Skip page header and navigation

Teithio i Gaerfyrddin

Mae ein Campws yng Nghaerfyrddin o fewn pellter cerdded i ganol y dref.  Dyma dref llawn hud a hanes.  Gyda’i chastell hardd uwch Afon Tywi, bydd harddwch Caerfyrddin yn ysbrydoliaeth drwy gydol eich amser yma.  

Rydym yn deall bod pob taith yn unigryw, dyna pam ein bod wedi mynd ati i gasglu gwybodaeth gynhwysfawr am yr holl wahanol ffyrdd o deithio, er mwyn gwneud eich taith i’n campws yng Nghaerfyrddin mor hwylus ag sy’n bosibl.

Parcio

Cyflwynodd Campws Caerfyrddin System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.

Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig, gall ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid talu i barcio trwy un o’r mesuryddion talu neu’r Ap PayByPhone ar yr arwyddion sydd ar gael.

Lleoliad Campws Caerfyrddin

Teithio …
  • Mae Campws Caerfyrddin tua 30 munud ar droed o naill ai gorsaf bysys neu drenau Caerfyrddin

    Cynlluniwch eich Taith
  • Mae Campws Caerfyrddin yn hygyrch o Lwybr Beicio Cenedlaethol 4 ac mae llawer o barthau ar gael ar y campws i gloi’ch beic.

  • Mae gan Gaerfyrddin rwydwaith gynhwysfawr o wasanaethau bws, sy’n cysylltu â Champysau Caerfyrddin ar Ffordd y Coleg a Heol Ffynnon Job.  Golyga hyn bod ein campws yn hawdd ei gyrraedd ar ddulliau trafnidiaeth eco-gyfeillgar.

  • Mae gan Orsaf Drenau Caerfyrddin gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o Abertawe, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Manceinion Piccadilly ac yn ôl.  Awgrymwn eich bod yn defnyddio Traveline.cymru i gynllunio’ch taith ymlaen llaw. 

    Dim ond taith 26 munud ar droed o’r orsaf mae ein campws, neu edrychwch ar yr adran ‘Ar fws’ am fysys rheolaidd sy’n stopio’n agos i’n campws.

  • Os ydych chi’n gyrru i PCYDDS, Campws Caerfyrddin, Caerfyrddin, SA31 3EP.

    Diwrnodau Agored

    Os ydych chi’n mynychu diwrnod agored, mae parcio am ddim ar gael ar gampws Caerfyrddin. 

    Parcio i Ymwelwyr

    Mae gan ein campysau ni gysylltiadau gwych o ran cludiant cyhoeddus. Gweler yr adrannau Bws, Trên a Beic uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd ein campws trwy gludiant cyhoeddus.  

    Cynlluniwch eich Taith
Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Teithio Gwyrdd

Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.