Cyfleusterau Technoleg Cerddoriaeth Greadigol
Introduction
Ymhlith y cyfleusterau arbenigol sydd gennym ar gyfer ein cyrsiau Technoleg Cerddoriaeth mae Neuadd y BBC, dwy stiwdio recordio o safon diwydiant, cyfleuster cymysgu analog, a Stiwdio Gymysgu Dolby Atmos 9.1.4.
Facilities include:
Neuadd y BBC hanesyddol, a ailadeiladwyd yn 1951, yw un o fannau acwstig gorau’r DU, ac mae’n defnyddio Cyseinyddion Hemlholtz. Gellir ei defnyddio i recordio popeth o gerddoriaeth boblogaidd, cerddorfeydd, cantorion opera, bandiau jazz a chyfansoddwyr-cantorion. Mae artistiaid amrywiol, fel Dylan Thomas Peter Sellers a Catatonia wedi defnyddio’r stiwdios.
Cynigir hyfforddiant dwys mewn ystod eang o sgiliau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thechnoleg cerddoriaeth. Mae’r casgliad o stiwdios yn y brifysgol yn llawn offer sy’n cynnig ystod eang o feddalwedd a chaledwedd o safon diwydiant a mannau recordio a pherfformio pwrpasol.
Mae ein stiwdios yn rhedeg ar orsaf waith Apple, ac mae’r feddalwedd yn cynnwys ystod eang o ategion a chymwysiadau sain, megis:
- Pro Tools
- Logic Pro X
- Ableton Live
- Reaper
- Adobe Creative Suite
- Native Instruments Komplete
- Waves Mercury
- iZotope Everything
- Fab Filter Total
- Sound Toys
- GRM Tools
- Spitfire Audio Albion One
- Spitfire Audio Symphonic Motions
- Output
- HeavyM Pro
- Pure Data
- Open Broadcast Studio (OBS)
- Cecelia
Gall ein myfyrwyr fenthyg offer i gefnogi eu hastudiaethau. Mae hyn yn cynnwys rhyngwynebau sain, microffonau, offer recordio ar leoliad, clustffonau, a llawer mwy.
Oriel
Mynediad a rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.