Skip page header and navigation

Siobhán Eleri BA, MSc

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd mewn Addysg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: s.eleri@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Darlithydd mewn Addysg –
    • yn cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio rhaglenni hyfforddiant athrawon (Rhagoriaith),
    • yn annog myfyrwyr israddedig i ddatblygu eu hastudiaethau mewn addysg (Blas ar Ddysgu)
  • Gweithio fel rhan o wahanol dimau yn y brifysgol ar wahanol brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ym maes addysg a seicoleg (ERiS, CAMAU, Fframwaith Llesiant)

Cefndir

Rwy’n Ddarlithydd mewn Addysg yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant. Ar ôl cwblhau fy ngradd dosbarth cyntaf mewn BA Addysg Gynradd gyda SAC yn Y Drindod Dewi Sant, yna datblygais fy astudiaethau ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio MSc mewn Seicoleg. Ar ôl graddio a chael profiad fel athrawes dosbarth, dychwelais i weithio yn y brifysgol fel Cynorthwyydd Ymchwil mewn Addysg. Gwnes wir fwynhau ennill gwahanol safbwynt ym maes addysg a chefais fy nyrchafu’n Ddarlithydd ym mis Medi 2022.

Aelod O

  • Cymdeithas Seicolegol Prydain
  • Cyngor y Gweithlu Addysg

Diddordebau Academaidd

Yn ddiweddar, rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr ar brosiect ‘CAMAU i’r Dyfodol’, prosiect ymchwil cydweithredol rhwng Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glasgow a Llywodraeth Cymru. Un o nodau’r prosiect oedd cefnogi datblygiad y cwricwlwm a deall dilyniant mewn Dyfodol Llwyddiannus – prosiect cyffrous i fod yn rhan ohono yn yr hinsawdd bresennol.

Mae gennyf ddiddordeb brwd ym maes addysg yn ogystal â seicoleg a’r berthynas rhwng y meysydd astudio diddorol a phwysig hyn. O ganlyniad i hyn, rwy’n gweithio ar hyn o bryd gyda chydweithwyr ar brosiect arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gweithredu’r Fframwaith Llesiant mewn ysgolion yng Nghymru.

At hyn, rwy’n mwynhau arsylwi ar sut mae ysgolion yn ymgysylltu ag ymchwil eu hunain ar hyn o bryd. Rwy’n rhan o brosiect arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth, gan edrych ar sut mae ysgolion yn ymgysylltu ag ymholiad ac ymchwil ar hyn o bryd gyda golwg ar alluogi twf yn y maes hwnnw.

Meysydd Ymchwil

  • Mae fy niddordebau ymchwil ym meysydd addysg a seicoleg.