Skip page header and navigation

Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros yr amgylchedd, dyma’r adeg i feithrin sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yn y maes. Mae lefelau cyflogaeth yn uchel ac mae cyfleoedd i gael gyrfaoedd hir.

Cewch ddatblygu’r sgiliau a gwybodaeth i’ch galluogi i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac i fanteisio ar gyfleoedd. Dysgwch a defnyddiwch y wyddoniaeth.

Ar y rhaglenni hyn, byddwch yn gwneud astudiaethau ymarferol ar dripiau maes, lle cewch ddefnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Mae’r cyfleoedd i wneud gwaith ymchwil ymarferol yn cynnwys mynediad at dir hen fwynglawdd yn y Farteg, sy’n ‘labordy agored’ ar gyfer astudio ailsefydliad bioamrywiaeth ar domenni glo, Prosiect Adfer Mawndiroedd Castell-nedd Port Talbot, a phrosiect plannu a monitro coed Bannau Brycheiniog.

Gyda ffocws ar reolaeth, cadwraeth a pheirianneg amgylcheddol, bydd ein cwrs yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i chi sy’n berthnasol i wahanol ddiwydiannau. Byddwch yn datblygu galluoedd datrys problemau ac yn annog newid ymddygiad cynaliadwy. Cewch brofiad gwerthfawr drwy wirfoddoli ac ymgysylltu â phrosiectau.

Bydd ein tîm addysgu ymroddedig, ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr, a’n cydweithrediadau â’r diwydiant yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth rhagorol. Mae ein graddedigion wedi cael swyddi gydag awdurdodau lleol, ym meysydd cynllunio ecolegol, rheoli gwastraff, a mwy. Mae’r pwyslais rydym ni’n ei roi ar gymhwyso theori yn ein harfer yn eich paratoi ar gyfer swydd rheolwr o fewn y maes amgylcheddol.

Dyma bwnc enfawr sy’n cwmpasu llawer o’n pryderon mawrion, megis dod o hyd i ynni, costau byw, tyfu bwyd a gwastraff plastig, i enwi ond rhai. O ganlyniad, mae ein graddedigion wedi mynd i weithio mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Gallech ddewis canolbwyntio ar faterion daearyddol, fel erydu arfordirol er enghraifft, neu fynd i ystyried gwastraff a ffasiwn moesegol. Efallai y byddwch yn dewis gweithio ym maes polisi a llywodraethu economaidd.

Dyma’r adeg i feithrin sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd ym maes yr amgylchedd. Sbardunwch y newidiadau y mae ein planed eu hangen, a dechreuwch ar yrfa werth chweil mewn gwaith amgylcheddol. Ymunwch â ni, a chael effaith hirhoedlog ar ein byd.

Pam astudio Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd yn PCYDDS?

01
Dysgu ymarferol: Mae ein cyrsiau'n cynnwys gwaith maes, gwaith labordy, a phrosiectau ymarferol, gan ganiatáu i chi ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i faterion amgylcheddol y byd go iawn.
02
Dysgu ymarferol: Mae ein cyrsiau'n cynnwys gwaith maes, gwaith labordy, a phrosiectau ymarferol, gan ganiatáu i chi ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i faterion amgylcheddol y byd go iawn.
03
Darlithwyr arbenigol: Mae ein staff profiadol a gwybodus yn angerddol am yr amgylchedd, a byddan nhw’n ymroi i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y byddwch eu hangen i lwyddo.
04
Cyfleoedd gwaith ymchwil: Mae ein hadran amgylchedd yn cymryd rhan weithredol mewn prosiectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar faterion amgylcheddol pwysig. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gwaith ymchwil arloesol ac i ennill profiad gwerthfaw
05
Cysylltiadau ardderchog: Mae ein cysylltiadau cryf â phartneriaid yn y diwydiant, ag asiantaethau'r llywodraeth, ac â sefydliadau dielw yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i chi.
06
Campws cynaliadwy: Mae PCYDDS wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ac mae wedi gweithredu amrywiaeth o fentrau er mwyn lleihau ei heffaith amgylcheddol.

Spotlights

Tri gyda bagiau ar eu cefnau'n trafod

Cyfleusterau

Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnwys labordai amgylcheddol ac adnoddau ar gyfer gwaith maes, bydd gennych fynediad i brofiadau dysgu ymarferol. Mae ein hamgylchoedd hardd, o benrhyn eithriadol Gŵyr i’r Bannau Brycheiniog syfrdanol, yn cynnig y gefnlen berffaith ar gyfer dysgu ac archwilio. 

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.