Llun a chyflwyniad
Darlithydd a Rheolwr Prosiectau
Canolfan Gwasanaethau Cymraeg, Peniarth a Rhagoriaeth
Ffôn: 01267225110
E-bost: kara.lewis@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Darlithydd ar gyrsiau Cymraeg y Cynllun Sabothol i ymarferwyr addysg yw Kara, yn arbenigo mewn methodoleg addysgu a dysgu iaith yn ogystal â chyfrannu at y ddarpariaeth Gymraeg ar gyrsiau BA Addysg a TAR.
Mae Kara hefyd yn rheoli’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith ar gyfer y Brifysgol.
Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys dylunio cwricwlwm, awduro cyrsiau yn ogystal â chyfrannu at gyhoeddiadau a darpariaeth Peniarth.
Cefndir
Mae Kara wedi gweithio ym maes addysgu’r Gymraeg drwy gydol ei gyrfa. Mae wedi gweithio mewn prifysgolion i awduro a darparu cyrsiau Cymraeg i’r gymuned, y gweithlu addysg a’r gweithluoedd gofal a meddygol.
Yn ogystal, yn ei rôl fel Cyfarwyddydd Canolfan Madog, Prifysgol Rio Grande, roedd yn trefnu digwyddiadau, prosiectau ymchwil a chynnal gweithgarwch rhyngwladol ynghyd â rheoli rhaglen cyrsiau Cymraeg a Chymreig is-raddedig.
Am gyfnod buodd yn ddarlithydd Is-deitlo i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac yn awr yn cyfrannu at y Dystysgrif Ôl-raddedig is-deitlo yn PCYDDS.
Mae wedi teithio’n helaeth ledled gogledd America yn darlithio, dysgu a chynnal gweithdai gyda chyrff fel Cymdeithas Madog, NAASWCH a’r NAFOW.
Aelod O
- 2023–2024 Cymrawd Leap
Diddordebau Academaidd
- Cynllun Sabothol
- BA Addysg
- TAR
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol
Meysydd Ymchwil
- Polisi a Chynllunio Iaith
- Isdeitlo
- Technoleg a dysgu ac addysgu iaith
- Methodolegau dysgu ac addysgu’r Gymraeg
- Llesiant a gofal bugeiliol myfyrywyr a staff
Arbenigedd
- Addysgu’r Gymraeg fel ail iaith
- Caffael iaith
- Methodolegau a dulliau caffael iaith
- Technoleg ac addysgu’r Gymraeg
- Llesiant a gofal bugeiliol
Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori
- Bwrdd Ymgynghorol Impact Wales 2022–2023
- Arweinydd Addysgiadol ieithgar.cymru
Cyhoeddiadau
- Llun a Thrin, Golygydd, Peniarth 2019
- Beth welwch chi? 2 gyda Llio Dyfri Jones, Maureen Williams, Meleri Jones, Rhian Davies, Nia Evans, Catrin Phillips, Catrin Evans-Thomas, Peniarth 2019
- Teach Yourself: Speak Welsh With Confidence, gyda Christine Jones, Hodder & Stoughton 2006