Skip page header and navigation

Mae Dan Priddy, Rheolwr Perfformiad Cyllid a Busnes ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi cael ei enwi gyda’r goreuon yng Ngwobrau Gŵn Gwyrdd y DU ac Iwerddon 2023. Mae Dan wedi cyrraedd y rhestr fer mewn cydnabyddiaeth o’i waith ar sawl prosiect datgarboneiddio ledled ystâd y Brifysgol.

Dan Priddy yn edrych i gyfeiriad y camera; ar y glaswellt tu ôl iddo mae cerflun carreg yn coffa daucanmlwyddiant y Brifysgol.

Mae Gwobrau Gŵn Gwyrdd y DU ac Iwerddon, y’i sefydlwyd yn 2004, yn cydnabod mentrau cynaliadwyedd eithriadol gan brifysgolion a cholegau. Mae’r Gwobrau wedi hen ennill eu plwyf fel y ffordd fwyaf mawreddog o gydnabod arfer gorau yn y sectorau addysg bellach ac uwch.

Er bod llai na 5% o’i rôl yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynaliadwyedd, mae cariad Dan at y maes wedi arwain ato’n sbarduno newid yn y brifysgol, gan gyrchu cyllid, cychwyn a chyflawni prosiectau datgarboneiddio ac ymgorffori cynaliadwyedd yn niwylliant y Brifysgol trwy gamau gweithredu ystyrlon a thrwy ysbrydoli eraill.

Mae Dan wedi ymgymryd â nifer o brosiectau cydweithredol, gan gynnwys:

  • Gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (GYLlC) a Salix;
  • Cyflwyno prosiect trydaneiddio cerbydau fflyd y Brifysgol;
  • Cyflwyno’r cynllun aberthu cyflog cerbydau trydan (EV) i staff;
  • Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled yr ystâd;
  • Gosod prosiectau solar ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â TEC ac EDF;
  • Gwelliannau i adeiledd adeiladau gan ddefnyddio dull ‘adeilad cyfan’.

Meddai Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn y Drindod Dewi Sant: “Dan yw’r partner Busnes Cyllid ar gyfer sawl tîm ar draws y Brifysgol. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi, hyfforddi, a rheoli staff tuag at reolaeth ariannol da, gan sicrhau y cydymffurfir â chyllidebau a phrosesau ariannol.

“Yn rhan o’i rôl, mae’n rhagweld ac yn adrodd ar gyfleustodau. Ynghyd â chariad gwirioneddol at gynaliadwyedd ac awydd i wneud gwahaniaeth, mae hyn wedi arwain at Dan yn mynd y tu hwnt i ofynion arferol ei rôl a chael effaith sylweddol ar ddatgarboneiddio’r Drindod Dewi Sant. Mae wedi ennill cyllid a chyflawni sawl prosiect datgarboneiddio ar raddfa fawr; mae wedi meithrin partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau allweddol ac fel partner busnes, mae’n gallu herio gwariant cyllideb nad yw’n cefnogi agenda ddatgarboneiddio’r Brifysgol.”

Ychwanegodd Kate: “Mae Dan yn parhau i yrru uchelgeisiau ynni adnewyddadwy’r brifysgol, gan dreulio amser ac egni yn creu achosion busnes ar gyfer atebion ynni adnewyddadwy a charbon isel newydd; mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o fferm solar ar y campws a chyfrannu’n sylweddol at y strategaeth ddatgarboneiddio sy’n cael ei llunio ar hyn o bryd.

“Yn ogystal â’r prosiectau penodol hyn, mae’n cyflawni camau ‘llai’ o ddydd i ddydd sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’r Drindod Dewi Sant er mwyn annog ei gyfoedion ar draws y sbectrwm cynaliadwyedd a galluogi newid sefydliadol ar raddfa fawr.

“Yn aelod o amrywiaeth o grwpiau prosiect fel Rheolwr Busnes Cyllid, mae’n herio camau gweithredu nad ydynt yn gynaliadwy ac mae’n awgrymu dewisiadau amgen priodol mewn modd sy’n annog ac yn galluogi cydweithwyr i addasu eu ffordd o feddwl a’u harfer i ddod yn fwy cynaliadwy. Efe yw’r gydwybod o ran cynaliadwyedd a fydd yn sail i newid sefydliadol.”

Meddai Victoria Camp, Arweinydd Strategol yn GYLlC: “Mae’r hyn y mae Dan wedi gallu ei gyflawni ar gyfer y Brifysgol yn anhygoel ac mae’n gaffaeliad i’r sefydliad, ac mae’n wir fraint cael gweithio ochr yn ochr ag ef a darparu cymorth ac arweiniad pan fydd arno eu hangen.”

Yn ddiweddar, arweiniodd Dan ar greu ffilm (ac ymddangosodd ynddo) mewn partneriaeth â’r Consortiwm Ynni (TEC) ac EDF, sy’n hyrwyddo datgarboneiddio ac sy’n dathlu’r hyn y mae’r Drindod Dewi Sant wedi’i chyflawni wrth osod ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y Brifysgol.

Wrth hyrwyddo cynaliadwyedd, mae hefyd yn annog cydweithwyr i ddefnyddio Warpit i leihau gwastraff ac ailddefnyddio celfi ac asedau eraill yr ystâd yn hytrach na phrynu pethau o’r newydd.

Dywedodd Dan: “Gan nad ydw i’n arbenigwr ar y pwnc, galluogodd hynny i mi weld heriau trwy lens wahanol, roeddwn i hefyd yn gallu defnyddio partneriaid allanol fel Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth a dysg a fyddai’n fy helpu i ddod â’r prosiectau hyn yn fyw.

“Mae fy nghamau gweithredu wedi cyflawni prosiectau sy’n arbed ynni ac sy’n cyfrannu’n sylweddol at uchelgais Sero Net y Drindod Dewi Sant. Wrth fanteisio ar gyllid sylweddol ar yr un pryd trwy waith cydweithredol â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Mae’r buddsoddiad hwn yn ariannu prosiectau lleihau carbon ledled ystâd y Brifysgol gan sicrhau ei bod hi’n barod at y dyfodol.”

Meddai Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elwen Evans, CB: “Rwy’n falch iawn fod Dan Priddy wedi cael ei gydnabod am ei waith sydd, ar y cyd â’i angerdd at gynaliadwyedd, wedi arwain ato’n cychwyn ac yn arwain sawl prosiect datgarboneiddio ac arbed costau ledled y Brifysgol.

“Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i greu cymuned o staff a myfyrwyr sy’n cefnogi cynaliadwyedd trwy gyfrifoldeb cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, ac amgylcheddol. Mae ymrwymiad Daniel i’r agenda hon yn batrwm i eraill ac i’w ganmol.”

Dywedodd Charlotte Bonner, Prif Swyddog Gweithredol yr EAUC, y gynghrair dros arweinyddiaeth gynaliadwyedd mewn addysg: “Y Gwobrau Gŵn Gwyrdd yw un o’r ffyrdd mwyaf mawreddog yr ydym yn cydnabod arferion cynaliadwyedd effeithiol ac arloesol ledled y sectorau addysg bellach ac uwch. Nid ein gwobrau ni ydyn nhw – maen nhw ar gyfer y sector, ac fe’u cyflwynir yn gydweithredol mewn partneriaeth yn y DU ac yn fyd-eang. Mewn maes lle mae gwyrddgalchu a marchnata cynaliadwyedd wedi mynd yn rhemp, mae strwythur y Gwobrau Gŵn Gwyrdd a arweinir gan y sector ac a adolygir gan gymheiriaid yn sicrhau eu bod nhw’n ystyrlon, yn dryloyw, ac yn ddilys. Gwyddom fod y cyffro a’r balchder a ddaw yn sgil cyrraedd y rownd derfynol yn sbardun gwych i sefydliadau gynnwys mwy o bobl yn eu gwaith cynaliadwyedd. Ond mae gwerth y Gwobrau Gŵn Gwyrdd yn mynd y tu hwnt i’r sefydliadau unigol a gaiff eu henwebu. Edrychwn ymlaen at rannu straeon am waith ein goreuon – gan ysbrydoli, arddangos effaith, a dysgu o wersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd.”

Cyhoeddir yr enillwyr yn y Seremoni Wobrwyo a gynhelir ddydd Iau 30 Tachwedd yng Ngwesty’r Titanic, Lerpwl.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau