaeth effeithiol ar gyfer llawer o gyflyrau cronig. Dengys astudiaethau y bydd pobl sydd ag arthritis, clefyd y galon, neu ddiabetes yn elwa o ymarfer corff rheolaidd. Mae ymarfer corff hefyd yn helpu pobl sydd dros eu pwysau, ac sydd â phwysedd gwaed uchel, problemau cydbwysedd, neu anhawster cerdded.

Gall  gweithgarwch corfforol rheolaidd a chymedrol helpu i reoli straen a gwella eich hwyliau. A gall bod yn egnïol a hynny’n rheolaidd helpu i leihau teimladau o iselder. Mae astudiaethau hefyd  yn awgrymu y gall ymarfer corff wella neu gynnal rhai agweddau ar swyddogaeth feddyliol.

Ffitrwydd

Gall bod yn gorfforol egnïol eich helpu i aros yn gryf ac yn ddigon heini i barhau i wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau. Mae’n eich galluogi i elwa o ymarfer corff megis loncian, beicio a nofio a llawer o weithgareddau hamdden megis cerdded bryniau, tenis a golff. Gall rhai oedolion hŷn fod yn amharod i wneud ymarfer corff ac yn pryderu y bydd ymarfer corff yn rhy galed neu y bydd yn eu niweidio. Yn wir, mae llawer o wyddonwyr yn ystyried mai anweithgarwch yw achos mwyaf afiechyd  yn ddiweddarach mewn bywyd.

Ymarfer Corff neu Weithgarwch Corfforol?

Mae gweithgarwch corfforol yn disgrifio gweithgareddau sy’n gwneud i’ch corff symud megis garddio, cerdded y ci, mynd i’r siopau a defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft. Mae ymarfer corff yn fath o weithgarwch corfforol sydd wedi’i gynllunio’n benodol, wedi’i strwythuro, ac yn ailadroddus megis hyfforddiant pwysau ac aerobeg. Bydd cynnwys gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff yn eich bywyd yn rhoi manteision iechyd i chi a all wneud i chi deimlo’n well a mwynhau eich bywyd yn llawer mwy wrth i chi heneiddio.