Campfa Canolfan Chwaraeon Caerfyrddin
Mae’r gampfa yn cynnwys amrywiaeth eang o beiriannau cardio a phwysau sy’n addas i bawb! Rydym yn estyn croeso i bawb, o’r dechreuwr pur i’r athletwr profiadol, i ddefnyddio’n cyfarpar a’n peiriannau.
Gallwch roi cynnig ar ddefnyddio ein campfa ar sail talu-wrth-fynd, neu gallwch ymaelodi.
-
- Wattbike
Mae ein sesiynau yn agored i feicwyr o bob gallu, gyda phawb yn gweithio ar lefel bersonol i wella eu sgiliau beicio a’u ffitrwydd cyffredinol.
Mae’r niferoedd yn cael eu cadw’n isel, fel bod pawb yn cael y sylw unigol sydd ei angen arnyn nhw.Mae angen archebu lle ymlaen llaw.
Dydd Llun a dydd Gwener 7 a.m. - 8 a.m.
- HIIT (Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel)
Mae’n cynnwys cyfnodau o ymarferion cardio a chryfder dwysedd uchel ynghyd â chyfnodau byr o adfer rhyngddyn nhw, ac mae’n ffordd wych o gael sesiwn ymarfer bwerus gyda nifer o fuddion a hynny mewn amser byr.
Dydd Llun 12:00 p.m. - 12:30 p.m.
- Sesiynau ymarfer eich hun
Os na allwch ddod i ddosbarth penodol, peidiwch â phoeni. Gallwch chi ddilyn un o’r cynlluniau ymarfer parod, gofynnwch am un wrth gyrraedd.
-
- Cyfarpar a Pheiriannau Cardiofasgwlaidd
- Tredmil Technogym
- Excite Top – Beicio llaw
- Beic Gorwedd Excite
- Peiriannau Croes-ymarfer Synchro
- Cyfarpar dringo
- Watt Bike Pro
- Watt Bike Atom
- Ffitrwydd Air Bike Elite Assault
- Ski Erg – concept 2
- Skillrow – Peiriant rhwyfo
- Skillmill
- Cyfarpar a Pheiriannau Gwrthiant
- Cyfarpar Gwasgau Brest
- Peiriant i Ymarfer Cyhyrau’r Cefn
- Cyfarpar deuol ymestyn/cyrliadau coesau
- Cyfarpar Gwasgau Coesau
- Gwasgau Ysgwyddau
- Cyfarpar i ymarfer cyhyrau’r abdomen
- Cyfarpar i ymarfer rhan uchaf y cefn
- Meinciau addasadwy
- Mainc Fflat Olympaidd
- Peiriant Smith - Aml-bŵer
- Pwli deuol addasadwy
- Dymbelau 4kg-42kg
- Bariau pŵer Olympaidd
Mae’r offer yn cael eu cyflenwi gan TechnoGym - The Wellness Company, Wattbike a Concept 2 Indoor Rower.
-
Yn rhad ac am ddim i Fyfyrwyr a Staff
Pwll nofio dan do 20m x 5m wedi’u gynhesu. Mae’r pwll nofio yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff y Brifysgol ei ddefnyddio.Mae’r pwll nofio hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darlithoedd yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored (mae amserlen y pwll yn cael ei diweddaru bob tymor).
Mae nofio yn ymarfer corff gwych i’r corff cyfan. Mae dŵr yn rhoi mwy o ymwrthedd i’ch grwpiau cyhyrau weithio yn ei erbyn ac yn cynnal rhywfaint o bwysau eich corff gan leihau’r straen ar eich cymalau.
Oriau Agor (yn ystod y tymor)
Dydd Llun i Ddydd Gwener
8am - 10am a 12 pm - 1 pmMae’r pwll nofio yn cael ei logi’n allanol yn ystod yr wythnos o 4:00pm ar gyfer gwersi nofio i blant. Am ragor o wybodaeth, ewch i Wefan Swim Champs.
Mae amseroedd agor yn cael eu cwtogi y tu allan i’r tymor ac yn gyffredinol mae’r pwll nofio ar agor rhwng 10am a 2pm yn ystod yr wythnos yn unig.
-
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Chwaraeon Caerfyrddin, mae’r Clinig Cymal Ofal, sy’n eiddo i’r Ffisiotherapydd Siartredig Mark Brownless, yn cynnig clinigau ffisiotherapi arbenigol i drin anafiadau chwaraeon, problemau meinwe meddal a phob cyflwr orthopedig.
Ewch i Wefan Clinig Cymal Ofal am fwy o wybodaeth.
Clinig Cymal Ofal y Ganolfan Chwaraeon
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Canolfan Chwaraeon)
Caerfyrddin
SA31 3EP
Ffôn: 07970 657041
E-bost: info@jointcareclinic.co.uk“Ymunais i â’r gampfa dros 10 mlynedd yn ôl ar ôl ymweld â’r Clinig Cymal Ofal ar ôl cael anaf cas.
Cefais gyngor i ymuno â’r gampfa i fy helpu i wella. Fe ddilynais i’r raglen hyfforddi ges i gan staff y ganolfan chwaraeon i fy helpu wrth wella o fy anaf a dw i wedi bod yma ers hynny!
Mae ansawdd y cyfleusterau’n dda iawn ac yn berffaith addas i’r hyn rydw i eisiau ei wneud. Rwy’n teimlo bod cydbwysedd perffaith o ran peiriannau cardio a pheiriannau gwrthiant/pwysau.”
Dave Crawford -
Mae’r neuadd chwaraeon yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys pêl-fasged, badminton, pêl-droed, pêl-rwyd a dringo creigiau. Gellir llogi’r neuadd hefyd ar gyfer digwyddiadau heblaw chwaraeon megis cynadleddau.
Llogi ar gyfer Chwaraeon Unigol
Sport Price Tennis £10 yr awr Tennis Bwrdd £8 yr awr Badminton (ar gyfer 1 cwrt - mae 4 cwrt ar gael) £8 yr awr Pêl-fasged (Hanner Cwrt) £20 yr awr neu £4 y person yr awr ar gyfer defnydd unigol/ ymarfer personol (uchafswm o 4 person) Llogi Cyfarpar
£1.50 yr eitem (racedi tennis a badminton, peli, ac ati)Llogi ar gyfer Partïon
Bwriad y pecyn partïon yw hwyluso’r gwaith o drefnu parti pen-blwydd neu unrhyw ddathliad arall.Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr gael hwyl dan ofal goruchwyliwr. Mae’r chwaraeon sydd ar gael yn cynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, pêl-foli a nifer o chwaraeon raced.
Os oes angen, mae modd trefnu lluniaeth yng Nghanolfan Halliwell i gwblhau’r dathlu.
Partïon yn y Pwll
Mae partïon yn y pwll nofio yn rhoi amser da i blant (a rhieni) o bob oed, dan oruchwyliaeth ein hachubwyr bywyd cymwysedig bob amser. Gallwch drefnu parti yn y pwll gyda fflotiau a theganau pwll – sy’n ddelfrydol i blant iau.- (Fel rheol gyffredinol, y gymhareb oedolion i blant yn y pwll yw un oedolyn i bob dau blentyn dan 8 oed).
Canslo Archebion
Mae Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw archeb o ganlyniad i’r tywydd neu unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â defnydd arall o’r cyfleusterau ar y diwrnod archebu neu’n fuan wedi hynny.
Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i roi gwybod i’r llogwr ynglŷn â chanslo trefniadau gan roi cymaint o rybudd â phosibl.
Rhaid i’r llogwr roi rhybudd o wythnos am ganslo trefniadau (48 awr ar gyfer defnyddwyr achlysurol), a rhaid i’r Brifysgol dderbyn y rhybudd yn ysgrifenedig.
Caiff trefniadau llogi eu canslo os na fydd y grŵp yn bresennol am ddwy sesiwn yn olynol heb roi rhybudd ysgrifenedig.
Mae’r drefn ar gyfer newid trefniadau llogi yn dilyn yr un canllawiau â’r rhai ar gyfer canslo.Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar e-bost sportscentre@utwsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01267 676942. I logi’r neuadd chwaraeon, llenwch y Ffurflen Llogi’r Ganolfan Chwaraeon isod a’i hanfon atom ar e-bost.
Rydym wedi ein lleoli ar Gampws Caerfyrddin PCYDDS, mae’r gampfa yng Nghanolfan Chwaraeon Caerfyrddin.
Parcio
- 4 lle parcio i’r anabl ychydig bellter o’r brif fynedfa gyda chyrbiau isel a phalmentydd cyffyrddol.
- Rac beic safonol wrth ochr y brif fynedfa.
Prif Dderbynfa
- Drysau mynediad awtomataidd yn arwain at y dderbynfa.
Ystafelloedd Newid a Thoiledau
- Cyfleuster toiled pwrpasol ar gyfer yr anabl.
Pris Aelodaeth
Myfyriwr PCYDDS |
Blynyddol - £125 Misol - £12 Talu wrth fynd - £4 |
Staff PCYDDS |
Blynyddol - £144 Misol - £12 Talu wrth fynd - £4 Staff a Phartner (Misol) - £24 Staff a Phartner (Blynyddol) - £275 |
Myfyrwyr |
Blynyddol - £145 Misol - £20 Talu wrth fynd - £4 |
Y Cyhoedd |
Blynyddol - £200 Misol - £25 Mis (untro) - £30 Talu wrth fynd - £5 Misol i gyplau - £32 Blynyddol i gyplau - £350 |
Pobl hŷn (dros 60 oed) |
Misol - £20 Talu wrth fynd - £5 |
Mae gan Ganolfan Chwaraeon Caerfyrddin y cyfarpar ar gyfer pob lefel, gan gynnwys campfa, a dwy neuadd chwaraeon. Hefyd, mae gennym bwll nofio ar y campws. Gydag amrywiaeth o opsiynau hyfforddi a dosbarthiadau ffitrwydd, mae ein cyfleusterau yn gyfle perffaith i ychwanegu ychydig o amrywiaeth at drefn arferol eich ymarfer corff. Er mwyn eich galluogi i gael y gorau o’n campfa, mae gan Ganolfan Chwaraeon Caerfyrddin amrywiaeth o opsiynau ar gyfer aelodaeth a dulliau talu.
-
Blynyddol - £125
Misol - £12
Talu wrth fynd - £4
-
Blynyddol - £144
Misol - £12
Talu wrth fynd - £4
Staff a Phartner (Misol) - £24
Staff a Phartner (Blynyddol) - £275
-
Blynyddol - £145
Misol - £20
Talu wrth fynd - £4
-
Blynyddol - £200
Misol - £25
Mis (untro) - £30
Talu wrth fynd - £5
Misol i gyplau - £32
Blynyddol i gyplau - £350
-
Misol - £20
Talu wrth fynd - £5
Sylwch: mae angen e-bost PCYDDS i greu cyfrif staff neu fyfyriwr PCYDDS. Bydd unrhyw gyfrifon sy’n cael eu creu gydag e-bost nad yw’n ymwneud â PCYDDS yn cael eu gwrthod.
Lawrlwythwch Ap Chwaraeon Caerfyrddin isod: