Skip page header and navigation

Pwy Ydym Ni?

Mae’r Gaplaniaeth yng Nghaerfyrddin yma i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Rydym yn gobeithio bydd eich cyfnod yn y brifysgol yn gyffrous ac yn fuddiol, ac yn darparu sylfaen wych ar gyfer y dyfodol.

Caplaniaeth

I gysylltu â ni, cysylltwch â Mones Farah, sef yr unigolyn cyswllt presennol ar gyfer cymorth bugeiliol.

Beth yw’r Gaplaniaeth? Rydym yn cynnig cymorth mewn dwy ffordd benodol:

Mae’r Gaplaniaeth yn Cefnogi Bywyd Ysbrydol y Brifysgol.

Trwy fywyd y Capel mae’n cynnig cyfleoedd rheolaidd i’r myfyrwyr a’r staff:

  • Addoli
  • Darganfod ffydd am y tro cyntaf
  • Archwilio ysbrydolrwydd
  • Bod yn rhan o gymuned sy’n tyfu o bobl sy’n gofalu am ei gilydd,  lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi

Mae’r Gaplaniaeth yn cynnig gofal bugeiliol i bob aelod o’r Brifysgol

Mae bob un ohonom angen rhywun i wrando arnom a chymorth i’n tywys drwy gyfnodau anodd o bryd i’w gilydd. Mae’r Caplan yn darparu gweinidogaeth gyfrinachol, ddwyieithog sydd ar gael i staff a myfyrwyr o bob cefndir ac ymlyniad crefyddol. Mewn ffordd fwy anffurfiol, mae’r rhai sy’n gysylltiedig â bywyd y Capel yn cefnogi ei gilydd mewn sawl ffordd, ac yn aml yn creu cyfeillgarwch dwfn sy’n parhau.

  • Mae’r Capel yn rhan o adeilad yr Hen Goleg, gyda mynedfa ar y prif goridor gyferbyn â’r Cwad.

    • Rydym yn addoli yma’n ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r Capel ar agor drwy’r dydd fel man tawel i weddïo, myfyrio neu fod yn llonydd.
    • Cedwir y sagrafen fendigedig yma a gall yr eiconau gwreiddiol, o waith y Chwaer Theresa Margaret CHN, fod o gymorth i’n harwain mewn gweddi.
    • Yma, gallwch gynnau cannwyll fel arwydd o’ch gweddi dros rywun neu adael cais am weddi ar y bwrdd gweddi, gan wybod y bydd rhywun arall yn parhau i weddïo dros eich pryderon penodol chi.

    Lolfa’r Capel

    Dyma’r ystafell rydych chi’n mynd drwyddi ar y ffordd i mewn i’r Capel: lle o letygarwch a chymdeithasu, chwerthin a hwyl, bwyta ac yfed, astudio a datblygu.  Mae croeso i chi ymlacio yma ar un o’r soffas rhwng eich darlithoedd, cael eich ysgogi i weithio dros heddwch a chyfiawnder neu bori drwy lyfr i’ch ysbrydoli.  

  • Gwasanaethau a Digwyddiadau Rheolaidd

    Rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn adlewyrchu ieithoedd y campws cymaint â phosibl. Dyma’r patrwm addoli arferol yn y Capel (yn ystod y tymor yn unig):

    Hwyrol weddi bob yn ail wythnos â’r Cymun Sanctaidd, dyddiau Llun, 5.15pm

  • Pererindod i Taizé

    Pentref bychan yn Nwyrain Ffrainc yw Taizé sydd ers y 1940au yn gartref i gymuned Gristnogol ryfeddol. Heddiw mae pobl ifanc o bedwar ban byd ac o gefndiroedd amrywiol eu ffydd yn ymweld ar gyfer wythnos o weddi, astudio a hwyl mewn lleoliad arbennig.

    Rhaid ei brofi er mwyn ei werthfawrogi: mae’n ddigwyddiad all newid eich bywyd! Rydym yn gobeithio trefnu pererindod y Gaplaniaeth yno; cysylltwch â’r Caplan am ragor o fanylion.

  • Mae casgliad o lyfrau gennym yn Lolfa’r Capel sydd ar gael i’w benthyg. Mae’r themâu yn cynnwys astudiaethau Beiblaidd, diwinyddiaeth, ysbrydolrwydd, litwrgi, moeseg a chyfiawnder cymdeithasol.

  • Dydd Gŵyl Dewi

    Cynhelir gwasanaeth yn y Capel i ddathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant.  Croeso cynnes i bawb.