Skip page header and navigation

Troi cysyniadau dylunio yn realiti. Mae ein rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn cynnig profiad galwedigaethol i chi ar draws meysydd sy’n amrywio o Syrfewyr Adeiladu a Meintiau i Reoli Adeiladu, a Phensaernïaeth.

Mae nifer o’n rhaglenni wedi’u hachredu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a’r Comisiwn dros Bensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig*, ac mae ein rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ystod eang o sgiliau wrth ddatblygu’r wybodaeth ddyfnach y mae cyflogwyr yn y diwydiant yn ei dymuno.  

Mae ein rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn ymdrin â sgiliau dylunio craidd wedi’u cyfuno â gwybodaeth am ddeunydd a gwybodaeth strwythurol a chânt eu datblygu gyda hyfforddiant ymarferol gan roi ymagwedd gyfannol i’n graddedigion a dealltwriaeth o’r byd deinamig rydym yn gweithredu ynddo.

Rydym yn annog cymryd rhan mewn prosiectau byw i sicrhau eich bod yn rhoi theori ar waith mewn sefyllfaoedd byd go iawn a hynny drwy brosiectau cydweithredol. Cewch brofiad go iawn wrth i chi gydweithio â rhaglenni ar draws y sefydliad er mwyn treiddio’n ddyfnach i bob maes sy’n ymwneud â Pheirianneg Sifil a Phensaernïaeth gan gynnwys yr effeithiau amgylcheddol.   

Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i roi sylfaen gref i chi yn hanfodion Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth a’r sgiliau technegol sydd eu hangen i ddod â’r gweledigaethau hynny’n fyw.

*Gweler tudalennau’r rhaglenni am fanylion ac eithriadau.

Pam astudio Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn PCYDDS?

01
Astudiwch raglen sydd wedi’i llywio a’i llunio gan ymchwil ac mewn cydweithrediad â chyflogwyr y diwydiant.
02
Dewch o hyd i'ch lle chi mewn dosbarthiadau bach sy’n rhoi'r profiad prifysgol cefnogol yr ydych yn chwilio amdano.
03
Addysgu rhyngddisgyblaethol ac asesiadau ymarferol, sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyflogaeth hyblyg.

Spotlights

Myfyriwr yn defnyddio penset VR

Cyfleusterau

Mae mannau stiwdio penodedig ar gael yn ein Hardal Arloesi bwrpasol yng nghanol cymuned llawn addewid SA1 Abertawe. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i weithfannau pwrpasol â chyfrifiaduron personol o fewn y stiwdio gyda phecynnau meddalwedd fel AutoCAD, Revit, Sketchup a’r casgliad llawn o raglenni Adobe CCS gyda phlotyddion A1 cysylltiedig.    

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.