Skip page header and navigation

Mae myfyriwr BA Gwneud Ffilmiau Antur o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arddangos ei waith yn ddiweddar yng ngofod Hwb Gwyrdd newydd Parc Dinefwr yn Llandeilo.

Golwg ochr o Josh Knight yn gwgu at y camera wrth i’w ddwylo afael yng nghwfl ei got law werdd tywyll.

Cafodd Josh Knight gyfle i ddangos ei waith yn Ninefwr ar ôl cynhyrchu ffilm yn rhan o’i waith cwrs prifysgol ar gyfer y modwl ‘Ysgogwyr Newid’. Yn y prosiect, roedd rhaid i fyfyrwyr adnabod person, grŵp, neu sefydliad a oedd yn eu barn nhw’n gwneud newid cadarnhaol er gwell.

Wrth i Josh ddechrau’r gwaith paratoi ar gyfer ei ffilm, meddyliodd am Barc Dinefwr fel lleoliad yn syth gan ei fod yn gartref i rai o’r golygfeydd ac adeiladau harddaf yn Sir Gâr. Dewisodd gydweithio â’r tîm yn Ninefwr i drafod sut y maen nhw’n defnyddio’r coed eiconig a’r byd natur o fewn eu tiroedd i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd ac atal ei gynnydd.

Ar ôl ymweld â Dinefwr, cafodd Josh ei ysbrydoli ar unwaith i ffilmio’r bywyd gwyllt a’r natur anhygoel ar y tiroedd. Meddai:

“Y pwnc y dewisais ganolbwyntio arno oedd coeden enwog Derwen y Castell, sydd wedi’i lleoli ar waelod y rhiw sy’n arwain i fyny at y castell. Mae gan y goeden hon bwysigrwydd arwyddocaol i diroedd Dinefwr, mae’n cynnal amrywiaeth o blanhigion a gwyrddni yn ogystal â bod yn llecyn cyfoethog i ddod o hyd i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Mae’r goeden dros wyth can mlwydd oed, sydd o’i hun yn stori wych i’w hadrodd.”

Dechreuodd Josh ei broses gwneud ffilm trwy wylio rhaglenni natur blaenorol ar bynciau tebyg am ysbrydoliaeth. Daeth ei brif ddylanwad o gyfres deledu’r BBC, ‘The Green Planet’. Roedd yn dwli ar y ffordd yr oedd y gyfres yn dal sylw’r gynulleidfa yn y ffyrdd mwyaf ysbrydoledig drwy edrych ar blanhigion y mae pobl yn cerdded heibio iddynt bob dydd.

Ar ôl i Josh ddod i wybod sut i fynd i’r afael â’i brosiect, roedd yn broses ddigon syml.

“Es ati i greu amrywiaeth o waith Cyn-gynhyrchu gan gynnwys sgriptiau AV, adroddiadau rhagchwilio, asesiadau risg a byrddau hwyliau, i sicrhau y byddai’r ffilm yn cael ei greu’n effeithlon ac yn broffesiynol.”

Er gwaethaf y dechrau positif i’r prosiect hwn, wynebodd sawl her ar hyd y ffordd o hyd. Y prif rwystr oedd y tywydd.

“Dim ond nifer benodol o ddyddiau oedd ar gael i mi i ffilmio yn y lleoliad, ac yn anffodus, ar fwyafrif y dyddiau hyn, daeth glaw trwm. Arweiniodd hyn at berygl fod fy offer yn cael ei ddifrodi, bod y bywyd gwyllt yn yr ardal yn cuddio, a bod y lluniau’n edrych ar y cyfan, wel, yn ddiflas. Ond yn hytrach na chwyno am rhy hir, penderfynais ddefnyddio hyn er fy mantais.

“Defnyddiais y tywydd stormus i greu ymdeimlad o naws yn fy ffilm a’i ddefnyddio i amlygu sut y gall y newid yn yr hinsawdd effeithio ar y bywyd gwyllt yn yr ardal, ond hefyd y fantais y mae’r glaw’n ei rhoi i’r amgylchedd cyfagos yn ei gyfanrwydd. Yn y diwedd, daeth y glaw yn rhan fawr o’m ffilm, gan ddangos y gall yr heriau y byddwn ni’n eu hwynebu wrth wneud ffilmiau weithio er mantais i ni yn y pen draw.”

Mae creu’r ffilm hwn wedi datblygu sgiliau Josh mewn sawl ffordd gan ei fod wedi dysgu sut i weithio wrth ochr cleientiaid o’r radd flaenaf, ymdopi â therfynau amser a defnyddio ei sgiliau gwneud ffilm mewn amgylchedd awyr agored newydd ac unigryw.

Mae’r cyfle hwn i Josh ddangos ei waith yn Ninefwr wedi bod yn amhrisiadwy. Ychwanega:

“Mae cael fy ngwaith wedi’i ddangos yn y gofod Hwb Gwyrdd newydd sydd wedi’i leoli ar diroedd Dinefwr yn anrhydedd fawr, roedd hi’n bleser pur gweithio gyda’r tîm yma a chynhyrchu’r ffilm hwn ar eu cyfer nhw.

“Mae’n deimlad gwych ac yn destun balchder gwybod bod aelodau’r cyhoedd yn gwylio fy ngwaith ac yn edmygu’r amser a’r ymdrech a roddir i brosiect, yn enwedig un fel hwn sydd mor bwysig i mi ac i’r gymuned leol.”

Meddai Kathryn Campbell, Swyddog Rhaglennu a Phartneriaethau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion:

“Rydym yn falch iawn o allu arddangos ffilm Josh yn ein hadeilad i ymwelwyr ‘Rydych Chi Yma / You Are Here’ sydd newydd ei ailwampio ar diroedd Ystâd Dinefwr. Bûm yn gweithio gyda charfan o fyfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur yn 2022 ar brosiect i dynnu sylw at bwysigrwydd y coed yn Ninefwr, y mae rhai ohonynt wedi’u dynodi’n rhai hynod a hynafol, i ecosystem y Warchodfa Natur Genedlaethol bwysig hon.

“Roedd ffilm Josh yn arbennig o briodol, ac rydym wrth ein bodd o allu ei gynnwys yn rhan o’n cyflwyniad a chyfarwyddo ag Ystâd Dinefwr i ymwelwyr. Fe wnaethom fwynhau gweithio gyda’r myfyrwyr yn fawr a gallu cynnig cyfle iddynt weithio ar brosiect ‘byw’ a fydd, gobeithio, yn darparu profiad i’w helpu i ymdopi â pherthnasoedd â chleientiaid yn eu bywydau gwaith i’r dyfodol.”

Meddai Dr Brett Aggersberg, Uwch Ddarlithydd Ffilm a Chyfryngau Digidol y Drindod Dewi Sant:

”Mae prosiect Josh yn enghraifft o’r ffordd y mae ein cyrsiau’n darparu profiad yn y byd go iawn ac yn hybu CV a phortffolio myfyrwyr cyn iddynt raddio. Roedd y prosiect hwn yn gyfle i fyfyrwyr ystyried eu hunain yn Ysgogwyr Newid, wrth weithio gydag achos amgylcheddol yn benodol. Roedd y prosiect yn golygu ymchwil gwyddonol a chyfweliadau ag arbenigwyr, cyn troi’r cysyniad yn ffilm y gallai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei ddefnyddio yn eu gofod Hwb Gwyrdd newydd ym Mharc Dinefwr yn Llandeilo.”

Gallwch wylio ffilm Josh ar YouTube: ‘The Old Oak’. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon