Skip page header and navigation

Mynegwch eich ochr artistig gyda’n rhaglenni Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, lle mae gennym enw da hirsefydlog am ragoriaeth. Mae ein hathroniaeth academaidd arloesol yn canolbwyntio ar y gallu i addasu ac mae ein cysylltiadau ardderchog â’r diwydiant yn creu graddedigion mentrus sy’n gallu achub ar y cyfleoedd gyrfaol anhygoel yn y diwydiannau creadigol er mwyn i chi allu dylunio eich dyfodol.

Rydym yn darparu profiad Coleg Celf lle byddwch yn teimlo’n gartrefol iawn, gan ddarparu’r lle a’r cyfleusterau stiwdio sydd eu hangen arnoch i fwrw iddi a mynd i’r afael â’ch dewis faes.

Rydym yn annog ac yn cefnogi’n myfyrwyr i wneud defnydd llawn o’n cyfleusterau helaeth, felly does dim gwahaniaeth pa gwrs rydych chi’n ei ddilyn, gallwch archwilio ein gweithdai ymarfer digidol cyfoes a thraddodiadol wrth i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.

Gydag ystod eang o raddau creadigol ar gael, o Gelf Gain i Ffotograffiaeth a Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, mae ein rhaglenni’n elwa ar amrywiaeth o leoliadau yn y diwydiant, prosiectau byw a darlithwyr gwadd, gyda chwmnïau megis H&M, Jaguar Land Rover, a Rolls Royce, gan eich galluogi i fynd ar y blaen yn eich gyrfa.

Rydyn ni’n 1af yng Nghymru, 3ydd yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau, 1af yng Nghymru, 4ydd yn y DU ar gyfer Cynhyrchu Ffilmiau a Ffotograffiaeth, 1af yng Nghymru , 11eg yn y DU ar gyfer Dylunio Graffig a 1af yng Nghymru ar gyfer Celfyddyd Gain (The Guardian University Guide 2024), sy’n egluro pam yr ydym yn falch o gael graddedigion yn gweithio i  Lego, McLaren, Apple a Rolls Royce. Mae’r cyraeddiadau rhagorol hyn yn brawf o ymrwymiad ein staff i greu profiad eithriadol lle byddwch yn gallu ffynnu yn eich gyrfa, fel nifer o’r myfyrwyr o’ch blaenau sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd disglair yn y celfyddydau a chwmnïau dylunio gwerth miliynau o bunnoedd.

Pam astudio Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn PCYDDS?

01
Daeth PCYDDS yn 1af trwy Gymru am Ffasiwn a Thecstilau (3ydd yn y DU), am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth (4ydd yn y DU), am Ddylunio Graffig (11eg yn y DU) ac am Gelf Gain (The Guardian University Guide 2024)
02
Amrywiaeth o brosiectau byw a chysylltiadau diwydiant, gan eich galluogi i ddatblygu rhwydwaith a fydd yn rhoi dechrau da i’ch gyrfa.
03
Mynediad at ystod drawiadol o gyfleusterau a mannau stiwdio, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich arddull artistig a’ch profiad.
04
Cyn-fyfyrwyr sydd wedi cael llwyddiannau aruthrol ac sy'n gweithio i gwmnïau fel Lego, Rolls Royce, Apple a McLaren.
05
Mae ein darlithwyr yn weithgar yn eu meysydd, sy’n golygu bod cynnwys ein cyrsiau ar flaen y gad.
06
Profiad Coleg Celf ymdrochol lle byddwch yn dod yn rhan annatod o'r gymuned.

Spotlights

Arddangosfa o waith celf myfyrwyr

Cyfleusterau

Mae ein rhaglenni’n cynnig mynediad i chi i ystod eang o weithdai ymarfer cyfoes a thraddodiadol. Felly, p’un a fyddwch yn dewis gweithio gyda phrosesau traddodiadol neu dechnolegau mwy newydd, neu ar draws y ddau, mae gennym yr ateb yma i chi. Darperir lleoedd stiwdio, neu ddewisiadau amgen, ar ein holl raglenni.

Dyn ifanc yn plygu dros fwrdd, a’i lygaid wedi'u hoelio ar fesurydd uchder metel; y wal y tu ôl iddo yn dangos cynlluniau ar gyfer siasi car chwaraeon.

Coleg Celf Abertawe

Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.

Testimonial

“Mae popeth sy’n cael ei addysgu ar y cwrs israddedig yn gosod y sylfaen ar gyfer y diwydiant. Rydych chi’n dysgu sgiliau y byddwch yn eu defnyddio hyd weddill eich gyrfa.”

Charlotte Field, Dylunio Patrwm Arwyneb