Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (CertHE)
Cwrs blwyddyn yw’r rhaglen Tyst AU mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i weithio ym myd chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.
Bydd gweithgareddau’r sesiynau a addysgir yn caniatáu i ddysgwyr drafod sut mae cymhwyso theori i arfer, a hynny mewn amrywiaeth o gyd-destunau sy’n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer corff. Bydd y pynciau hyn a sut y cânt eu defnyddio mewn sefyllfaoedd ymarferol yn cael eu hymchwilio ymhellach drwy astudiaethau achos ac adnoddau ar-lein.
Bydd dysgu a deall yn digwydd trwy wneud gweithgareddau sy’n rhoi pwyslais ar ymgysylltu ag adnoddau sy’n seiliedig ar waith ymchwil, ac ar gynnal deialog gyda chyd-fyfyrwyr ac â thiwtoriaid.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Blwyddyn Un
Nod y flwyddyn astudio gyntaf yw sefydlu sylfaen mewn ymarfer corff yn gysylltiedig ag iechyd, ynghyd â chyfle i ennill profiad a chymwysterau galwedigaethol gwerthfawr.
Yn ogystal â dysgu am theori anatomeg, ffisioleg, seicoleg a maetheg, gall myfyrwyr gyflawni dyfarniadau Hyfforddwr Campfa lefel 2 a Hyfforddwr Personol lefel 3. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddechrau cael gwaith rhan-amser o fewn y sector chwaraeon a ffitrwydd ochr yn ochr â’u hastudiaethau, yn ogystal â lleoliadau gwaith ymarferol.
Fel arfer mae darlithoedd yn cynnwys cyfuniad o theori ynghyd â sesiynau ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff a’n cyfleusterau hyfforddi, sydd â set dda o gyfarpar. Mae hyn yn sicrhau y caiff sgiliau ymarferol eu datblygu ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol.
Hefyd datblygir sgiliau academaidd a digidol er mwyn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal ymchwil ac i weithio mewn byd digidol sy’n newid yn barhaus.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS (Tariff 2017) gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.
-
Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.
-
Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.
Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.
£30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:
- Ymchwil academaidd
- Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
- Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
- Hyfforddwr personol
- Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
- Hyfforddwr cryfder a chyflyru
- Addysgu
- Chwaraeon ieuenctid