Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas
Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas
Mae’r Athrofa Dysgu Canol Dinas yn angerddol am ehangu gorwelion a chodi dyheadau myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol trwy ddatblygu eu potensial i’r eithaf.
Ein myfyrwyr a darparu amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol wedi’i deilwra sy’n ganolog i bopeth a wnawn, gan ysbrydoli myfyrwyr i gyflawni eu dyheadau personol a phroffesiynol yn llwyddiannus.
Trwy ddefnyddio ein sgiliau a’n gwybodaeth gyfunol, rydym yn paratoi ein myfyrwyr i wynebu’r heriau o astudio, byw a gweithio yng nghanol dinasoedd, gydag opsiynau astudio hyblyg naill ai yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.
Ein Cyrsiau a Lleoliadau
Ein Pynciau
Mae’r Athrofa Dysgu Canol Dinas yn darparu portffolio o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth yn ein campysau yn Llundain a Birmingham.
Yma, rydym yn canolbwyntio ar fusnes a sgiliau cymhwysol ar gyfer y gweithle, a byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn lle sy'n llawn brandiau byd-eang, busnesau annibynnol a busnesau newydd cyffrous. Byddwch wedi eich lleoli ar ein campws cyfeillgar a chroesawgar – a byddwch yn treulio tair blynedd yn byw yn un o ddinasoedd mwyaf cyffrous y byd.
Ymgollwch ym mwrlwm Birmingham, dinas sy’n enwog am ei phobl, ei bwyd a’i gwyliau diwylliannol - bydd rhywbeth i’ch difyrru trwy’r adeg. Mae PCYDDS Birmingham yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. A’r cyfan mewn dinas sy’n llawn cyfleoedd.