Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda grŵp o rieni ifanc a ddygwyd ynghyd gan y tîm Dechrau’n Deg yng Nghastell-nedd Port Talbot i gyflwyno cyrsiau dysgu i oedolion.

Grŵp gwenu o oedolion a phlant ifanc.

Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth y grŵp o rieni gwblhau cwrs yn llwyddiannus a gafodd ei redeg gan Donna Williams o Adran Ehangu Mynediad y Brifysgol. Un o gyrsiau ‘Carreg Sarn’ Y Drindod Dewi Sant yw’r cwrs, o’r enw Byw Bywyd i’r Eithaf, ac mae’n defnyddio Dull Ymddygiad Gwybyddol i helpu i fagu hyder, gwydnwch a galluogi unigolion i deimlo’n hapusach ac iachach.

Gan dynnu ar anghenion dysgwyr ac amcanion yr adran Ehangu Mynediad, gweithiodd y Brifysgol yn agos â’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau a dau ddarlithydd, Jessica Pitman a Glenda Tinney, i gynllunio a chyflwyno cwrs 4 wythnos o hyd, Cyflwyniad i’r Blynyddoedd Cynnar.

Ariannwyd y cwrs gan raglen Ymestyn yn Ehangach Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn rhan o ymrwymiad y brifysgol i ehangu mynediad a chreu llwybrau i Addysg Uwch.

Bob wythnos, roedd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol yn seiliedig ar hanfodion y rhaglenni gradd Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg. Bu’r cwrs yn hynod lwyddiannus, ac ar ôl ei gwblhau, mae’r grŵp bellach yn awyddus i ddilyn mwy o gyfleoedd dysgu a gynigir gan Y Drindod Dewi Sant.

Bachgen bach yn gwenu ac yn smalio teipio ar fysellfwrdd.

Meddai Ashley Chipps, gweithiwr Cymorth Rhianta Dechrau’n Deg: “Bu’r grŵp o rieni ifanc yn ffodus i dderbyn rhaglenni amrywiol gan Y Drindod Dewi Sant. Ar Byw Bywyd i’r Eithaf, edrychodd y rhieni ar eu lles personol eu hunain a’r newidiadau y gallent eu gwneud i’w bywyd i wella eu hwyliau.

“Fe wnaethant fwynhau’r cwrs yn fawr a llwyddodd rhai i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau o ganlyniad i fynychu. Yn ystod rhaglen arall, rhoddodd tiwtoriaid o’r Brifysgol syniadau chwarae ymarferol i’r rhieni a oedd yn hawdd, yn fforddiadwy ac yn hwyliog. Creodd y rhieni grefftau arbennig gan gynnwys sachau stori, ac roedden nhw’n awyddus i ail-greu’r sesiynau hyn gartref gyda’u plant.”

Gydag awch newydd i ddysgu ers cwblhau’r cwrs, ymwelodd y grŵp ag adeilad IQ y Brifysgol ar Gampws y Glannau Abertawe gyda’u teuluoedd ym mis Chwefror am brynhawn o hwyl, chwarae a dysgu, a oedd yn cynnwys cwrdd ag academyddion a myfyrwyr presennol.

Mae’n bleser gan Y Drindod Dewi Sant gynnig ymweliadau ar y campws i Ddysgwyr sy’n Oedolion yn y gymuned yn ogystal â’u teuluoedd, ac mae’n bwriadu gweithio’n agosach â mwy o sefydliadau o fewn y Brifysgol i gynnig amrywiaeth o gyrsiau byr a sesiynau blasu yn y dyfodol agos.

Meddai Jessica Pitman, darlithydd mewn Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn Y Drindod Dewi Sant: “Pleser oedd cwrdd â’r rhieni a’r plant o’r Felin, Castell-nedd. Mae’n bwysig dangos i’r cymunedau a wasanaethwn ein bod ni’n groesawgar i bawb ac yn gefnogol o’u teithiau Addysg Uwch.

“Braf oedd gweld plant ar ein campws yn Abertawe. Rydyn ni’n brifysgol wirioneddol gynhwysol ac rwy’n edrych ymlaen at ddod â mwy o deuluoedd i mewn i ymweld â ni. Mae gen i deimlad y byddwn yn gweld un neu ddau o’r rhieni a’r plant yn dod trwy ein drysau eto.”

Dywedodd Glenda Tinney, darlithydd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant: “Roedd hwn yn brosiect hyfryd y mwynheais fod yn rhan ohono’n fawr. Roedd cwrdd yng Nghanolfan Gymunedol Melincryddan a chymryd rhan mewn gweithgareddau a oedd yn adlewyrchu rhai o’r gweithgareddau dysgu creadigol ac ar sail chwarae a drafodwn ar ein cyrsiau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn wych.

“Mwynheais glywed eu syniadau a’u dyheadau ar gyfer teithiau dysgu i’r dyfodol hefyd. Mae’r Drindod Dewi Sant yn brifysgol gymunedol, ac roedd gallu ymweld â’r rhieni yn eu canolfan gymunedol a chroesawu teuluoedd i’n campws yn gwneud ein cysylltiad cymunedol yn real iawn. Rwy’n siŵr mai megis dechrau perthynas hir â’r rhieni a’r teuluoedd fydd hyn. Gwych!”

Oedolion a phlant ifanc yn rholio toes chwarae wrth fwrdd ystafell ddosbarth.

Nodyn i’r Golygydd

Rhaglen gydweithredol a hirdymor ledled Cymru i ehangu mynediad i addysg uwch a sgiliau lefel uwch yw’r rhaglen Ymestyn yn Ehangach a gyllidir gan CCAUC. Ei nod yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan grwpiau a chymunedau blaenoriaeth yng Nghymru trwy godi dyheadau addysgol a gwella sgiliau, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch. 


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau