Skip page header and navigation

Introduction

Mae’r adran ehangu mynediad a recriwtio myfyrwyr yn cynnal cwrs preswyl ar draws campysau Caerfyrddin, Abertawe a Llambed yn nhymor yr haf 2024. Bydd y cwrs preswyl yn rhoi blas i fyfyrwyr 16-17 oed ar fywyd prifysgol unigryw Y Drindod Dewi Sant.

Sylwch y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n bodloni o leiaf un o’r meini prawf hyn, ond nid yw bodloni’r meini prawf yn gwarantu lle ar y rhaglen gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

  • Byw mewn côd post MALIC40
  • Bod mewn gofal, neu wedi byw mewn gofal ar un adeg
  • Bod yn ofalwr
  • Bod wedi’ch dieithrio o’ch rhieni
  • Bod ag anabledd dysgu neu gorfforol, gan gynnwys salwch hirdymor
  • Bod heb brofiad o’r brifysgol yn y teulu

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn, mae croeso i chi gyflwyno cais a gallwn archwilio’r mater ymhellach.

Dyma’r cyrsiau sydd ar gael eleni

  • Addysg- gweithio gyda plant a phobl ifanc yn y gymuned
  • Athroniaeth
  • Busnes
  • Chwaraeon, Iechyd a Gweithgareddau Awyr Agored
  • Cyfraith a Chriminoleg
  • Cyfrifiadura - Seiberddiogelwch a Diogelwch Fforensig
  • Cynhyrchu Cyfryngau Digidol
  • Dylunio Cynnyrch
  • Dyniaethau
  • Hanes
  • Iechyd a Gofal Digidol
  • Lletygarwch
  • Peirianneg Chwaraeon Moduro
  • Plismona
  • Ysgrifennu Creadigol

Gofynnir i chi ddewis DAU opsiwn (dewis cyntaf ac ail ddewis)

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio : 10 Mai 2024

Sylwer, oherwydd cyfyngiadau o ran ariannu, mae’r rhaglen yn cadw’r hawl i ddiwygio, tynnu’n ôl, canslo, newid neu gyfuno unrhyw raglen, leoliad neu gyfleuster, neu ran ohonynt, ar unrhyw adeg.

Cadwch Le