Image and intro
Rôl yn y Brifysgol
Darlithio ar ystod o fodylau damcaniaethol ac ymarferol wedi’u seilio’n bennaf ar addysgeg ac arfer awyr agored. Darparu hyfforddiant a chyrsiau asesu Dyfarniad Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Pennaeth beicio mynydd. Arwain cyrchoedd tramor myfyrwyr. Swyddog arholiadau ac asesiadau yr Ysgol. Cyflwyno a datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Awyr Agored.
Cefndir
Astudiodd Astudiaethau Chwaraeon a Symudiad Dynol ar lefel gradd, gan arbenigo mewn ffisioleg ymarfer corff a mesur a gwerthuso ffitrwydd corfforol. Gweithiodd yn y diwydiant ffitrwydd yng Nghaerdydd a Llundain fel hyfforddwr ffitrwydd, hyfforddwr personol, rheolwr gwerthiannau ac yna rheolwr canolfan. Ar ôl cwblhau TAR mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol wrth weithio ym Mhrifysgol Casnewydd, symudodd i rôl fel Darlithydd Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngholeg Gwent ym Mrynbuga. Ochr yn ochr â Dyfarniadau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol mewn beicio mynydd, cwnŵio, caiacio, arweinyddiaeth mynydd a dringo, cafodd statws tiwtor i gyflwyno dyfarniadau mewn canŵio/caiacio a beicio mynydd.
Symudodd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Medi 2010 fel cymrawd addysg cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Awyr Agored, rôl a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cafodd gontract parhaol fel Darlithydd Addysg Awyr Agored yn 2013.
Diddordebau Academaidd
Mae ei brif ddiddordebau o gwmpas addysgeg ac arfer gweithgareddau awyr agored ac anturus, ynghyd â gofynion ffisiolegol a ffitrwydd y cyfryw weithgareddau.
Modylau a addysgir:
- Gwneud Diogelwch yn Bersonol
- Gweithgareddau Anturus
- Lleoliadau Gwaith
- Dulliau Ymchwilio
- Datblygiad ac Arfer Proffesiynol
- Hwyluso Dysgu Awyr Agored
- Hyfforddi Addysgeg
- Antur: Risg sy’n Werth ei Gymryd
- O dan y Mynydd Iâ
Meysydd Ymchwil
Prif ddiddordeb ymchwil o gwmpas beth sy’n cymell pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff gwyrdd, a’r rôl y gall hyn chwarae wrth ddatblygu ymdeimlad o gyswllt â natur.
Arbenigedd
Arbenigwr technegol mewn Beicio Mynydd a thiwtor ar y cynllun Gwobr Arweinydd Beicio Mynydd, gan gyflwyno cyrsiau hyfforddi ac asesu Arweinydd Beicio Llwybr yn Ne Cymru. Tiwtor Undeb Canŵio Prydain ar gyfer cyflwyno dyfarniadau hyfforddwr chwaraeon padlo lefel 1 a 2 UKCC.