Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dod â chynhadledd a ffair yrfaoedd Future You y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT) unwaith eto i Arena Abertawe ar Chwefror 27.

Mae un ar ddeg o bobl yn gwenu ar lwyfan Cynhadledd Future You 2023.

Wedi’i gynnal gan PCYDDS, mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a drefnir gan y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth ar draws y DU, a chaiff digwyddiad Cymru hefyd ei gefnogi gan ABTA a’r Sefydliad Lletygarwch. Mae’r digwyddiad blynyddol ar agor i ysgolion, colegau, myfyrwyr prifysgol a chyn-fyfyrwyr, unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant ac mae croeso hefyd i’r rheiny sydd â diddordeb mewn teithio, twristiaeth, digwyddiadau, lletygarwch neu hamdden.

Bydd yn ddigwyddiad rhyngweithiol sy’n symud yn gyflym, gydag amrywiaeth o siaradwyr a chysylltiadau fideo o bob rhan o’r byd, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr llwyddiannus o’r Drindod Dewi Sant yn rhannu eu straeon a phrofiadau ac yn rhoi cyfle i’r mynychwyr rwydweithio a chwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Eleni, ffocws y digwyddiad yw Cymru i’r Byd ac fe fydd yn cynnwys cwmnïau teithio, gweithredwyr teithiau, asiantau teithio, atyniadau twristiaeth, llongau mordeithio, gwestai, mannau gwyliau, cyrchfannau, canolfannau cynadledda, gwyliau, gweithgareddau awyr agored, a darparwyr lletygarwch – gan roi blas i fyfyrwyr ar yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael ar draws y diwydiant yng Nghymru a ledled y byd.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen Portffolio Rheolaeth Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol PCYDDS: “Llynedd oedd y tro cyntaf i ni gynnal y digwyddiad yn Abertawe a chofrestrodd mwy na 600 o fyfyrwyr i’w fynychu a chefnogodd 30 o gwmnïau’r ffair gyrfaoedd – gan ei wneud y digwyddiad Future You mwyaf erioed. Hefyd, enillodd ddwy wobr genedlaethol am y Digwyddiad Myfyrwyr Gorau yn y Gwobrau Cymdeithas Digwyddiadau Awyr Agored Cenedlaethol ac yng Ngwobrau’r Sefydliad Lletygarwch, Rhaglen Addysgol Orau.

“Unwaith eto, cynhelir y digwyddiad ar gyfer myfyrwyr gan fyfyrwyr, ac maent yn bwriadu iddo fod yn fwy ac yn well hyd yn oed na’r llynedd. Gyda mwy o ffocws ar gyfleoedd gyrfaoedd i fyfyrwyr yng Nghymru ac ar draws y byd yn ogystal â ffair yrfaoedd mwy o ran maint a mwy rhyngweithiol.”

Eleni, mae’r digwyddiad yn cael ei redeg gan Chloe Griffiths, myfyrwyr yn ei blwyddyn olaf, sy’n astudio Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ac mae’n gyfrifol am gynllunio’r ffair yrfaoedd a diwydiant ryngweithiol.

Mae Elinor Haskins, myfyriwr Digwyddiadau a Melissa Duffy, myfyriwr Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, sy’n gynrychiolwyr myfyrwyr rhanbarthol ABTA ac yn cael eu mentora gan Royal Caribbean Cruise Ships yn rhan o’u prosiect diwydiant, yn trefnu a rheoli’r gynhadledd.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau