Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill y Digwyddiad Gorau gan Fyfyrwyr yn y Gwobrau Digwyddiadau Awyr Agored Cenedlaethol (NOEA) mewn cydnabyddiaeth o’u hymdrechion eithriadol wrth drefnu Cynhadledd a Ffair Gyrfaoedd Make a Splash in Swansea Future You y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT).

Y Rheolwr Rhaglen Jacqui Jones gydag un o’r graddedigion, Amy Harris, y ddwy mewn ffrogiau crand, yn gwenu at y camera ac yn dal y wobr Digwyddiad Gorau gan Fyfyrwyr.

Hon yw’r ail wobr i’r rhaglenni Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, a Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ei hennill eleni. Ym mis Mehefin, cawsant eu cyhoeddi fel y Rhaglen Addysgol Orau yng Ngwobrau Byd-eang y Sefydliad Lletygarwch.

Cynhaliwyd Cinio NOEA y Confensiwn a’r Gwobrau Blynyddol yn y Roman Baths and Pump Rooms, Caerfaddon, ar 22 Tachwedd, lle cafodd y goreuon o’r diwydiant eu cydnabod ar draws 23 categori gan gynnwys y Digwyddiad Bach Gorau, y Tîm Digwyddiadau Gorau, y Wobr Cynaliadwyedd a’r Wobr Arfer Gorau.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen – Portffolio Rheolaeth Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol y Drindod Dewi Sant: “Mae ennill gwobr arall ar gyfer y digwyddiad hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o waith caled a chyraeddiadau’r holl fyfyrwyr a llwyddiant y rhaglenni Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, a Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol.

“Hwn oedd y digwyddiad mwyaf i Future You y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth ei drefnu erioed, a’r cyntaf i gael ei drefnu gan fyfyrwyr. Cafodd ei enwebu gan Sam Goodfield, myfyriwr presennol yn ei flwyddyn olaf sy’n gweithio yn Arena Abertawe. Mae’n aelod o NOEA ac fe wnaeth y digwyddiad a drefnwyd ganddynt greu cymaint o argraff arno nes iddo enwebu ei gyd-fyfyrwyr.”

Roedd y rhestr fer yn cynnwys rhai o’r unigolion a’r brandiau mwyaf adnabyddus yn y diwydiant digwyddiadau, yn ogystal â doniau newydd ac sy’n dod i’r amlwg o feysydd gwyliau chwaraeon a cherddoriaeth i ddigwyddiadau sioeau gwledig, awdurdodau lleol, a diwylliannol.

Dywedodd y beirniaid ar gyfer y gwobrau: “Nid yn unig yr ydym wedi gweld y lefel fwyaf o gystadlu yn hanes 20 mlynedd y wobr, ond mae ansawdd y cynigion, y digwyddiadau, y cwmnïau a’r bobl sydd wedi’u cynnig wedi bod yn eithriadol.”

“Rydym wedi dweud yn y gorffennol y dylid ystyried cyrraedd rhestr fer gwobrau NOEA yn gyrhaeddiad mawr, mae hynny’n fwy gwir eleni ac rydym yn llongyfarch pawb sydd wedi cael eu cynnig. Roedd y gwobrau hyn yn rhai anodd eu beirniadu!”

Meddai Susan Tanner, Prif Weithredwr NOEA: “Gwelsom gynnydd enfawr mewn cynigion eto eleni, felly fe wnaethom greu mwy o gategorïau i gydnabod amrywiaeth y cynigion a’r digwyddiadau gwahanol a gyflwynwyd ganddynt. Mae hyn yn arwydd mor galonogol ar gyfer ein diwydiant, mae’r ffaith ei fod yn creu digwyddiadau o’r ansawdd hwn yn dangos hyder yn ogystal â rhagoriaeth.”

Mae’r tîm arobryn yn cynnwys y graddedigion diweddar Amy Harris, Josh Wilson, Amanda Lewis, a Mel Bourke.

Ychwanegodd Jacqui: “Dim ond Amy allodd fynychu’r seremoni gan fod Josh yn y Caribî fel aelod o’r criw lansio ar Long Fordeithio newydd Celebrity, Amanda yw’r Cynorthwyydd Digwyddiadau newydd gyda 4TheRegion ac roedd hi’n trefnu’r Gynhadledd Economi Werdd yn Abertawe, ac mae Mel bellach yn Gydlynydd Marchnata a Digwyddiadau yn Stadiwm y Principality ac roedd ef hefyd yn cynnal Digwyddiad.

O ganlyniad uniongyrchol i gymryd rhan yn Antur Academaidd Twristiaeth a Digwyddiadau Taith y Drindod Dewi Sant i’r Unol Daleithiau yn gynharach eleni, mae Amy bellach wedi gadael ar gyfer Interniaeth Ryngwladol i Raddedigion.

“Wedi’i drefnu gan y Drindod Dewi Sant, bydd Amy’n treulio blwyddyn yn gweithio mewn Tiriogaethau Neilltuedig yng Nghyrchfan Sonnenalp yng Nghyrchfan Sgïo Vail, Colorado. Mae stori Amy wedi’i chynnwys ar hyn o bryd yng Nghanllaw Gyrfaoedd Take off in Travel Travel Weekly UK, sy’n wych ei weld!”

Bydd myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau’r Drindod Dewi Sant yn cynnal Cynhadledd a Ffair Gyrfaoedd Future You y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth 2024 yn Arena Abertawe gyda chefnogaeth ABTA a’r Sefydliad Lletygarwch. Y thema fydd Cymru i’r Byd ac mae’r digwyddiad ar gyfer ysgolion, colegau a darpar fyfyrwyr, ac fe’i cynhelir yn Arena Abertawe ddydd Mawrth 27 Chwefror.

Trefnwyr y gynhadledd Make a Splash yn Abertawe ar lwyfan y gynhadledd.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau