Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Rikkyo yn Japan wedi ffurfioli eu hymrwymiad i ymdrechion academaidd cydweithredol trwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU).

Gatiau brics agored a llwybr sy’n arwain at Brifysgol Rikkyo gyda’r waliau allanol wedi’u gorchuddio ag eiddew.

Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a ddigwyddodd yn ddiweddar, yn arwydd o ymrwymiad i gryfhau cysylltiadau academaidd a chreu cyfleoedd trawsnewidiol i fyfyrwyr ac adrannau academaidd. Mae’r ddwy brifysgol yn rhannu gweledigaeth o gyfoethogi’r profiad addysgol trwy safbwyntiau byd-eang ac ymgysylltu traws ddiwylliannol.

Mae Prifysgol Rikkyo yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant astudio yn Siapan, gan ymgolli yn niwylliant y wlad ond yn astudio trwy gyfrwng y Saesneg. Bydd myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn cael y cyfle i astudio trwy’r Rhaglen Celfyddydau Rhyddfrydol Byd-eang sy’n annog myfyrwyr i ddilyn eu diddordebau academaidd eu hunain, i ehangu eu gorwelion academaidd, ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddamcaniaethau ac athroniaethau.

Fel rhan o’r cydweithrediad newydd hwn, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar fin anfon ei myfyrwyr cyntaf i Brifysgol Rikkyo ym mis Ionawr 2024. Mae’r rhaglen cyfnewid myfyrwyr hon yn garreg filltir yn y berthynas sy’n cael ei chefnogi gan gyllid Taith ac yn dangos ymroddiad y ddau sefydliad i ddarparu profiadau rhyngwladol trochi i’w myfyrwyr. Mae cefnogaeth hael Taith yn sicrhau y gall myfyrwyr gymryd rhan lawn yn y cyfleoedd cyfnewid academaidd a diwylliannol hyn, gan gyfrannu at eu twf personol ac academaidd.

“Mae gan y bartneriaeth rhwng Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Rikkyo botensial aruthrol ar gyfer cydweithredu mewn rhaglenni amrywiol, wedi’i ysgogi gan ein hethos a’n hymrwymiad cyffredin i ragoriaeth mewn addysg,” meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol yn Academi Fyd-eang Cymru. “Credwn y bydd y cydweithio hwn yn agor llwybrau newydd ar gyfer dysgu, ymchwil, a chyfnewid diwylliannol, a fydd o fudd i fyfyrwyr a staff academaidd ar y ddwy ochr. Disgwylir i’r fenter hon feithrin cysylltiadau parhaol, dyfnhau dealltwriaeth ddiwylliannol, a chyfrannu at ragoriaeth academaidd y ddau sefydliad.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau