Skip page header and navigation

Ester Borin Bonillo BA (Anrh), TAR, MA, MPhil

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd Cysylltiol yn y Sbaeneg

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Ffôn: 01267 655377

Rôl yn y Brifysgol

  • Gweithio ar draws rhaglenni yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym maes y Sbaeneg 

Cefndir

Enillodd Ester Borin Bonillo radd BA Hanes (Anrh) ac MAs mewn Hanes Cyfoes o Brifysgol Girona (Catalonia - Sbaen). Yn ogystal, cyflawnodd MPhil mewn Addysgu Sbaeneg a Chatalaneg fel Ail Iaith / Ieithoedd a Symudiadau Poblogaeth o Brifysgol Girona (Catalonia – Sbaen). Pwnc Traethawd Ymchwil MPhil Ester oedd y dull didactig o addysgu pragmateg a goslef yn nosbarthiadau Catalaneg a/neu Sbaeneg fel Ail Ieithoedd.

Mae gan Ester fwy nag ugain mlynedd o brofiad addysgu, a bu’n addysgu Catalaneg a Sbaeneg fel ieithoedd tramor ers 2004.
Ar hyn o bryd, mae hi’n addysgu Sbaeneg ar lefel israddedig ac ar y rhaglen Ieithoedd i Bawb ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn ymuno ag Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, bu’n addysgu Sbaeneg ledled De Cymru mewn ysgolion gwahanol.

Aelod O

  • Aelod o Gymdeithas ELE-UK
  • Aelod o CBAC

Diddordebau Academaidd

Cyn cyrraedd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, cafodd Ester yrfa helaeth ym maes Addysg Ysgol Uwchradd yn Athro Sbaeneg, yn Athro Sbaeneg a Chatalaneg yn y sector preifat, yn ogystal â’r maes Addysg Uwch yn Athro Sbaeneg.

Meysydd Ymchwil

  • Mae Ester yn athro Sbaeneg a Chatalaneg. Mae ei diddordebau ymchwil presennol mewn sut y gall defnyddio technolegau a gemeiddio mewn gwersi iaith wella perfformiad a chaffael iaith myfyrwyr. 
  • Prosiect diweddar Ester yw’r Prosiect Pontio; sut mae myfyrwyr yn symud o Addysg Uwchradd i Addysg Uwch er mwyn gwella profiadau a chaffael iaith myfyrwyr.
  • Mae Ester yn rhan o’r Grŵp Diddordeb Arbennig “ELE-UK Decolonising”. Mae Ester yn athro Sbaeneg a Chatalaneg. Mae ei diddordebau ymchwil presennol mewn sut y gall defnyddio technolegau a gemeiddio mewn gwersi iaith wella perfformiad a chaffael iaith myfyrwyr. 
  • Prosiect diweddar Ester yw’r Prosiect Pontio; sut mae myfyrwyr yn symud o Addysg Uwchradd i Addysg Uwch er mwyn gwella profiadau a chaffael iaith myfyrwyr.
  • Mae Ester yn rhan o’r Grŵp Diddordeb Arbennig “ELE-UK Decolonising”. 

Arbenigedd

  • Sbaeneg a Chatalaneg
  • Ynganu Sbaeneg a Chatalaneg
  • Goslef Sbaeneg a Goslef iaith
  • Defnyddio technolegau mewn gwersi iaith
  • TGAU a Safon Uwch Sbaeneg
  • Arholiadau Instituto Cervantes swyddogol (DELE)

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

  • Hyfforddwr Sbaeneg ar gyfer y gyfres 1 “Diwydiant” (BBC)
  • Ymgynghorydd cyfieithu ar gyfer rhaglen ddogfen “Y Byd Ar Bedwar” (ITV/S4C)

Cyhoeddiadau

  • Catalan Sentence Builders - A Lexicogrammar approach: Beginner to Pre-intermediate (The Language Gym - Sentence Builder Books) gan Dr. Grianfranco Conti, Dylan Viñales, Ester Borin a Dr. Jaume Llorens, Language Gym-Sentence Builders, Tachwedd 2022.
  • El desorden que dejas: the use of geolocations as a learning tool in the Spanish as a Foreign Language Classroom., (Ester Borin ac Ana Carrasco), yng nghynhadledd ELE-UK, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Warwick, Mehefin 2022.
  • Bringing non-dominant voices and alternative discourses to language classes through the use of films: Adú and Roma in the Spanish classroom (Ester Borin a Beatriz Rubio), VIII LanGW4 Colloquium on Innovation in Modern Languages Education, Prifysgol Bryste, Mehefin 2022
  • The use of Teams to create a digital independent portfolio as the assessment for the Year Abroad. (Ester Borin a Beatriz Rubio) ELE-UK, cynhaliwyd ym Mhrifysgol Caeredin, Mehefin 2021.
  • Use of interactive PowerPoint in synchronous and asynchronous at language lessons. (Ester Borin) ALL-Llundain, Chwefror 2021.
  • How to increase speaking confident in our MFL A-Level students with Mentimeter and Breakout Rooms. MFL&TM-ICONS, Ionawr 2021
  • How to still engage our students through screens” 10/09/2020, ALL-Llundain.
  • How to not be lost and still engage our students during lockdowns. Consortiwm Addysg Canolbarth y De, De Cymru, Rhagfyr 2020.
  • The provision of meaningful and comprehensive feedback with Digital Self Marking tools on Grammatical Exercises. (Ester Borin a Beatriz Rubio) VI LanGW4 Colloquium on Innovation in Modern Languages Education, Prifysgol Caerwysg. Mehefin 2019.
  • Elementary, my dear Mr. Watson: when Sherlock, Wallander, Colombo and Carvalho meet at our language lessons to solve grammar, cynhadledd AULC, King’s College. Ionawr 2019.
  • When the student goes out the classroom and Xerte goes through its window, Cynhadledd Dysgu ac Addysgu CEI 2017 ym Mhrifysgol Caerdydd. Gorffennaf 2017.
  • Una aproximació didàctica de l’ensenyament de la pragmàtica i l’entonació a les aules de CLE i ELE (Dull didactig o addysgu pragmateg a goslef yn nosbarthiadau CLE ac ELE), Traethawd Ymchwil MPhil, Prifysgol Girona, 2012.

Gwybodaeth bellach

  • Arholwr DELE, lefelau A1-C2, Instituto Cervantes.
  • Cronfa Arloesi Addysg Prifysgol Caerdydd: Galwad 4 (2018-19)