Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd-brentisiaeth â’r nod o ddarparu profiad galwedigaethol llawn a digonol ym meysydd adeiladu, gan gynnwys Arolygu Adeiladau, Rheolaeth Adeiladu, Peirianneg Sifil a Mesur Meintiau.
Fel y dywed Caroline Gumble (Prif Swyddog Gweithredol y CIOB yn 2020), “Mae’r diwydiant adeiladu yn effeithio ar bawb, gan ddylanwadu ar gynhyrchiant a llesiant, creu’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, gweithleoedd a seilwaith sy’n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da,” ac mae’n mynd ymlaen i ddweud bod adeiladu yn “ddiwydiant cymhleth iawn ond eithriadol o gyffrous ac arloesol”.
Mae’r rheini sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu yn unig yn cyfrif am 6% o allbwn economaidd y DU, ond os gwnewch chi hefyd gynnwys y gwasanaethau megis syrfewyr meintiau, penseiri a pheirianwyr yn ogystal â llogwyr peiriannau a chyflenwyr adeiladu, mae’r allbwn yn agosach at ddwbl hynny. Mae hyn yn ganran fawr o allbwn economaidd y DU. Hefyd, mae swyddi adeiladu’n talu’n dda, gan dalu cyfartaledd o 5% yn fwy na diwydiannau eraill, ac mae gan raddedigion yn y maes gyfleoedd yn y DU a thramor mewn amrywiaeth o yrfaoedd boddhaus.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth hyn mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa yn y diwydiant.
Mae’r rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith.
Gall y Prentisiaethau hyn redeg dros gyfnod o 4 blynedd, yn dibynnu ar y lefel mynediad a phrofiad addysgol blaenorol, gyda diwrnodau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith yn cael eu cynnal yn Adeilad IQ y Brifysgol ar y campws newydd yn SA1, Abertawe.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Fel arfer, asesiadau ffurfiannol neu grynodol yw’r rhai a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn ac maent wedi’u cynllunio i sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau. Fel arfer, bydd yr asesiadau hyn ar ffurf ymarferion ymarferol lle mae dull ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr ar amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn para ddwy awr.
Mae arholiadau’n ddull traddodiadol o wirio mai gwaith y myfyriwr yntau yw’r gwaith a gynhyrchwyd. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae gofyn mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau’r ymchwil ar lafar/yn weladwy i’r darlithydd a chyfoedion, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn. Mae’r strategaethau asesu hyn yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r nod yw creu gwaith sydd dan arweiniad myfyrwyr, yn unigol, yn adfyfyriol a phan fo’n briodol, wedi’i gyfeirio at alwedigaeth. Bydd adborth i fyfyrwyr yn digwydd ar ddechrau’r cyfnod astudio ac yn parhau gydol y cyfnod astudio a thrwy hynny ganiatáu ar gyfer ychwanegu gwerth o’r radd flaenaf at yr hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu.