Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Mae rhaglen ran-amser BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu wedi’i datblygu’n agos iawn gyda chwmnïau gweithgynhyrchu lleol i ddiwallu eu hanghenion penodol.

Mae’r graddau Baglor canlynol wedi’u hachredu yn rhai sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestriad Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) ar gyfer y carfannau sy’n dechrau o 2015 tan, a chan gynnwys, 2023.

Mae ein cwricwlwm sydd â ffocws ar y diwydiant, yn anelu at greu arweinwyr diwydiant peirianneg yfory.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nod y cwrs gweithgynhyrchu hwn yw datblygu myfyrwyr sydd â gwybodaeth gadarn am ddeunyddiau technoleg gweithgynhyrchu a’r egwyddorion peirianyddol sylfaenol sy’n llywio dulliau diwydiannol cyfredol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu’r dulliau diweddaraf o reoli systemau ansawdd a gweithgynhyrchu.

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Rheoli ac Awtomeiddio

(20 credydau)

Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg

(20 credydau)

Gwregys Gwyrdd Six Sigma

(20 credydau)

Rheoli Arloesedd a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Dynameg

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Technoleg Rheoli

(20 credydau)

Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu

(20 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd gydol y cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau