Skip page header and navigation

Ken Dicks BA, TAR, MA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Rheolwr Rhaglen (Eiriolaeth a Chymdeithaseg)

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


Ffôn: 01267 676800
E-bost: ken.dicks@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheoli’r rhaglenni BA mewn Eiriolaeth a Chymdeithaseg
  • Darlithio
  • Marchnata a Recriwtio
  • Tiwtor Derbyn
  • Tiwtor Bugeiliol

Cefndir

Cyn ymuno â’r gwasanaeth gwella ysgolion, bu Ken yn gweithio ym maes addysg bellach, gwaith ieuenctid ac ar gyfer Gyrfa Cymru. Yn athro ym maes addysg bellach, bu’n ymwneud â chyflwyno’r Sgiliau Allweddol canlynol: Cyfathrebu, Gweithio gydag Eraill, Datrys Problemau a Gwella’ch Dysgu a’ch Perfformiad eich Hun, ymhlith meysydd cyfrifoldeb eraill. Yn ystod ei amser gyda’r gwasanaeth ieuenctid, enillodd Ken wybodaeth ymarferol dda o addysg anffurfiol wrth weithio fel arweinydd clwb ieuenctid a gweithiwr ieuenctid allgymorth.

Tra oedd gyda Gyrfa Cymru, bu Ken yn gweithio yn arweinydd tîm Porth Ieuenctid, yn cefnogi tîm o gynghorwyr a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc mewn perygl o ymddieithrio rhag addysg neu a oedd yn gyflogedig. Yn Swyddog Datblygu 14-19, roedd yn rhan o nifer o ddatblygiadau’r agenda Llwybrau Dysgu yng Nghymru, gan gynnwys datblygiad y Craidd Dysgu a chreu’r cymhwyster Anogwr Dysgu. Symudodd Ken ymlaen i rôl Rheolwr Hyfforddi a Datblygu, gan fod yn gyfrifol am DPP mwy na 130 o staff, ac yn Gynghorydd Gwella Ansawdd, lle bu, fel rhan o’r rôl hon, yn cyfrannu at raglen sicrhau ansawdd y cwmni.   

Ymunodd Ken â’r Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion (ESIS) yn Gynghorydd Cysylltiol 14-19 a bu’n cefnogi Rhwydweithiau 14-19 Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf gyda’u gwaith. Roedd hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno DPP ar gyfer Anogwyr Dysgu a staff cymorth eraill, gweithdai ar gyfer ysgolion a oedd yn mabwysiadu’r cymhwyster CBC, a chynorthwyo ysgolion a Rhwydweithiau i sicrhau eu bod yn bodloni’r Mesur Dysgu a Sgiliau. Bu Ken hefyd yn cefnogi dwy Rwydwaith yn Hyrwyddwr Ansawdd ac yn y rôl hon, helpodd ddatblygu Fframwaith Sicrhau Ansawdd Rhwydweithiau. Mae hefyd wedi cefnogi Rhwydweithiau ac asiantaethau awdurdodau lleol eraill i baratoi eu hadroddiadau hunanasesu. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, cychwynnodd Ken ei waith ar gyfer Buddsoddwyr mewn Teuluoedd yn asesydd, ac mae bellach wedi asesu mwy na 100 o ysgolion ar gyfer y dyfarniad.

Wedyn, ymunodd Ken â’r Consortiwm Canolbarth y De a oedd newydd ei greu, gan ddod yn rhan o’r tîm LiNKS a chefnogi ysgolion i fynd i’r afael â thrydedd flaenoriaeth genedlaethol y Gweinidog, sef lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â chefnogi ysgolion yn y Craidd Dysgu ac agweddau cymorth dysgu ar y Llwybrau Dysgu 14-19. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Ken yn helpu i ddatblygu adnodd archwilio er mwyn cynorthwyo ysgolion i werthuso eu defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion. Aeth hefyd ar secondiad i Lywodraeth Cymru yn rhan o dîm a fu’n ysgrifennu canllawiau ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd i ysgolion. 

Yn Uwch Gymrawd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd yng Nghanolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg, roedd Ken yn gyfrifol am gydlynu’r dyfarniad Buddsoddwyr mewn Teuluoedd yng Nghymru ac am weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i greu a dynodi modelau arfer effeithiol.

Ym mhob un o’r rolau hyn, mae wedi bod yn ymroddedig i fynd i’r afael ag effaith anghydraddoldeb ar unigolion a chymunedau.

Diddordebau Academaidd

Mae ei arbenigedd yn cynnwys Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, Gwaith Aml-Asiantaeth a Chyflogadwyedd.

Arbenigedd

Aeth Ken ar secondiad i Lywodraeth Cymru i gyd-ysgrifennu canllawiau ar gyfer ysgolion ar ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Mae Ken wrthi’n gweithio ar ddatblygu deunydd addysgu i gefnogi darpariaeth cymdeithaseg mewn ysgolion ar hyn o bryd.