Peirianneg Beiciau Modur (Llawn amser) (PGDip)
Mae PCYDDS Abertawe wedi bod yn cynnig Graddau Peirianneg Beiciau Modur ers mis Hydref 2003, sydd wedi’u datblygu i gefnogi’r diddordeb cynyddol yn y sector rasio beiciau modur a reidio arferol ar y ffyrdd.
Trwy astudio gradd PGDip mewn Peirianneg Beiciau Modur byddwch yn datblygu’r arbenigedd y byddwch ei angen i ddylunio, i ddatblygu ac i fireinio beiciau modur modern a beiciau cystadlu.
Mae’r cwrs yn cynnig cymysgedd dda o elfennau damcaniaethol ac ymarferol a ddysgir yn ogystal â chyfleoedd prosiect rhagorol sy’n ymwneud yn benodol â beiciau modur, aseiniadau sy’n ymwneud yn benodol â beiciau modur, a modiwlau ar ystod eang o bynciau sy’n gysylltiedig â beiciau modur, ac mae’r cwrs yn galluogi’r myfyriwr i deilwra eu hastudiaethau er mwyn bodloni eu hanghenion a’u dyheadau gyrfa eu hunain.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Roedd datblygu rhaglen gradd PGDip yn gam naturiol yn sgil llwyddiant y rhaglen israddedig Peirianneg Beiciau Modur, a’i nod yw parhau i ddatblygu eich dealltwriaeth, gan ddefnyddio’r cysylltiadau cryf rhwng y Brifysgol a’r Diwydiant fel sylfaen.
Mae’r cynllun gradd Beiciau Modur yn rhoi cyfle i’r myfyriwr gael profiad beirianneg beiciau modur ac o rasio beiciau modur ar y lefel uchaf.
Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau beiciau modur penodol fel Kalex, FTR, Yamaha WSB, Norton, Triumph a llawer o swyddi peirianneg anrhydeddus eraill, yn ogystal â gweithio gyda chwmnïau eraill sy’n ymwneud â moduro, fel McLaren, Ricardo, Mahle, JLR a llawer mwy.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd dosbarth 2:1 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Mae natur y rhaglen yn golygu y byddwn yn ystyried ymgeiswyr o amrywiaeth eang o wahanol gefndiroedd.
Cymwysterau Cyfwerth
Byddwn yn ystyried y rhain wrth wneud cynigion. Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael eu hystyried. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu cais.
Nid ar sail canlyniadau academaidd yn unig y byddwn yn gwneud cynigion. Byddwn yn ystyried eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad gwaith. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen.
-
Rydym yn defnyddio sawl fformat er mwyn asesu, gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs mwy arferol yn ogystal â dulliau asesu eraill sy’n fwy ‘diwydiannol’, megis gwaith maes ymyl y trac, tasgau gweithdy, asesiadau sy’n defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, ac arholiadau llafar a seminarau grŵp.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion llwybrau peirianneg beiciau modur PCYDDS wedi cael gwaith mewn ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg o fewn y Diwydiant Peirianneg Beiciau Modur a thu hwnt.
Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau beiciau modur fel Suzuki MotoGP, KTM MotoGP a Moto2, nifer o dimau Moto2, Kalex, FTR, Yamaha WSB, Norton, Triumph, yn ogystal â llawer o rolau peirianneg uchel eu parch eraill.
Maen nhw hefyd wedi cael llwyddiant yn y sector sy’n ymwneud â moduro, gan weithio gyda chwmnïau fel McLaren, Ricardo, Mahle, Jaguar Landrover, Aston Martin a llawer mwy.