Skip page header and navigation

Mae datblygiad Tir Glas ar gampws Llambed o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi ei raglen o ddigwyddiadau yn ystod Tymor y Gwanwyn.

Exterior of Lampeter campus grounds and building

Mae Tir Glas yn gymuned academaidd ac ymarferol gyda’r nod o ddatblygu bywyd gwledig cynaliadwy, gan hyrwyddo ffyniant economaidd yn ogystal ag arddangos gwir gyfrifoldeb amgylcheddol tra’n gwarchod treftadaeth ddiwylliannol.

Mi fydd rhaglen ddigwyddiadau’r gwanwyn yn dechrau gyda noson arbennig ar Ionawr 29ain am 5.30 yr hwyr yn Neuadd y Celfyddydau ar gampws Llambed yng nghwmni Simon Wright o Wrights Emporium Llanarthne a’r cogydd enwog Nathan Davies. Mae Nathan yn wyneb cyfarwydd fel cyn gogydd bwyty Ynyshir ac SY23 yn Aberystwyth, ac yn ystod y noson mi fydd yn sgwrsio gyda Simon am ei yrfa lwyddiannus, gan gynnwys ennill seren Michelin.

Yna ar Chwefror 21ain, bydd dangosiad o’r ffilm ‘Rooted: Growing a Local Food Ecosystem’ yn yr Hen Neuadd. Arweinyddiaeth Bwyd & Cook 24 fydd yn hoelio’r sylw fis Mawrth, gyda noson yn trafod Perlysiau Pwerus gyda Sami o Roots yn cloi’r rhaglen fis Ebrill.

Dywedodd Hazel Thomas, Cydlynydd Tir Glas:

“Gyda datblygiadau Tir Glas wedi denu cefnogaeth o fewn y gymuned leol dros y misoedd diwethaf, roedd yn bwysig ein bod yn creu rhaglen o ddigwyddiadau a fyddai’n cadw’r momentwm yna i fynd. Mae digwyddiadau’r gwanwyn yn cael eu hyrwyddo ar hyn o bryd gyda mwy i ddilyn.  Mewn cyfnod o ansicrwydd yn y byd mae mor bwysig ein bod yn cadw llygad ar ein milltir sgwâr a chynnwys y gymuned ar bob cam o ddatblygiadau Tir Glas.”

Digwyddiadau Tir Glas

Ionawr 29 | 5.30yh
Simon Wright mewn sgwrs gyda’r cogydd enwog Nathan Davies
Lleoliad: Neuadd y Celfyddydau

Chwefror 21 | 5.30yh
Dangos y ffilm Rooted: Growing a Local Food Ecosystem gyda thrafodaeth i ddilyn
Lleoliad: Yr Hen Neuadd

Mawrth 20 | 5.30yh
Arweinyddiaeth Bwyd & Cook24
Lleoliad: Yr Hen Neuadd 

Ebrill 17 | 5.30yh
Perlysiau Pwerus gyda Sami o Roots
Lleoliad: Yr Hen Neuadd 

I archebu lle, cysylltwch â hazel.thomas@pcydds.ac.uk | 07973 840285


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon