Ar yr adeg hon yn hanes dyn, mae llawer o academyddion, ymgyrchwyr, arweinwyr a meddylwyr yn galw am ailystyried y naratifau diwylliannol a’r gwerthoedd ysbrydol sy’n cynnal ein bodolaeth ar y blaned ar frys.
Mewn ymgais i ddargyfeirio’r trywydd presennol o ‘gynnydd’ a ‘datblygiad’ tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a theg, mae hyn yn gofyn am ystyriaeth wrthrychol a beirniadol o’n perthynas a’n cysylltiad â’r byd naturiol, â’r bobl a’r cymunedau o’n cwmpas ac â’r union gredoau a gwerthoedd sy’n llywio ein gweithredoedd unigol a chyfunol.
Mae’r rhaglen hon mewn Ecoleg ac Ysbrydolrwydd yn archwilio’r berthynas rhwng ysbrydolrwydd, crefydd, athroniaeth ar y naill law, ac ecoleg ar y llaw arall. Gallwn ofyn ai ysbrydolrwydd a chrefydd sy’n achosi’r argyfyngau ecolegol presennol, neu gallwn gynnig datrysiadau i’r argyfyngau ecolegol systemig sydd ohoni.
Rydym yn archwilio’r defnydd ysbrydol o ecoleg — ac yn gofyn a oes dimensiwn ysbrydol iddi. Fel rhaglen o astudiaethau ôl-raddedig, gan ddibynnu ar y modiwlau yr ydych chi’n eu dewis, mae’r cwrs hwn yn cynnig taith bersonol drwy brofiad — cyfle i chi archwilio eich ysbryd mewnol eich hun yn fanwl a sut mae’n berthnasol i’ch gweithredoedd yn y byd allanol.
Byddwch yn cyfuno meddwl beirniadol a chywirdeb academaidd gydag archwiliad o’ch gwerthoedd, eich credoau a’ch naratifau personol eich hun a sut mae’r rhain yn cyd-fynd ac yn canfod ymdeimlad o le a dilysrwydd yn eich bywyd a’ch gwaith.
Dyma gyfle i chi ystyried eich perthynas gyda’n planed — ac wrth wneud hynny archwilio’r datrysiadau ar y cyd a phersonol i fyw mewn byd mwy cynaliadwy, gwydn, cysylltiedig, hardd a chytûn.
Un nodwedd unigryw o’r rhaglen hon yw ei bod yn ymestyn y cysyniad o’r amgylchedd i amgylchedd cosmig ehangach, gan gynnig y cyfle i astudio modiwlau sy’n ein cysylltu â’r awyr, y planedau a’r sêr.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Fel myfyriwr ar y cwrs Ecoleg ac Ysbrydolrwydd (MA), byddwch yn:
- Astudio ar gyfer gradd Meistr achrededig a gydnabyddir yn rhyngwladol.
- Rhan o un o brifysgolion mwyaf anrhydeddus y DU.
- Cael y cyfle i weithio gartref heb yr angen i ymweld â’r DU.
- Cael mynediad at filoedd o bapurau academaidd a llyfrau ar-lein.
- Rhan o gymuned ryngwladol o fyfyrwyr o’r un anian.
- Astudio gyda thiwtoriaid arbenigol sydd i gyd yn meddu ar PhD yn y maes pwnc, neu sy’n gweithio tuag ato.
- Cymryd rhan mewn dadleuon ynghylch byd natur a rôl ddiwylliannol ecoleg ac ysbrydolrwydd.
- Dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol: Athroniaeth Amgylcheddol, Crefydd a’r Amgylchedd, Daearyddiaeth Sanctaidd, Awyrluniau, Cosmoleg ac Archeoleg, Crefydd Serol, Disgwrs Nefol, Yr Awyr a’r Seice, a Cosmoleg, Hud and Dewiniaeth.
- Mynd i’r afael â chysyniadau fel gofod cysegredig.
- Meithrin data cyfoes a fydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ysgolheigaidd o’n safle ni ar ein planed.
- Cael cyfle i fynd ar drywydd eich ymchwil annibynnol eich hun o dan oruchwyliaeth arbenigol.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Dylid anfon ymholiadau cychwynnol at Gyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Nicholas Campion (n.campion@pcydds.ac.uk). Rhowch wybod i ni am eich cefndir, gan gynnwys unrhyw gymwysterau academaidd.
Fel arfer mae angen gradd gyntaf dda (2:1 neu gyfwerth i raddau’r DU) mewn maes priodol yn y celfyddydau/y dyniaethau/gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys Hanes, Astudiaethau Diwylliannol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Athroniaeth, Anthropoleg, Diwinyddiaeth a/neu Astudiaethau Crefyddol.
Fodd bynnag, gan fod ymchwil i Ecoleg ac Ysbrydolrwydd o reidrwydd yn rhyngddisgyblaethol, rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd eraill, yn enwedig y gwyddorau, ar yr amod eich bod yn gallu dangos bod gennych y sgiliau ysgrifennu angenrheidiol. Yn yr achos hwn, byddai bod ag adnabyddiaeth gyffredinol ynglŷn ag athroniaeth a/neu ddamcaniaeth feirniadol yn fanteisiol, er nad yw’n hanfodol. Dylech gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen a all ofyn am gael gweld sampl o’ch gwaith ysgrifenedig.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd 2:2 (system raddio’r DU) fel arfer yn cael eu hystyried ar gyfer cwrs Diploma Ôl-raddedig a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer symud ymlaen i’r MA ar ôl cwblhau’r chwe modiwl a addysgir yn llwyddiannus. Fodd bynnag, bydd unrhyw gymwysterau neu brofiad proffesiynol perthnasol yn cael eu hystyried, felly cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.
Fel rhan o ddull cynhwysol o ddysgu rydym yn annog ceisiadau o bwyntiau mynediad anhraddodiadol neu gan rai heb gefndir addysgol cydnabyddedig ond sydd â chymwysterau proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol perthnasol sylweddol. Mewn achos fel hyn, gall Cyfarwyddwr y Rhaglen ofyn am sgwrs dros y ffôn / Skype neu ofyn am sampl o waith ysgrifenedig er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni ei botensial ar y cwrs.
Dylai myfyrwyr sydd â gradd o brifysgolion y tu allan i’r DU, nad ydynt yn defnyddio system raddio’r DU, gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen.
-
Traethodau yw’r prif ddull asesu yn Rhan I (dau i bob modiwl). Caiff modiwl Rhan II ei asesu drwy draethawd hir 15,000 o eiriau.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
TBC