Pensaernïaeth (Rhan amser) (BSc Anrh)
Mae penseiri’n arbenigwyr mewn dylunio adeiladau a lleoedd, gan greu’r lleoliad ar gyfer bywyd dynol. Eu sgil pennaf yw troi cysyniadau’n realiti. Maent yn gweithio gyda pheirianwyr, contractwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill i greu amgylcheddau cynaliadwy, dychmygus. Mae’r cwrs hwn yn ymgorffori ymagwedd newydd at addysg bensaernïol sydd wedi’i gwreiddio yn yr ardal leol ond sydd â phersbectif byd-eang.
Y cwrs yw’r cam cyntaf (rhan un) yn y broses tri cham i gymhwyso’n broffesiynol yn bensaer. Caiff ei ddilysu gan y Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’i ragbenodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Mae’r addysgu yn cynnal cydbwysedd rhwng agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar hyfforddiant pensaernïol. Mae pensaernïaeth yn ymwneud â bodloni anghenion pobl mewn ffyrdd sy’n parchu eu diwylliant ynghyd â datblygiadau technoleg a dylunio cyfoes.
Yn y stiwdio, rydym yn addysgu ystod eang o sgiliau: darlunio â llaw, arolygu, CAD a gwneud modelau. Rydym hefyd yn defnyddio staff rhan amser arbenigol i ddatblygu sgiliau penodol, fel CAD a chyfansoddiad graffig. Cewch eich annog i archwilio a datblygu dyluniad, yn gyntaf trwy weithio mewn grwpiau bach ac yn ail trwy ddatblygu eich dull unigol eich hun o ddylunio
Y cwrs yw’r cam cyntaf (Rhan Un) proses tri cham cymhwyso’n broffesiynol yn bensaer. Caiff y cwrs ei ragnodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) ac mae’r Brifysgol yn ceisio cydnabyddiaeth i’r cwrs gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs wedi’i anelu at y rheiny sy’n gobeithio dod yn bensaer cymwys, ond y mae hefyd yn ddewis da ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth a dylunio ac sy’n chwilio am raglen radd â sylfaen eang sy’n gallu arwain at ystod eang o gyfleoedd gwaith.
Mae’r rhaglen astudio’n canolbwyntio ar gyfres o brosiectau stiwdio dylunio sy’n dechrau yn yr wythnosau cyntaf drwy archwilio lle, ffurf, lliw a defnyddiau. Erbyn diwedd y blynyddoedd cynnar, mae myfyrwyr yn dylunio adeiladau a lleoedd bach ond cymhleth yn fanwl. Mae’r ail flwyddyn yn ffocysu ar syniadau o gartref a chymuned trwy ddylunio tai, fflatiau a chymunedau a’r adeiladau cyhoeddus sy’n cefnogi bywyd cymdeithasol.
Mae’r flwyddyn olaf yn cyflwyno’r myfyrwyr i adeiladau ar raddfa fwy a daw’r cwrs i’w anterth mewn dyluniad cynhwysfawr ar gyfer adeilad diwylliannol sylweddol mewn lleoliad go iawn.
Caiff y stiwdios dylunio craidd eu cefnogi gan gasgliad o fodylau cyd-destunol sy’n rhoi i fyfyrwyr gorff cynhwysfawr o wybodaeth berthnasol mewn tri maes: amgylchedd a thechnoleg (strwythurau, adeiladu a ffiseg adeiladu), hanes a damcaniaeth (trosolwg o hanes pensaernïol ac ysgrifennu damcaniaethol o feysydd cysylltiedig) a proffesiwn a busnes (cyfraith adeiladu sylfaenol, rheoli costau caffael adeiladau a rheolaeth busnes).
Yn y flwyddyn olaf, bydd pob myfyriwr yn ysgrifennu traethawd hir — astudiaeth ymchwil annibynnol — ar bwnc o’u dewis o fewn maes eang iawn pensaernïaeth.
Y cwrs yw’r cam cyntaf (Rhan Un) yn y broses dair cam i gymhwyso’n broffesiynol yn bensaer. Mae’r cwrs wedi’i ragnodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a’i achredu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd angen 128 o bwyntiau Tariff UCAS o lefelau A neu eu cyfwerth.
-
Caiff gwaith prosiect dylunio ei asesu ar sail portffolio o waith sy’n cynnwys cyfres o aseiniadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn.
Bydd y portffolio yn cynnwys darluniau, ffotograffau o fodelau ac adroddiadau ysgrifenedig â darluniau. Rhoddir adborth ar gynnydd myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn – fel arfer ar ffurf sylwadau llafar gan dîm o diwtoriaid wedi’i seilio ar gyflwyniadau myfyrwyr a’i asesu drwy adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Gwneir asesiad ffurfiannol ar ddiwedd pob prosiect – fel arfer ar ffurf marc dros dro, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymateb i adborth cyn cyflwyno’r portffolio pan gwneir yr asesiad terfynol (neu ‘grynodol’).
Bydd asesiadau gwaith yn y modylau cyd-destunol ar ffurf ymarferion ymarferol yn ystod y flwyddyn, adroddiadau a thraethodau ac asesiadau dan gyfyngid amser ar ffurf profion ac arholiadau ffurfiol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunydd ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol a gyflawnir.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gael ei rhagnodi/dilysu gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) yn rhan o gymhwyster Rhan Un mewn pensaernïaeth felly’r cyrchfan cyntaf mwyaf tebygol i raddedigion yw gwaith fel cynorthwyydd pensaernïol* mewn practis pensaernïol.
Mae yna lawer o gyfleoedd gwaith posibl eraill gan gynnwys rhannau eraill o’r diwydiant adeiladu (contractwyr adeiladu ac is-adeiladwyr), y diwydiannau creadigol (cymhwyso darlunio cyfrifiadurol a sgiliau delweddu) a chynllunio neu ddylunio trefol.
Sgiliau graddedig a ddatblygir gan y rhaglen (wedi’i seilio ar y ‘rhinweddau graddedigion’ a amlinellir yn meini prawf RIBA/ARB ar gyfer dilysu/rhagnodi cymwysterau mewn pensaernïaeth a datganiad meincnod QAA ar gyfer pensaernïaeth.)
- Y gallu i gynhyrchu cynigion dylunio gan ddefnyddio dealltwriaeth o gorff o wybodaeth, peth ohono ar ffiniau presennol arfer proffesiynol a disgyblaeth academaidd pensaernïaeth;
- Y gallu i gymhwyso ystod o ddulliau cyfathrebu a chyfryngau i gyflwyno cynigion dylunio presennol yn glir ac yn effeithiol;
- Dealltwriaeth o’r defnyddiau, prosesau a thechnegau amgen sy’n berthnasol i ddylunio pensaernïol ac adeiladu adeiladau;
- Y gallu i werthuso tystiolaeth, dadleuon a thybiaethau er mwyn gwneud a chyflwyno dyfarniadau cadarn o fwn trafodaeth strwythuredig yn ymwneud â diwylliant, damcaniaeth a dyluniad pensaernïol;
- Gwybodaeth o gyd-destun y diwydiant pensaer ac adeiladu a’r rhinweddau proffesiynol sydd eu hangen i wneud penderfyniadau mewn amgylchiadau cymhleth ac annaroganadwy.
- Y gallu i adnabod anghenion dysgu unigol a deall y cyfrifoldeb personol sydd ei angen am addysg broffesiynol bellach.
(* y term ‘cynorthwyydd pensaernïol’ yw teitl swydd y rheiny sydd ar y llwybr i gymhwyster proffesiynol fel pensaer nes cwblhau Rhan Tri. Efallai na fydd termau fel ‘pensaer cynorthwyol’, ‘pensaer dan hyfforddiant’ neu ‘bensaer rhan 1’ eu defnyddio gan fod y teitl ‘pensaer’ wedi’i amddiffyn gan statud a chaiff ond ei ddefnyddio gan y rheiny sydd ar y Gofrestr Penseiri (ar wahân i dri eithriad a nodir yn y Ddeddf Penseiri: ‘pensaer llyngesol’, ‘pensaer tirlun’ a ‘phensaer meysydd golff’).