Bywyd Campws Llundain
Hwb Byd-eang yn Llundain, Amrywiol a Chefnogol
Dewch i ddarganfod amgylchedd addysgol deinamig PCYDDS yng nghanol Llundain. Gyda dosbarthiadau llai ac opsiynau astudio ar y penwythnos, rydym ni’n blaenoriaethu profiad dysgu rhyngweithiol sy’n darparu ar gyfer gofynion eich bywyd. Gan groesawu amrywiaeth, cynnig cymorth trwyadl i fyfyrwyr a rhaglenni astudio hyblyg ar y penwythnos, rydym ni’n meithrin amgylchedd cefnogol iawn lle mae dysgu’n brofiad diddorol i’w rannu. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn i’ch datblygiad cyfannol, gan gyfoethogi eich taith bersonol. Dewch i ymgolli yn un o ddinasoedd mwyaf cyfareddol a bywiog y byd ac archwilio’r amrywiaeth o fusnesau sydd wedi’u lleoli o gwmpas ein campws cyfeillgar, yn cynnwys brandiau byd-eang a busnesau newydd.
Crwydro Campws Llundain
Pam Llundain?
Camwch i ganol Llundain gyda’r Drindod Dewi Sant, lle mae ein campws bywiog yn golygu mwy na dysgu – mae ganddo ymrwymiad i gefnogi myfyrwyr aeddfed. Mae ein staff profiadol yn darparu cymorth pwrpasol, o weithdai i raglenni hyblyg, sy’n sicrhau eich llwyddiant. Byddwch yn meithrin cysylltiadau parhaus â darlithwyr ac yn profi awyrgylch dysgu deniadol.Yn PCYDDS Llundain, rydym ni’n ymdrechu i’ch cyflwyno i ddiwydiannau sy’n gysylltiedig â’ch diddordebau, gan ddarparu ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Dewiswch addysg sy’n gallu trawsnewid bywydau.
Archwiliwch fan dysgu deinamig lle mae rhaglenni’n darparu ar gyfer gofynion eich bywyd, gan gynnig dull pragmatig ar gyfer eich taith addysgol gyda PCYDDS Llundain.
What You’ll Study
Ymgollwch ym Mrifddinas Diwylliant
Torrwch eich cwys eich hunan mewn dinas sy’n ffynnu ar wahaniaeth, amrywiaeth a pherthyn. Cewch fwyta bwyd o bob cwr o’r byd ac ymweld ag arddangosfeydd gan artistiaid rhyngwladol.
Mwynhewch y gigs, y cyngherddau a’r nosweithiau clwb di-ben-draw gan gerddorion, perfformwyr a DJs byd-enwog. Mae lle i bawb yn Llundain.
Beth Fyddwch chi'n ei Astudio
Beth Fyddwch chi'n ei Astudio
Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Llundain yn eich paratoi ar gyfer y gweithle - ac ar gyfer gwneud argraff ar gyflogwyr.
Mae ein campws yn Llundain yn cynnig rhaglenni hyblyg, sy’n golygu y cewch ddigonedd o amser i ryngweithio ac i ddod i adnabod eich athrawon a’ch cyd-fyfyrwyr. A chan y byddwch chi’n astudio yn un o ganolfannau busnes mwyaf y byd, byddwch yn creu cysylltiadau â pha bynnag ddiwydiant sydd o ddiddordeb i chi.
Book an Open Day
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Sut i gyrraedd ein campws yn Llundain
Sut i gyrraedd ein campws yn Llundain
Mae Llundain yn ddinas gyfareddol a deinamig sy’n cynnig profiad addysg dihafal sydd o’r radd flaenaf. Wedi’i lleoli yng nghanol ardal ariannol ffyniannus Llundain, mae ein campws newydd yn Llundain yn Canary Wharf yn ymgorffori asiad diwydiant a’r byd academaidd.