Prentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng Anrh)
Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol wrth gynnal trylwyredd academaidd.
Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu’r wybodaeth am beirianneg drydanol ac electronig sydd ei hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern.
Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel MATLAB, Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft.
Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a fu’n bosibl drwy roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol gyda’r dechnoleg orau sy’n cael ei defnyddio mewn diwydiant ar hyn o bryd.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod gyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. Mae cyflogwyr yn uchel eu parch at yr arbenigedd a’r sgiliau byddwch yn eu datblygu drwy ddylunio a gweithredu atebion i broblemau penodol fel rhan o dîm.
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Asesir cynnydd drwy gyfuniad o waith ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Yn aml asesir modylau drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gallai marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a osodir a’u cwblhau yn ystod y modwl. Asesir gwaith prosiectau drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a feithrinwyd drwy’r cwrs i ddatrys problem beirianneg go iawn yn y gweithle.